Teitl swydd: Gweithiwr/wraig Cefnogol (dydd/preswyl/hamdden)
Yn atebol i: yn y lle cyntaf i'r unigolion ag anableddau dysgu yn eu man gwaith dyddiol, ac yna ir Rheolwr Prosiect perthnasol, ac yn y pen draw ir Prif Weithredwr a Bwrdd y Cwmni.
Gofynion y swydd: Bydd yn ofynnol i ddeilydd y swydd gyflawni ystod o ddyletswyddau yn unol â chyfarwyddyd rheolwyr man gwaith yr unigolion ag anableddau dysgu syn derbyn y gefnogaeth. Bydd gofyn i deilydd y swydd gymryd cyfrifoldeb llawn dros yr unigolion ag anableddau dysgu yn y man gwaith, gan gynnwys mynychu unrhyw apwyntiadau fydd gan yr unigolion.
Cyflog: £12.71 yr awr i weithio oriau amrywiol dydd Llun dydd Sul (yn unol â rota) yn cynyddu i £13.45 yr awr i staff sy'n cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru. Amser dwbwl ar Ŵyl Banc a lwfans cysgu i mewn £88.57 y noson.
Lleoliad: Yn ddibynnol ar safle gwaith yr unigolyn gydag anableddau dysgu sydd yn derbyn y gefnogaeth gwasanaeth dydd/preswyl. Gall fod yn ardal Waunfawr, Caernarfon, Bangor neu Penygroes.
Cyfrifoldebau
1. Cefnogir unigolyn gydag anableddau dysgu yn eu man gwaith ac adref i ddatblygu eu sgiliau. Bydd angen annog yr unigolion i fynychu gweithgareddau iechyd a llesiant i gyd-fynd â'r cynlluniau gofal.
2. Sicrhau bod y rhaglen gweithgareddau iechyd a lles yn cael eu gweithredu yn gyson yn unol â gofynion yr unigolion gydag anableddau dysgu.
3. Sicrhau bod y Rheolwr Prosiect yn cael gwybod am unrhyw anawsterau allai godi yn y cartref neur lleoliad(au) gwaith.
4. Meithrin perthynas dda gydar asiantaethau syn cynnig gwasanaeth yn ogystal â'r gymuned yn ehangach.
5. Mynychu unrhyw apwyntiadau meddygol fydd gan yr unigolion gydag anableddau dysgu.
6. Mynychu unrhyw gyfarfodydd adolygu ar gyfer yr unigolion gydag anableddau dysgu.
7. Yn unol âr angen, sicrhau bod trefn cofnodi a dosbarthu meddyginiaeth ir unigolion gydag anableddau dysgu yn cael ei chyflawnin briodol.
8. O bryd iw gilydd mynd ar wyliau a mynychu digwyddiadau hamdden gydar unigolion gydag anableddau dysgu, boed hynny yn y wlad hon neu dramor.
9. Sicrhau bod unrhyw wybodaeth berthnasol yn cael ei throsglwyddo rhwng y lleoliad(au) gwaith ar cartref.
10. Unrhyw ddyletswyddau eraill yn unol â chais y Cwmni.
Manyleb Person
Sgiliau allweddol
-
y gallu i wrando a chreu perthynas dda gydar unigolion syn derbyn cefnogaeth.
-
y gallu i weithio ar eu pennau eu hunain ac yn rhan o dîm
-
y gallu i annog unigolion gydag anableddau dysgu i ehangu eu sgiliau
-
y gallu i gofnodi manylion ariannol/personol yn fanwl a chywir
-
sgiliau cyfathrebu da yn ysgrifenedig ac ar lafar yn y Gymraeg ar Saesneg
-
lefel dda o ffitrwydd i gefnogir unigolion gydag anableddau dysgu yn ystod gweithgareddau llesiant a gofal
-
gyrrwr a pherchennog car yn hanfodol
-
y gallu i fod yn hyblyg o fewn y swydd gan gynnwys gweithio gydag unrhyw unigolyn a/neu safle yn ôl y gofyn
Cymwysterau a Gwybodaeth
-
NVQ Lefel 2 mewn Gofal (disgwylir i'r deilydd gyflawni'r cymhwyster o fewn 12 mis o gychwyn y swydd)
-
Dealltwriaeth drylwyr ac ymrwymiad i hawliaur unigolyn
-
Dealltwriaeth o rôl a diwylliant y sector wirfoddol
-
Byddai ddiddordeb mewn chwaraeon o fantais e.e., cerdded, beicio, chwaraeon dŵr, cadwn heini, nofio, marchogaeth, a.y.y.b, yn ogystal â'r awydd i droi eu llaw at weithgareddau eraill. Byddai diddordeb mewn bwytan iach, iechyd a lles a iechyd meddwl o fantais.
-
Dealltwriaeth o bolisïau a gweithdrefnau Iechyd a Diogelwch o fantais.
Profiad
- Byddai profiad o weithio yn y maes gofal dydd/preswyl o fantais.
- Profiad o drafod a chydweithio gyda staff, asiantaethau eraill ar gymuned.
Agwedd
-
Agwedd bositif, hyblyg a dealltwriaeth o ddiwylliant Antur Waunfawr ac asiantaethau eraill sy'n rhoi gwasanaeth dydd/preswyl.
-
Sensitifrwydd, ar gallu i wrando ar ddyheadaur unigolion gydag anableddau dysgu a chreu awyrgylch braf yn y man gwaith.
Hyblygrwydd
Tynnir eich sylw at y ffaith bod dyletswyddau a chyfrifoldebau penodol mewn rhai achosion yn anodd eu dadansoddi'n fanwl a gallant newid o dro i dro heb newid cymeriad cyffredinol y dyletswyddau na lefel y cyfrifoldeb. Yn ychwanegol, maen ofynnol i bob aelod o staff dderbyn elfennau o hyblygrwydd yn eu dyletswyddau au cyfrifoldebau, a phan bo angen, cyfnewid o fewn y Cwmni er mwyn cyfarch anghenion a gofynion syn newid yn barhaus.Bydd angen or math hwn yn galluogi i arbenigedd penodol y deilydd dyfu a datblygu er lles y cyflogwr ar unigolion gydag anableddau dysgu.
Os hoffech wneud cais am y rôl hon, bydd angen i chi lenwi a lanlwytho'r ffurflen gais.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau anfonwch e-bost i [email protected]