The following is an advert where the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential.
Am y rôl
Rydym yn chwilio am berson egniol a brwdfrydig i redeg clwb ar ôl ysgol. I gychwyn rydym yn treialu dau ddiwrnod – Dydd Llun a Dydd Mercher 3.30 – 5.15 o’r gloch gyda’r gobaith y bydd galw am fwy o ddiwrnodau. Rydym yn gobeithio y bydd gweithgareddau hwyliog amrywiol a drefnir gan ein arweinwyr clwb a chyfle i ymlacio ar ôl diwrnod ysgol o fewn y clwb yn apelio i’r plant ac y bydd nifer yn manteiso ar y cyfle i fynychu.
Mi fydd y tâl yn unol â thâl lefel 2 ar y raddfa dâl cynorthwyyr dosbarth ac mi fydd y cytundeb yn un tymor yn unig ac yn un sero awr i gychwyn.
Prif Gyfrifoldebau
- Goruchwylio a chynnwys plant mewn amrywiaeth o weithgareddau.
- Cefnogi datblygiad cymdeithasol, emosiynol a chorfforol plant.
- Cynorthwyo gyda pharatoi a chyflwyno gemau, crefftau a chwarae awyr agored.
- Darparu lluniaeth a chynnal amgylchedd glân a diogel.
- Dilyn polisïau diogelu, iechyd a diogelwch, a chlwb bob amser.
- Meithrin perthnasoedd cadarnhaol gyda phlant, rhieni a chydweithwyr.
Amdanoch Chi
Rydym yn chwilio am rywun sydd:
- Yn mwynhau gweithio gyda phlant a’u helpu i ffynnu.
- Yn meddu ar sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol.
- Yn ddibynadwy, yn frwdfrydig, ac yn gallu gweithio fel rhan o dîm.
- Yn dangos amynedd, caredigrwydd, ac ymagwedd ofalgar.
- Yn meddu ar brofiad blaenorol o weithio gyda phlant (yn ddymunol ond nid yn hanfodol).
Os ydych am wybodaeth pellach croeso i chi gysylltu gyda’r Pennaeth Miss Anwen James trwy ebost [email protected]
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.