Senior Professional Specialist in Technical Innovation and Development
Centre for Trials Research (CTR)
College of Biomedical & Life Sciences
The Centre for Trials Research at Cardiff University is a large, multinational community of researchers, professional services staff and students from a diverse range of backgrounds.
We tackle the big diseases and health concerns of our time by forming partnerships with researchers and building lasting relationships with the public.
You will work as a Senior Software Developer within the Centre for Trials Research (CTR), designing, developing, and maintaining clinical trial information systems using modern PHP-based web frameworks. You will contribute across the full development lifecycle, ensuring applications are secure, reliable, and suitable for use in validated clinical research environments.
You will have strong experience building web applications using PHP, HTML, JavaScript, and relational databases, working in Linux server environments and using Git. The role involves contributing to system architecture, developing reusable components, supporting releases across development, test, and production environments, and resolving complex technical issues across multiple platforms.
You will work closely with multidisciplinary teams to translate study requirements into technical solutions. You will provide specialist guidance on application design, data management, security, authentication and access control, and system integration, and will lead small-scale development initiatives where required.
This position suits a self-motivated and detail-oriented individual who can manage priorities, communicate effectively with technical and non-technical colleagues, and take ownership of delivered work. You will bring a pragmatic and professional approach to software development, balancing technical quality with reliable delivery.
With a culture of continuous professional and career development the Centre has an excellent track record of helping people develop in their areas of interest, with many progressing within the Centre itself, the wider University or further afield.
For informal discussions, please contact the recruiter Nigel Kirby (Head of Data and Technology/Research Fellow) by email
[email protected] or by phone (0)29 20687517.
This position is full-time (35 hours per week), available from 1st July 2026 and fixed-term until 31st December 2028.
This role is eligible to be offered on a blended working basis, meaning that as well as spending time working on campus, you can also choose to spend some time working from another location, e.g your home. The University is committed to offering this flexibility, wherever the role and business need allows, supporting work-life balance.
Salary: £41,064 - £46,049 per annum (Grade 6). Appointments to roles at Cardiff University are usually made at bottom of scale unless in exceptional circumstances.
Cardiff University offers many excellent benefits, including 45 days annual leave (incl. bank holidays), local pension scheme, a cycle to work scheme and other travel initiatives, annual increments within the pay scale, and more. It's an exciting and vibrant place to work with many different challenges and is a proud Living Wage supporter. Business needs will require some degree of office-based working but the balance of time can be spent in the office or remotely (subject to agreement with the line manager)
.
Date advert posted: Thursday, 13 August 2026
Closing date: Sunday, 30 August 2026
Cardiff University is committed to supporting and promoting equality and diversity and to creating an inclusive working environment. We believe this can be achieved through attracting, developing, and retaining a diverse range of staff from many different backgrounds. We therefore welcome applicants from all sections of the community regardless of sex, ethnicity, disability, sexual orientation, trans identity, relationship status, religion or belief, caring responsibilities, or age. We especially welcome and encourage applications from those under-represented groups within the University workforce, such as those who identify as LGBT+, Ethnic Minority or those with disabilities. In supporting our employees to achieve a balance between their work and their personal lives, we will also consider proposals for flexible working or job share arrangements.
Applications may be submitted in Welsh, and an application submitted in Welsh will not be treated less favourably than an application submitted in English.
Uwch-arbenigwr Proffesiynol mewn Arloesedd a Datblygiad Technegol
Canolfan Treialon Ymchwil (CTR)
Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd
Mae’r Ganolfan Treialon Ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd yn gymuned fawr, ryngwladol o ymchwilwyr, staff y gwasanaethau proffesiynol a myfyrwyr o ystod amrywiol o gefndiroedd.
Rydyn ni'n mynd i'r afael â chlefydau a phryderon iechyd mawr ein hoes trwy ffurfio partneriaethau ag ymchwilwyr a meithrin perthnasoedd parhaol â'r cyhoedd.
Byddwch yn Uwch-ddatblygwr Meddalwedd yn y Ganolfan Treialon Ymchwil (CTR) ac yn gyfrifol am ddylunio, datblygu a chynnal systemau gwybodaeth treialon clinigol gan ddefnyddio fframweithiau gwe modern sy'n seiliedig ar PHP. Byddwch yn cyfrannu ar draws cylch bywyd llawn y broses ddatblygu, gan wneud yn siŵr bod cymwysiadau'n ddiogel, yn ddibynadwy, ac yn addas i'w defnyddio mewn amgylcheddau ymchwil clinigol dilys.
