Proud to serve. Proud to keep justice going.
Our Development Coaches play a critical role in the learning and training of our new starters. This role will enable you to demonstrate and develop your coaching and leadership skills. You will be responsible for helping new starters deliver excellent administrative support and customer service to service users, mediators, judiciary, and management.
About us
HM Courts & Tribunals Service (HMCTS) is an agency of the Ministry of Justice responsible for the administration of criminal, civil and family Courts and Tribunals in England and Wales. Our roles support our service users and colleagues within HMCTS, w people and businesses access potentially life-changing justice.
Spread nationally over several sites, our Courts and Tribunal Service Centres CTSCs deliver services through several jurisdictions known as ‘service lines’. These include Social Service & Child Support, Family Public Law, Probate, Crime, Immigration & Asylum, Divorce, Online Civil Money Claims, the Single Justice Service (non-imprisonable offences e.g., no TV license / car tax), and supporting audio video hearings.
We’re looking for individuals who are committed to public service and making a difference in people’s lives to deliver justice. If you are interested in developing a career with a real purpose, please apply.
Your role
This role will be responsible for the ongoing onboarding training that new members of staff receive, or that staff need when moving to new duties, ensuring they develop and demonstrate the skills and knowledge to deliver an inclusive and accessible service to diverse users. The role will focus on the short to medium term needs of the learners.
Your skills and experience
Provide Leadership to the learners, visibly demonstrating and embedding the culture and ways of working for National Services in delivering service excellence across all jurisdictions.
Business-specific knowledge and experience to be able to coach and advise learners on improvement in specific business areas.
CIPD or internal qualification in coaching and training practice (desirable).
People and communication skills to be able to coach learners in increasing effectiveness in handling customer/user queries by telephone, email or webchat (etc.)
Ability to judge capability, competence and potential in learners and adapt approach for different learners to ensure best learning environment.
Knowledge of learning resources and solutions to recommend to learners.
Coaching skills to be able to help learners understand and take responsibility for their own development, to support them in doing so and to provide guidance w necessary.
Knowledge of HMCTS and National Services service standards to be able to measure learner’s performance against these and provide support to improve w needed.
Flexibility and adaptability in working to tailor coaching style to learners needs while still meeting business requirements.
Resilience and authority to be able to manage learners effectively, sometimes in challenging situations.
For a full job description, please read the supporting document included before applying.
Further details
New recruits to the Civil Service joining MoJ are expected to join at the band minimum.
Ways of working
The office is open Monday to Friday from 07:30 to 18:00. Standard full time working hours are 37 hours per week and the shift pattern for this role is 09:00 to 17:00. T is an expectation that you can also be flexible with your working hours to accommodate the needs of the business.
HMCTS welcomes part-time, flexible, and job-sharing working patterns, w they meet the demands of the role and business needs and are agreed prior to appointment. All applications for part-time, flexible, and job-sharing working patterns will be considered in accordance with the MoJ’s Flexible Working policy.
Due to the nature of the Development Coach role and business requirements, successful candidates will be expected to work a minimum of 32 hours per week. These roles are office‑based, with the possibility of occasional, non‑contractual working from home days.
Training
External applicants will be required to complete a service line training academy.
Occasional travel to other courts
For this post, occasional travel to other National Services sites may be required.
Skilled Worker Visa
This role is not eligible for new Skilled Worker visas in accordance with the current immigration rules.
From 22 July 2025, the Government introduced changes to the Skilled Worker visa route. The department cannot consider sponsoring you for this role unless you have held a Skilled Worker visa prior to the 22 July 2025 changes. If you have held a Skilled Worker visa continuously, please raise this during your vetting checks and eligibility will be assessed in accordance with the immigration rules and transitional provisions in place.
If you are applying for this role and you have not held a Skilled Worker visa prior to the 22 July 2025 changes, you will need to consider your options for obtaining and/or maintaining your right to work in the UK in light of these changes. Successful applicants must ensure they have and maintain the legal right to live and work in the Civil Service and in the United Kingdom.
The Department will continue to comply with UK Immigration Rules applied in the UK and Civil Service. You can read more about Skilled Worker visas and the eligibility criteria .
