Job Overview
General Manager at the new Henry Tudor Centre, Pembroke, Pembrokeshire
The Henry Tudor Trust is pleased to offer an exciting opportunity for an experienced and visionary General Manager to lead the new Henry Tudor Centre, due to open in early March 2027. The successful candidate will oversee the launch and play a pivotal role in shaping its future as a high-quality heritage attraction, community hub, and visitor destination in the heart of Pembroke.
The Henry Tudor Centre will tell the story will of Henry Tudor, son of Pembroke, who became Henry VII and founded one of the most influential dynasties in British history, the Tudors. The exhibition, currently in the later stages of design, will be immersive, dramatic, and interactive exhibition featuring film, audio, and AV experiences.
The General Manager will provide overall leadership, operational oversight, and strategic direction for the Centre. They will ensure financial sustainability through ticket sales and fundraising, manage day-to-day operations, support staff, and deliver an exceptional visitor experience. In the lead up to opening, the General Manager will work alongside the Henry Tudor Trustees in operational preparation for trading.
This post will commence in November 2026 which is 4 months prior to the opening of the Henry Tudor Centre, March 2027.
Salary and working arrangement:
This vacancy may be offered on either a full-time basis or as a 0.6 FTE job share arrangement. The Henry Tudor Trust is willing to consider either option depending on the skills and experience of the successful candidate(s).
Full Time Option: 40 hours a week, £38,000.00 pre annum
Job share option salary: 0.6 FTE (24 hours a week), £19,200 per annum
Location: Canolfan Henry Tudor Centre, 6 Castle Terrace, Pembroke, SA71 4LA
How to apply
For further information and an application pack, please email Henry Tudor Trust Chair Emyr Williams: [email protected]
Closing date: August 28th 2026, 12 noon
Interviews will be held during the week of September 7th 2026
Rheolwr Cyffredinol yn y Ganolfan Harri Tudur newydd, Penfro, Sir Benfro, Cymru
Mae’n bleser gan Ymddiriedolaeth Harri Tudur gynnig cyfle cyffrous i Reolwr Cyffredinol profiadol a gweledigaethol i arwain y Ganolfan Harri Tudur newydd, a ddisgwylir i agor ym mis Mawrth 2027. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn goruchwylio ei lansiad ac yn chwarae rhan allweddol wrth lunio ei dyfodol fel atyniad treftadaeth o ansawdd uchel, canolfan gymunedol, a chyrchfan ymwelwyr yng nghanol Penfro.
Bydd Canolfan Harri Tudur yn adrodd hanes Harri Tudur, mab Penfro, a ddaeth yn Harri VII ac a sefydlodd un o’r breninlinau mwyaf dylanwadol yn hanes Prydain, sef y Tuduriaid. Bydd yr arddangosfa, sydd ar ddiwedd cael ei dylunio ar hyn o bryd, yn arddangosfa ymdrwytho, ddramatig a rhyngweithiol, ac yn cynnwys profiadau ffilm, sain a chlywedol.
Bydd y Rheolwr Cyffredinol yn darparu arweinyddiaeth gyffredinol, goruchwyliaeth weithredol, a chyfeiriad strategol ar gyfer y ganolfan. Bydd yn sicrhau cynaliadwyedd ariannol drwy werthu tocynnau a chodi arian, yn rheoli gweithrediadau o ddydd i ddydd, yn cynorthwyo staff, ac yn darparu profiad eithriadol i ymwelwyr. Yn y cyfnod cyn agor, bydd y Rheolwr Cyffredinol yn gweithio ochr yn ochr â’r Ymddiriedolwyr Harri Tudur i baratoi’n weithredol ar gyfer masnachu.
Bydd y swydd hon yn cychwyn ym mis Tachwedd 2026, sef pedwar mis cyn agor Canolfan Harri Tudur, ym mis Mawrth 2027.
Cyflog a threfniadau gweithio:
Gellir cynnig y swydd wag hon naill ai ar sail amser llawn neu fel trefniant rhannu swydd 0.6 cyfwerth ag amser llawn. Mae Ymddiriedolaeth Harri Tudur yn fodlon ystyried y naill opsiwn neu’r llall yn dibynnu ar sgiliau a phrofiad yr ymgeisydd / ymgeiswyr llwyddiannus.
Swydd llawnamser: 40 awr yr wythnos, £38,000 y flwyddyn
Rhannu swydd: 0.6 cyfwerth ag amser llawn (24 awr yr wythnos), £19,200 y flwyddyn
Lleoliad: Canolfan Harri Tudur, 6 Rhes y Castell, Penfro, SA71 4LA
Sut i wneud cais:
I gael rhagor o wybodaeth a phecyn cais, anfonwch neges e-bost at Gadeirydd Ymddiriedolaeth Henry Tudor, Emyr Williams: [email protected].
Y dyddiad cau:
28 Awst 2026, Hanner dydd (12pm)
Cynhelir cyfweliadau yn ystod wythnos 7 Medi 2026
Pay: £38,000.00 per year
Work Location: In person