Bydd gennych brofiad amlwg o adeiladu cymwysiadau gwe drwy ddefnyddio PHP, HTML, JavaScript, a chronfeydd data perthynol, ac yn gweithio mewn amgylcheddau gweinydd Linux ac yn defnyddio Git. Yn rhan o'r rôl byddwch yn cyfrannu at bensaernïaeth systemau ac yn datblygu cydrannau y gellir eu hailddefnyddio. Byddwch hefyd yn cynorthwyo diweddariadau ar draws amgylcheddau datblygu, yn profi a chynhyrchu, yn ogystal â datrys problemau technegol cymhleth ar draws sawl platfform.
Byddwch yn cydweithio'n agos â thimau amlddisgyblaethol i drosi gofynion astudio yn atebion technegol. Byddwch yn rhoi arweiniad arbenigol ar ddylunio cymwysiadau, rheoli data, diogelwch, dilysu a rheoli mynediad, ac yn integreiddio systemau. Byddwch hefyd yn arwain mentrau datblygu ar raddfa fach lle bo angen.
Mae'r swydd hon yn addas i unigolyn llawn cymhelliant ac sy’n rhoi sylw trylwyr i fanylion. Dylech chi allu rheoli blaenoriaethau, cyfathrebu'n effeithiol â chydweithwyr technegol ac annhechnegol, a chymryd perchnogaeth o'r gwaith a gyflawnir. Byddwch yn cynnig ymagwedd bragmatig a phroffesiynol at ddatblygu meddalwedd, gan gydbwyso ansawdd technegol â chyflwyno mewn modd dibynadwy.
Gyda diwylliant o ddatblygiad proffesiynol a gyrfaol parhaus mae gan y Ganolfan hanes rhagorol o helpu pobl i ddatblygu yn y meysydd sydd o ddiddordeb iddynt, gyda llawer yn symud ymlaen i gamau nesaf eu gyrfa yn y Ganolfan ei hun, yn y Brifysgol yn ehangach, neu ymhellach i ffwrdd.
Os oes gennych ymholiadau anffurfiol, cysylltwch â Nigel Kirby (Uwch-arbenigwr Proffesiynol mewn Arloesedd a Datblygiad Technegol)drwy ffonio:
[email protected] (0)29 20687517
Mae’r swydd hon yn un llawn amser (35 awr yr wythnos), Ar gael o 1af Gorffennaf 2026, tymor penodol tan 31 Rhagfyr 2028
Mae’r swydd hon yn gymwys i gael ei chynnig ar sail gweithio cyfunol. Mae hynny’n golygu, yn ogystal â threulio amser yn gweithio ar y campws, y gallwch dreulio rhywfaint o amser yn gweithio o leoliad arall, e.e. eich cartref. Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i gynnig yr hyblygrwydd hwn pan fo’r swydd ac anghenion y busnes yn caniatáu, a hynny er mwyn i chi allu sicrhau cydbwysedd rhwng eich gwaith a’ch bywyd personol.
Cyflog: £41,064 - £46,049 y flwyddyn (Gradd 6)
Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig pecyn buddion gwych, sy’n cynnwys 45 diwrnod o wyliau blynyddol (gan gynnwys gwyliau banc), cynllun pensiwn lleol, cynllun beicio i'r gwaith a chynlluniau teithio eraill, cynyddrannau blynyddol a mwy. Dyma le cyffrous a bywiog i weithio ynddo, lle byddwch yn wynebu nifer o wahanol heriau. Rydym hefyd yn falch o gefnogi’r Cyflog Byw.
Dyddiad hysbysebu: Dydd Iau, 13 Awst 2026
Dyddiad cau: Dydd Sul, 30 Awst 2026
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau yn arbennig gan y rhai o grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn gweithlu'r Brifysgol, fel y rhai sy'n uniaethu fel LGBT+, o gefndiroedd ethnig leiafrifol neu'r rhai ag anableddau. Er mwyn helpu ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu swydd.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.