Research Fellow
Division of Population Medicine
School of Medicine
College of Biomedical and Life Sciences
This is an exciting opportunity to be a member of a National Institute for Health and Care Research-funded study teaming working aims to understand safety, risks and the balance of harms and benefits arising from care received by patients within their own homes. The study is led by Professor Andrew-Carson Stevens, Professor of Patient Safety, at Cardiff University.
The successful candidate will work with closely with Professor Andrew Carson-Stevens and colleagues from the School of Medicine, the School of Law and Politics, and the Centre for Adult Social Care Research (CARE) at Cardiff University, our public contributors, ENRICH Cymru and University College London.
They will work independently, with support from a Research Assistant, to lead stakeholder focus groups and interviews with key respondents, and interviews with service users and informal/unpaid caregivers. This role will also include dissemination activities and involvement with publications and conferences.
The successful applicant will work closely with a team of clinical academics, social care representatives and public and patient contributors with a focus on discovering what good caring outcomes are within a home-based context. They will be based at the Heath Park campus, Cardiff University.
Applicants should have considerable experience of conducting research both independently and collaboratively, and be able to demonstrate knowledge of realist synthesis and realist methods.
Key skills and experience include the proven ability in effective and persuasive communication and the proven ability to support research groups, ensuring attention to detail and adherence to study timelines.
Interested potential candidates are welcome to contact the Study Manager, Dr Joy McFadzean, Clinical Lecturer of Patient Safety, Division of Population Medicine, School of Medicine, Cardiff University: [email protected] to arrange an informal discussion prior to application.
This post is part time (28 hours per week) and fixed term available from July 1st 2026 until August 31st 2027.
Salary: £51,753 - £56,535 per annum, pro-rata (Grade 7)
Appointments to roles at Cardiff University are usually made at bottom of scale unless in exceptional circumstances.
This role will be based at Heath Park.
Cardiff University offers many excellent benefits, including 45 days annual leave pro rata (incl bank holidays), local pension scheme, a cycle to work scheme and other travel initiatives, annual increments within the pay scale, and more. It is an exciting and vibrant place to work, with many different challenges and is a proud Living Wage supporter.
Date advert posted: Monday, 13 July 2026
Closing date: Monday, 27 July 2026
Cardiff University is committed to supporting and promoting equality and diversity and to creating an inclusive working environment. We believe this can be achieved through attracting, developing, and retaining a diverse range of staff from many different backgrounds. We therefore welcome applicants from all sections of the community regardless of sex, ethnicity, disability, sexual orientation, trans identity, relationship status, religion or belief, caring responsibilities, or age. We especially welcome and encourage applications from those from under-represented groups within the University workforce, such as those who identify as LGBT +, Ethnic Minority or those with disabilities. In supporting our employees to achieve a balance between their work and their personal lives, we will also consider proposals for flexible working or job share arrangements.
Applications may be submitted in Welsh, and an application submitted in Welsh will not be treated less favourably than an application submitted in English.
Cardiff University is a signatory to the San Francisco Declaration on Research Assessment (DORA), which means that in hiring and promotion decisions we will evaluate applicants on the quality of their research, not publication metrics or the identity of the journal in which the research is published. More information is available at: Responsible research assessment - Research - Cardiff University
Cymrawd Ymchwil
Is-adran Meddygaeth y Boblogaeth
Yr Ysgol Meddygaeth
Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Gwyddorau Bywyd
Mae hwn yn gyfle cyffrous i fod yn aelod o dîm astudio a ariennir gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal sydd â’r nod o ddeall diogelwch, risgiau a chydbwysedd y niwed a’r buddion sy’n deillio o ofal a dderbynnir gan gleifion yn eu cartrefi eu hunain. Arweinir yr astudiaeth hon gan yr Athro Andrew Carson-Stevens, Athro Diogelwch Cleifion, Prifysgol Caerdydd.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio’n agos gyda’r Athro Andrew Carson-Stevens a chydweithwyr o’r Ysgol Feddygaeth, Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth, a’r Ganolfan Ymchwil Gofal Cymdeithasol i Oedolion (CARE) ym Mhrifysgol Caerdydd, ein cyfranwyr cyhoeddus, ENRICH Cymru a Choleg Prifysgol Llundain.
