I ddechrau: 1af o Medi 2026
Cyflog: Gradd 4 (SCP 5-9) - £10,599 - £11,292 y flwyddyn
(Yn amodol ar gyfrifiad cyflog tymor os yw’r dyddiad dechrau ar ôl Medi 1af)
Mae Llywodraethwyr Ysgol Gymraeg Castell-nedd yn awyddus i benodi Gofalwr Rhan Amser Parhaol. Rydym yn chwilio am unigolyn hyblyg, aml fedr ac egnïol i weithio fel rhan o dîm cymorth yr ysgol fel gofalwr a pherson cynnal a chadw gyda'r nod penodol o sicrhau bod safle'r ysgol yn gwbl weithredol, yn saff, yn ddiogel ac wedi'i gynnal a'i gadw'n dda. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn berson ymarferol, positif ac egnïol a fydd yn ymfalchïo mewn cynnal a chadw ein cyfleusterau ysgol.
Mae’r swydd yma am 15 awr yr wythnos/52 wythnos y flwyddyn.
Er fod y gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol nid yw’n hanfodol.
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gwbl ymroddedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc, ac mae'n disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymroddiad hwn. Mae gan ein hysgolion yr un ymroddiad i sicrhau bod ein holl blant a phobl ifanc yn cael eu diogelu a'u hamddiffyn a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles. Wrth wraidd y broses recriwtio ar gyfer y swydd hon bydd asesiad recriwtio mwy diogel trylwyr i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu hamddiffyn. Mae'r swydd hon yn amodol ar Ddatgeliad Manwl (rhestr plant) gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Dyddiad cau: 12:00 canol dydd, Dydd Mercher, 15fed o Orffennaf, 2026.
The Governors at Ysgol Gymraeg Castell-nedd wish to appoint a Part Time Permanent Caretaker. We are looking for a flexible, multi-skilled and energetic individual who will work as part of the school support team as caretaker and handyman with the specific aim of ensuring the school site is fully functional, is safe, secure and well maintained. The successful candidate will be a practical, positive and energetic person who will take pride in maintaining our school facilities.
This post is for 15 hours a week / 52 weeks per year.
The ability to speak Welsh is desirable but not essential.
Neath Port Talbot Council is totally committed to safeguarding and promoting the welfare of children and young people and expects all staff and volunteers to share this commitment. Our schools are equally committed to ensuring the safety and protection of all children and young people and will take action to safeguard their wellbeing. The recruitment process for this post will be underpinned by rigorous safer recruitment assessment to ensure that children and young people are protected. This post is subject to a Disclosure and Barring Service Enhanced Disclosure (Child).
Closing date : 12:00 midday, Wednesday, 15th July 2026.