Yn falch o wasanaethu. Yn falch o gynnal cyfiawnder.
Mae ein Hyfforddwyr Datblygu yn chwarae rôl hanfodol yn dysgu a hyfforddi ein staff newydd. Bydd y rôl hon yn eich galluogi i ddangos a datblygu eich sgiliau hyfforddi ac arwain. Byddwch chi’n gyfrifol am sicrhau bod eich tîm yn darparu cefnogaeth weinyddol a gwasanaeth cwsmer ardderchog i ddefnyddwyr gwasanaeth, cyfryngwyr, aelodau’r farnwriaeth a rheolwyr.
Amdanom ni
Mae Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF (GLlTEF) yn un o asiantaethau'r Weinyddiaeth Gyfiawnder sy'n gyfrifol am weinyddu’r llysoedd troseddol, sifil a theulu a’r tribiwnlysoedd yng Nghymru a Lloegr. Mae ein rolau’n cefnogi defnyddwyr ein gwasanaethau a’n cydweithwyr o fewn GLlTEF, lle mae pobl a busnesau’n cael mynediad at gyfiawnder a allai newid bywydau.
Wedi’u gwasgaru’n genedlaethol dros sawl safle, mae ein Canolfannau Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd (CTSCs) yn darparu gwasanaethau trwy sawl awdurdodaeth a elwir yn 'linellau gwasanaeth'. Mae’r rhain yn cynnwys Nawdd Cymdeithasol a Chynnal Plant, Cyfraith Deulu Gyhoeddus, Profiant, Trosedd, Mewnfudo a Lloches, Ysgariad, Hawliadau Arian Sifil Ar-lein, y Gwasanaeth Un Ynad (troseddau angharcharadwy e.e., dim trwydded deledu / treth car), a gwrandawiadau fideo sain ategol.
Rydym yn chwilio am unigolion sy’n ymrwymedig i ddarparu gwasanaeth cyhoeddus ac sydd am wneud gwahaniaeth ym mywydau pobl i sicrhau cyfiawnder. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn datblygu gyrfa gyda phwrpas go iawn, ymgeisiwch.
Eich rôl
Bydd y rôl hon yn gyfrifol am yr hyfforddiant parhaus y mae aelodau newydd o staff yn ei gael, neu fod ar staff eu hangen wrth symud i ddyletswyddau newydd, gan sicrhau eu bod yn datblygu ac yn dangos y sgiliau a'r wybodaeth i ddarparu gwasanaeth cynhwysol a hygyrch i ddefnyddwyr amrywiol. Bydd y rôl yn canolbwyntio ar anghenion tymor byr i ganolig y dysgwyr.
Eich sgiliau a phrofiadau
Sgiliau arweinyddiaeth cadarn - arddangos a gwreiddio'r diwylliant a’r ffyrdd newydd o weithio ar gyfer Gwasanaethau Cenedlaethol wrth ddarparu gwasanaethau o safon ar draws pob awdurdodaeth.
Gwybodaeth sy'n benodol i'r busnes (neu barodrwydd i ddysgu) a phrofiad i allu hyfforddi a chynghori dysgwyr ar wella mewn meysydd busnes penodol
CIPD neu gymhwyster mewnol mewn ymarfer hyfforddi (dymunol).
Sgiliau pobl a sgiliau cyfathrebu - i allu hyfforddi dysgwyr i fod yn fwy effeithiol wrth ymdrin ag ymholiadau defnyddwyr dros y ffôn, drwy e-bost neu ar y we (ac ati)
Y gallu i farnu capasiti, cymhwysedd a photensial mewn dysgwyr ac addasu'r dull ar gyfer gwahanol ddysgwyr - er mwyn sicrhau'r amgylchedd dysgu gorau.
Gwybodaeth am, neu barodrwydd i ddysgu am adnoddau a datrysiadau dysgu - i'w hargymell i ddysgwyr.
Sgiliau hyfforddi - i allu helpu dysgwyr i ddeall a chymryd cyfrifoldeb am eu datblygiad eu hunain, i'w cefnogi i wneud hynny ac i roi arweiniad lle bo'r angen.
