Diolch am eich diddordeb yn y swydd uchod.
Mae Grŵp Cynefin wedi bod yn darparu tai o ansawdd, syn ddiogel a fforddiadwy dros chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys i dros 8,000 o bobl ers 2014.
Rydym yn gweithion galed i ddarparu tai a gwasanaethau rhagorol, i gyfrannu i ddatblygiad cymunedau cynaliadwy a gwarchod a hybur iaith Gymraeg gyda balchder.
Rydyn ni am gynyddu iechyd a lles ein cymunedau ir eithaf, creu cyfleoedd i newid bywydau a siapio lleoedd syn sicrhau dyfodol cynaliadwy.
Rydym yn chwilio am unigolyn angerddol a gofalgar i ymuno ân tîm. Byddai profiad gweithredol o ddarparu rheolaeth tai a gwybodaeth neu ddealltwriaeth o'r maes tai cymdeithasol yn fantais, ond yn bwysicaf oll rydym yn chwilio am rywun sydd ag ymrwymiad cryf i gynorthwyo tenantiaid a darparu gwasanaeth rhagorol.
Mae hwn yn gyfle cyffrous ir person cywir a rhywun syn ffynnu mewn amgylchedd prysur ac yn frwdfrydig i wneud gwahaniaeth.
Bydd deilydd y swydd yn gweithredu fel y prif gyswllt ir Gymdeithas ar gyfer tenantiaid, darpar denantiaid ar gymuned leol yn gyffredinol gan sicrhau gwasanaeth rheolaeth tai effeithiol fel bo Grŵp Cynefin yn rhagori. Bydd y rol yn cynnwys gosod eiddo yn deg ac yn effeithiol; uchafu incwm rhent y Gymdeithas a delio ag ymddygiad gwrth gymdeithasol.
Rydym yn chwilio am rywun sydd âr un ysfa a ni i ddarparu cartrefi a lleoedd cynaliadwy lle mae ein cwsmeriaid eisiau byw a dylai eich gwerthoedd adlewyrchu ein gwerthoedd ni.
Os oes gennych yr ysfa ar angerdd i fod yn allweddol wrth wneud gwahaniaeth i ddyfodol pobl, hon ywr swydd i chi.
Os hoffech sgwrs pellach am y swydd, cysylltwch â Rhian Lloyd Williams, Arweinydd Tím Tai neu Rhiannon Dafydd, Pennaeth Tai ar 0300 111 2122.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg ar Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon
Y Pecyn
Math o gytundeb: Parhaol
Cyflog: £29,779 - £33,515 y flwyddyn
Lleoliad: Dinbych a gweithio o gartref
Oriau Gweithio: 35 awr yr wythnos
Gwyliau: 30 diwrnod y flwyddyn yn ogystal âr gwyliau banc statudol ar cyfnod rhwng y Nadolig ar Flwyddyn Newydd
Teithio: Defnyddiwr Car Hanfodol
Pensiwn: Mae Grŵp Cynefin yn cynnig darpariaeth pensiwn trwy Gynllun Social Housing Pension Scheme (SHPS)
Disgrifiad Swydd DS Swyddog Tai 08.26.pdf
JD Housing Officer 08.26.pdf
Buddiannau Pecyn Buddion.pdf Benefits Package.pdf
Os ydych yn cael trafferth agor y dogfennau, ewch yn syth i wefan swyddi Grŵp Cynefin a rhowch gynnig arall arni, neu mae croeso i chi gysylltu â ni.
Datblygiad Personol:
Os oes gennych gymwysterau proffesiynol ach bod yn talu ffioedd proffesiynol blynyddol ich corff aelodaeth, byddwn yn talu un or rhain bob blwyddyn ich helpu i aros yn gysylltiedig âr wybodaeth ar addysg ddiweddaraf gan eich corff proffesiynol. Rydyn ni hefyd eisiau in holl gydweithwyr fwynhau buddion dysgu gydol oes, felly os ydych chin gweithio gyda ni byddwn nin buddsoddi ynoch chi fel hyn hefyd!
Dogfennau a Dyddiadau Perthnasol
Hysbysiad Preifatrwydd Ymgeisydd Swydd.pdf Privacy Notice Job Applicant.pdf
Canllawiau cwblhau cais.pdf Guidelines for completing your application.pdf
Dyddiad y cyfweliadau: I'w gadarnhau
Byddwn yn cysylltu â chi drwy e-bost i roi gwybod i chi a ydych wedi cyrraedd y rhestr fer. Cofiwch wirio'ch ffolder Sothach (junk) neu Sbam rhag ofn bod ein neges yn cael ei hidlo yno.
Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)
Byddwn yn gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad Sylfaenol gyda rhestrau gwahardd ar gyfer y swydd hon.