Amdanom ni:
Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled Abertawe a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr blaenllaw iawn yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.
Mae’r Coleg hefyd yn cynnig darpariaeth lles staff o’r radd flaenaf, sy’n adlewyrchu ein hymrwymiad i fuddsoddi yn ein staff gan sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi.
Y rôl:
Bydd angen i chi ddod o hyd i leoliadau ar gyfer myfyrwyr ag anghenion dysgu ychwanegol, gan gefnogi eu datblygiad yn y gweithle. Mae'n hollbwysig ein bod yn dod o hyd i leoliadau ystyrlon a heriol i'n myfyrwyr fel y gallant symud ymlaen yn y pen draw i sicrhau cyflogaeth neu gyflogaeth â chymorth.
-
Rhan-amser (30 awr yr wythnos)
-
Parhaol
-
£19,057 - £20,746 y flwyddyn
-
Campws Tycoch, Abertawe
Cyfrifoldebau Allweddol
-
Cydgysylltu ag amrywiaeth o ddarparwyr lleoliadau gwaith i sicrhau profiad lleoliad o ansawdd da sy'n bodloni anghenion myfyrwyr ag anawsterau ac anableddau dysgu.
-
Dod o hyd i leoliadau gwaith newydd a meithrin rhai presennol i sicrhau llwyddiant parhaus.
-
Cynnal gwiriadau monitro a fetio ar leoliadau gwaith gan sicrhau bod yr holl gofnodion angenrheidiol ar gyfer monitro a chynllunio gweithredu wedi’u cwblhau.
Amdanoch Chi
-
5 pàs TGAU (Gradd A-C) neu’r cyfwerth, gan gynnwys Mathemateg a Saesneg.
-
Gwybodaeth am fonitro lleoliadau gwaith a fetio neu barodrwydd gwblhau hyfforddiant yn y maes hwn.
-
Gwybodaeth am Anghenion Dysgu Ychwanegol.
-
Cyfathrebwr hyderus a chall gyda'r gallu i gysylltu ag amrywiaeth o ddarparwyr lleoliadau.
Buddion:
-
28 diwrnod o wyliau blynyddol gan gynnwys gwyliau banc. Hefyd, mae’r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig (pro rata).
-
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chyfraniad cyflogwr o 21% ar gyfartaledd (2025).
-
2 ddiwrnod lles i staff bob blwyddyn
-
Disgowntiau ar gostau cwrs os ydych yn astudio un o gyrsiau’r Coleg.
-
Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion: https://www.gcs.ac.uk/cy/recriwtio/buddion-a-lles
Angen cymorth gyda’ch cais? Cliciwch yma i weld ein canllawiau.
Gwybodaeth Bellach
- Os derbynnir llawer o geisiadau ar gyfer y rôl hon, efallai y byddwn newid y dyddiad cau. Felly, awgrymir ichi gyflwyno cais yn gynnar.
-
Fel arfer, gwneir penodiadau i waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).
Amrywiaeth a Chynhwysiant
Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion waeth beth fo’u hoedran, rhywedd, ethnigrwydd, anableddau, cyfeiriadedd rhwyiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gredoau. Rydym yn croesawu hefyd geisiadau gan unigolion mewn grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol o fewn ein sefydliad.
Yr Iaith Gymraeg
I wneud cais yn y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog pobl i gwblhau cais trwy gyfrwng y Gymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau dwyieithog, fel y gallwn ehangu ein gweithlu dwyieithog. Ni fydd ceisiadau Cymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Diogelu
Mae Coleg Gwyr Abertawe’n ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed. Rhaid i bob aelod o staff gydymffurfio â hyn. Bydd penodiadau’n amodol ar wiriadau cyn-gyflogaeth, gan gynnwys:
-
Gwiriad DBS manylach, gan gynnwys Rhestrau Gwaharddedig (£49.50)
-
Cofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru, lle bo angen (£15 - £45 yn dibynnu ar y rôl).