Gwybodaeth am, neu barodrwydd i ddysgu am safonau gwasanaeth GLlTEF a'r Gwasanaethau Cenedlaethol - i allu mesur perfformiad dysgwyr yn erbyn y rhain a darparu cymorth i wella lle bo'r angen.
Hyblygrwydd wrth weithio - teilwra arddull hyfforddi i anghenion dysgwyr tra’n parhau i fodloni gofynion busnes.
Gwydnwch ac awdurdod - gallu rheoli dysgwyr yn effeithiol, weithiau mewn sefyllfaoedd heriol.
I weld y swydd ddisgrifiad lawn, darllenwch y ddogfen ategol isod cyn gwneud cais.
Rhagor o fanylion
Bydd disgwyl i recriwtiaid newydd i’r Gwasanaeth Sifil sy’n ymuno â’r Weinyddiaeth Gyfiawnder gychwyn ar waelod y band cyflog.
Ffyrdd o weithio
Mae’r swyddfa ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 07:30 a 18:00 Yr oriau llawn amser safonol yw 37 awr yr wythnos, a'r patrwm gweithio ar gyfer y rôl hon yw 09:00 - 17:00 Mae disgwyliad y byddwch yn gallu bod yn hyblyg gyda’ch oriau gwaith i fodloni anghenion y busnes.
Mae GLlTEF yn croesawu ceisiadau i weithio’n rhan amser, yn hyblyg ac i rannu swydd, pan fo hynny’n bodloni gofynion y rôl ac anghenion y busnes, ac ar yr amod bod hyn yn cael ei gytuno cyn ichi gael eich penodi. Bydd pob cais i weithio’n rhan amser, yn hyblyg ac i rannu swydd yn cael ei ystyried yn unol â pholisi Gweithio’n Hyblyg y Weinyddiaeth Gyfiawnder.
Oherwydd natur y rôl Hyfforddwr Datblygu a gofynion y busnes, disgwylir i ymgeiswyr llwyddiannus weithio lleiafswm o 32 awr yr wythnos. Mae'r rolau hyn wedi'u lleoli mewn‑swyddfa, gyda'r posibilrwydd o weithio'n o adref yn achlysurol, er‑ nad yw'n rhan o'r cytundeb cyflogaeth.
Hyfforddiant
Gofynnir i ymgeiswyr allanol gwblhau academi hyfforddiant y gwasanaeth perthnasol.
Teithio achlysurol i lysoedd eraill
Ar gyfer y swydd hon, efallai y bydd angen teithio o bryd i'w gilydd i safleoedd eraill y Gwasanaethau Cenedlaethol.
Fisa Gweithiwr Medrus
Nid yw'r rôl hon yn gymwys ar gyfer Fisas Gweithiwr Medrus newydd, yn unol â'r rheolau mewnfudo cyfredol.
O 22 Gorffennaf 2025, cyflwynodd y Llywodraeth newidiadau i'r llwybr fisa i Weithwyr Medrus. Ni all yr adran ystyried eich noddi ar gyfer y rôl hon ond bai eich bod wedi dal Fisa Gweithiwr Medrus cyn y newidiadau a ddaeth i rym ar 22 Gorffennaf 2025. Os ydych wedi dal Fisa Gweithiwr Medrus yn barhaus, codwch hyn yn eich gwiriadau fetio a bydd cymhwysedd yn cael ei asesu yn unol â'r rheolau mewnfudo a'r darpariaethau pontio sydd mewn lle.
Os ydych yn gwneud cais am y rôl hon ac nad ydych yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd newydd ar gyfer nawdd, bydd angen i chi ystyried eich opsiynau ar gyfer cael a/neu gynnal eich hawl i weithio yn y DU yng ngoleuni’r newidiadau hyn. Rhaid i ymgeiswyr llwyddiannus sicrhau bod ganddynt yr hawl gyfreithiol i fyw a gweithio yn y Gwasanaeth Sifil ac yn y Deyrnas Unedig a’u bod yn cynnal yr hawl honno.
Bydd yr Adran yn parhau i gydymffurfio â Rheolau Mewnfudo’r DU a weithredir yn y DU a’r Gwasanaeth Sifil. Gallwch ddarllen mwy am fisâu Gweithwyr Medrus a’r meini prawf cymhwyster yma.