The following is an advert for a Deputy Headteacher where the ability to converse through the medium of Welsh and English is essential.
Hysbyseb am Ddirprwy Bennaeth i Ysgol Gymunedol Penparc, ac mae’n ofynnol i fod yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg, yn ysgrifenedig ac ar lafar, ar gyfer y swydd.
Mae llywodraethwyr Ysgol Gymunedol Penparc yn awyddus i benodi Dirprwy Bennaeth (parhaol) ymroddedig ac ysbrydoledig a fydd yn darparu cefnogaeth a chymorth i’r Pennaeth ac yn cynorthwyo i reoli’r ysgol yn effeithiol ac yn effeithlon. Fe fydd y Dirprwy Bennaeth yn gyfrifol am yr ysgol ddeuddydd yr wythnos yn ystod absenoldeb y Pennaeth. Yn ogystal, bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus ymrwymiad addysgu, a byddai cynnig arbenigedd o fewn y maes ADY yn fanteisiol.
Fe fydd yr unigolyn yn:
- dylanwadu ar gydweithwyr trwy osod esiampl fel model rôl drefnus a chydwybodol;
- barod i weithio fel rhan o uwch dim rheoli cadarn;
- hyrwyddo safonau cyflawniad uchel i bawb;
- ymgynghori a chynnig cyngor adeiladol i’r Pennaeth mewn meysydd a fyddai’n fanteisiol i’r ysgol;
- cysylltu â staff, disgyblion a rhieni i annog hyrwyddo awyrgylch gynhwysol ac ethos gwaith effeithiol;
- bod yn gymwys i ddirprwyo ar ran y Pennaeth mewn sefyllfaoedd sy’n codi oherwydd absenoldebau wythnosol;
- arwain ar faes arbenigedd o fewn cynlluniau strategol a phrosesau gwerthuso a gwella’r ysgol.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y nodweddion canlynol:
- gweledigaeth glir ar gyfer llwyddiant a datblygiad parhaus yr ysgol, gan wreiddio ei rôl ganolog o fewn y gymuned leol;
- dealltwriaeth o arferion dysgu ac addysgu effeithiol ac ymrwymiad cryf i barhau i’w datblygu drwy’r ysgol gyfan;
- medrau cadarn o ran cyfathrebu, ymwneud ag eraill, rheoli a threfnu;
- arddangos angerdd dros hyrwyddo’r Gymraeg fel rhan ganolog o fywyd a gwaith yr ysgol;
- gwybodaeth gadarn am ddatblygiadau ac arferion addysgol cyfredol ar sail ymchwil;
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol parhaus ac i adeiladu tîm;
- ymrwymiad cryf i gyfoethogi’r cysylltiadau gyda’r Llywodraethwyr, y gymuned leol, ysgolion lleol a thu hwnt.
Mae’r swydd hon yn cynnig cyfle euraidd i unigolyn brwdfrydig ac uchelgeisiol weithio mewn ysgol gymunedol lwyddiannus sydd o fewn cyrraedd tafliad carreg i dref Aberteifi. Bydd yn cynnig profiad gwerthfawr i unigolyn sy’n awyddus i arwain, arloesi a chyfrannu’n gadarnhaol at ddatblygiad parhaus yr ysgol.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Dyddiad cau: Canol nos Sul, 6 Medi 2026 am 11:59yh
Dyddiad cyfweld: Wythnos i ddechrau – 14 Medi 2026
Am fwy o fanylion, mae croeso cynnes i chi gysylltu gyda’r Pennaeth Bethan Morgan-Jenkins drwy e-bost: [email protected]
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.