Amdanom ni:
Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled Abertawe a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr blaenllaw iawn yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.
Mae’r Coleg hefyd yn cynnig darpariaeth lles staff o’r radd flaenaf, sy’n adlewyrchu ein hymrwymiad i fuddsoddi yn ein staff gan sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi.
Y rôl:
Byddwch yn bennaf yn gweithio yn y dderbynfa, a bydd gofyn ichi weithredu fel pwynt cyswllt cyntaf i gwsmeriaid mewnol ac allanol a myfyrwyr. Yn ogystal, byddwch yn cynnig cyngor ac arweiniad ar bob agwedd ar gymorth dysgu, a bydd gofyn i chi wneud hyn wyneb yn wyneb a thros y ffôn, gan ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol a hyrwyddo Coleg Gwyr Abertawe.
-
Rhan-Amser (17 awr yr wythnos)
-
Amser tymor (36 wythnos y flwyddyn)
-
Tymor Penodol tan 30 Mehefin 2027
-
Nosweithiau Llun - Iau (16:15 - 20:30)
-
£13.52 yr awr (£9,575 y flwyddyn)
-
Campws Tycoch
Cynhelir y cyfweliad ar 19/08/26.
Cyfrifoldebau Allweddol:
-
Cyflawni dyletswyddau derbynfa ddyddiol ar y campws dynodedig, gan gynnwys ateb galwadau ffôn ac ymateb i e-byst a chyfathrebiadau ysgrifenedig eraill - yn ddwyieithog lle bo angen.
-
Cyfarch pob ymwelydd mewnol ac allanol mewn modd proffesiynol, rheoli'r log ymwelwyr, a'u cyfeirio'n briodol gan ddilyn y Polisi Ymwelwyr.
-
Gwasanaethu fel y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer pob ymholiad ar y campws, gan ymdrin â galwadau sy'n dod i mewn, e-byst (gan gynnwys y blwch derbyn ymholiadau), a negeseuon yn effeithiol.
Amdanoch chi:
-
Sgiliau’r Iaith Gymraeg - A2 (disgrifwyr lefel Iaith ynghlwm)
-
Cymhwyster TGAU mewn Mathemateg a Saesneg (Gradd A-C).
-
Profiad o ddefnyddio systemau Microsoft Office a MIS
-
Sgiliau trefnu gwych a’r gallu i flaenoriaethu llwyth gwaith.
Buddion:
-
28 diwrnod o wyliau blynyddol gan gynnwys gwyliau banc. Hefyd, mae’r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig.
-
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chyfraniad cyflogwr o 21% ar gyfartaledd (2025).
-
Cynllun Pensiwn Athrawon a chyfraniad cyflogwr o 28.68% ar gyfartaledd (2025).
-
2 ddiwrnod lles i staff bob blwyddyn
-
Disgowntiau ar gostau cwrs os ydych yn astudio un o gyrsiau’r Coleg.
-
Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion: https://www.gcs.ac.uk/cy/recriwtio/buddion-a-lles
Angen cymorth gyda’ch cais? Cliciwch yma i weld ein canllawiau.
Gwybodaeth Bellach
- Os derbynnir llawer o geisiadau ar gyfer y rôl hon, efallai y byddwn newid y dyddiad cau. Felly, awgrymir ichi gyflwyno cais yn gynnar.
-
Fel arfer, gwneir penodiadau i waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).
Amrywiaeth a Chynhwysiant
Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion waeth beth fo’u hoedran, rhywedd, ethnigrwydd, anableddau, cyfeiriadedd rhwyiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gredoau. Rydym yn croesawu hefyd geisiadau gan unigolion mewn grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol o fewn ein sefydliad.
Yr Iaith Gymraeg
I wneud cais yn y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog pobl i gwblhau cais trwy gyfrwng y Gymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau dwyieithog, fel y gallwn ehangu ein gweithlu dwyieithog. Ni fydd ceisiadau Cymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Diogelu
Mae Coleg Gwyr Abertawe’n ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed. Rhaid i bob aelod o staff gydymffurfio â hyn. Bydd penodiadau’n amodol ar wiriadau cyn-gyflogaeth, gan gynnwys:
-
Gwiriad DBS manylach, gan gynnwys Rhestrau Gwaharddedig (£49.50)
-
Cofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru, lle bo angen (£15 - £45 yn dibynnu ar y rôl).