Byddant yn gweithio'n annibynnol, gyda chefnogaeth gan Gymrawd Ymchwil, i arwain grwpiau ffocws i randdeiliaid, a chynnal cyfweliadau ag ymatebwyr allweddol, defnyddwyr gwasanaeth a phobl sy’n darparu gofal anffurfiol/di-dâl. Bydd y rôl hon hefyd yn cynnwys gweithgareddau lledaenu ac ymwneud â chyhoeddiadau a chynadleddau.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio'n agos gyda thîm o academyddion clinigol, cynrychiolwyr gofal cymdeithasol, cyfranwyr cyhoeddus a chleifion gan ganolbwyntio ar ddarganfod beth yw canlyniadau gofalu da yng nghyd-destun y cartref. Bydd wedi’i leoli ar gampws Parc y Mynydd Bychan, Prifysgol Caerdydd.
Dylai fod gan ymgeiswyr brofiad sylweddol o gynnal gwaith ymchwil yn annibynnol ac ar y cyd, a’r gallu i ddangos gwybodaeth o synthesis a dulliau realaidd.
Mae sgiliau a phrofiad allweddol yn cynnwys gallu profedig i gyfathrebu’n effeithiol ac argyhoeddiadol a'r gallu profedig i gefnogi grwpiau ymchwil, gan roi sylw i fanylion a chadw at derfynau amser astudio.
Mae croeso i ddarpar ymgeiswyr sydd â diddordeb gysylltu â’r Rheolwr Astudio, Dr Joy McFadzean, Darlithydd Clinigol Diogelwch Cleifion, Is-adran Meddygaeth Poblogaeth, Ysgol Feddygaeth, Prifysgol Caerdydd:
[email protected] i drefnu trafodaeth anffurfiol cyn gwneud cais.
Mae hon yn swydd amser llawn, rhan-amser (28 awr yr wythnos) a bydd ar gael o 1af Gorffennaf 2026 tan 31ain Awst 2027.
Cyflog: £51,753 - £56,535 y flwyddyn, pro-rata (Gradd 7)
Mae unigolion sy’n cael eu penodi i rolau ym Mhrifysgol Caerdydd fel arfer yn dechrau ar waelod y raddfa gyflog, ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol
Lleolir y rôl hon ym Mharc y Mynydd Bychan.
Ar hyn o bryd, mae trefniadau ‘gweithio cyfunol’ yn berthnasol i’r rhan fwyaf o swyddi ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae hyn yn golygu bod gan y staff yr hyblygrwydd i weithio’n rhannol o gartref ac yn rhannol o gampws y Brifysgol, gan ddibynnu ar ofynion penodol y busnes. Bydd modd trafod y trefniadau hyn ar ôl penodi'r ymgeisydd llwyddiannus.
Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig llawer o fuddion gwych, gan gynnwys 45 diwrnod o wyliau blynyddol (gan gynnwys gwyliau banc), cynllun pensiwn lleol, cynllun beicio i'r gwaith a mentrau teithio eraill, cynyddrannau blynyddol ar hyd y raddfa gyflog, a mwy. Mae’n lle cyffrous a bywiog i weithio lle mae llawer o heriau gwahanol. Mae’r Brifysgol hefyd yn falch o gefnogi’r Cyflog Byw.
Dyddiad hysbysebu:Dydd Llun, 13 Gorffennaf 2026
Dyddiad cau:
Dydd Llun, 27 Gorffennaf 2026
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau yn arbennig gan y rhai o grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn gweithlu'r Brifysgol, fel y rhai sy'n uniaethu fel LGBT+, o gefndiroedd ethnig leiafrifol neu'r rhai ag anableddau. Er mwyn helpu ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu swydd.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi llofnodi Datganiad ar Asesu Ymchwil (DORA) San Francisco, sy'n golygu y byddwn, wrth wneud penderfyniadau cyflogi a dyrchafu, yn gwerthuso ymgeiswyr ar sail safon eu hymchwil, nid ar sail metrigau cyhoeddi na'r cyfnodolyn y mae'r ymchwil wedi’i chyhoeddi ynddo. Ceir rhagor o wybodaeth yma: Asesu ymchwil yn gyfrifol - Ymchwil - Prifysgol Caerdydd