Gweithio i Gyngor Sir Ynys Môn
Mae Ynys Môn yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae’n ymwneud â gwella bywydau’r bobl sy’n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol â ninnau, sy’n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd â meddylfryd byd busnes, sy’n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu’r safonau uchaf posibl. Ein nod yw creu Ynys Môn sy’n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.
Mae ein llwyddiant yn dibynnu ar y bobl rydyn ni’n eu cyflogi, ac rydym wedi ymrwymo i werthfawrogi ein tîm. Rydym yn cynnig mwy na chyflog yn unig, felly edrychwch ar rai o’r buddion y gallwn eu cynnig i’n staff: Buddion o weithio i Gyngor Sir Ynys Môn
Pwrpas cyffredinol y swydd
Arwain swyddogaeth llywodraethu, sicrwydd a deallusrwydd busnes data ADY a Chynhwysiad y Gwasanaeth Dysgu, gan sicrhau casglu, dehongli ac adrodd cyfreithlon, diogel ac o ansawdd uchel ar ddata cymhleth ynghylch disgyblion, darpariaeth a pherfformiad.
Bydd deilydd y swydd yn:
- dylunio ac yn gweithredu safonau data, prosesau digidol, dangosfyrddau a threfniadau sicrwydd gwasanaeth cyfan.
- sicrhau rheolaeth sy’n gyfreithlon, yn ddiogel ac o ansawdd uchel o ddata ADY a
Chynhwysiad, gan gynnwys cydymffurfiaeth â gofynion llywodraethu gwybodaeth, safonau sicrwydd data a gofynion dychweliadau addysg statudol.
- darparu cyngor awdurdodol a her i uwch arweinyddion, ysgolion a phartneriaid.
- arwain ar reolaethau mynediad, ansawdd data, archwilio a gwella systemau; a
- sicrhau bod deallusrwydd yn cefnogi cydymffurfiaeth statudol, cynllunio gwasanaeth, sgriwtini a gwelliant parhaus.
Mae’r swydd yn hyrwyddo arfer gorau, yn meithrin gallu drwy arweiniad a hyfforddiant, ac yn sicrhau gwneud penderfyniadau gwybodus gan uwch arweinwyr ac aelodau etholedig.
Mwy o wybodaeth
Penodiad yn ddibynnol ar wiriad GDG (DBS) sylfaenol boddhaol.
Gwelwch y swydd disgrifiad am mwy o gwybodaeth a gofynion sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y swydd hon.
Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.
Atodir isod y disgrifiad swydd/manyleb person.
Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a’r fanyleb person i’ch cyfrifiadur neu ar gof bach gan y bydd y dogfennau yn diflannu unwaith y bydd y swydd yn cau.
Manylion cyswllt
Enw: Aaron Evans
Rhif ffôn: 07748622194
Cyfeiriad e-bost: [email protected]
Job Reference: CORP100810