Are you passionate about LGBTQ+ equality and committed to creating opportunities for young people to thrive?
We are looking for an experienced and motivated youth work professional to lead and develop our Viva LGBTQ+ provision across North Wales. This is an exciting opportunity to shape high-quality LGBTQ+ youth work across four counties, leading a dedicated team, developing partnerships, and ensuring LGBTQ+ young people have access to safe, inclusive and affirming spaces.
As Viva LGBTQ+ Lead, you will:
- Lead and develop LGBTQ+ youth work provision across North Wales
- Manage and support staff and volunteers
- Deliver training and promote LGBTQ+ inclusion across organisations and communities
- Build partnerships and represent the organisation at local and regional forums
- Support LGBTQ+ young people and their families through high-quality youth work and advocacy
We are looking for someone with substantial experience of working with LGBTQ+ young people, strong leadership skills, and a commitment to equality, inclusion and youth participation.
Full-time (37 hours per week)Fixed-term until 31 March 2028 (subject to continued funding)Based across multiple sites in North Wales
If you want to lead meaningful change and help shape the future of LGBTQ+ youth work across North Wales, we would love to hear from you.
For more information, please contact: Alex Thomas [email protected] 07880 956458 or Donna Jones [email protected] 07933 876441
Purpose of Role
The Viva LGBTQ+ Lead is responsible for developing and delivering high-quality specialist LGBTQ+ youth work provision across a four-county area. The post-holder will lead the LGBTQ+ team, supervise junior staff, and ensure inclusive, safe, and affirming spaces for LGBTQ+ young people. This role combines direct youth work delivery with team leadership, training provision, and partnership development.
Key Responsibilities
Direct Youth Work Delivery:
- Develop and deliver multiple LGBTQ+ youth groups across 4 counties
- Provide one-to-one support and key working for LGBTQ+ young people
- Deliver programmes and activities as part of the Tŷ Pride Partnership (working to prevent LGBTQ+ homelessness)
- Provide advocacy for LGBTQ+ young people
- Offer family support to families of LGBTQ+ young people
- Facilitate the participation of and co-production with young people
- Apply youth work values and principles in all aspects of the role
- Provide role/possibility model for LGBTQ+ young people
Team Leadership and Supervision:
- Provide line management to LGBTQ+ Youth Work Support Worker and Outreach Worker
- Facilitate reflective supervision for junior staff in the LGBTQ+ team
- Recruit, supervise and support volunteers working with LGBTQ+ provision
- Contribute to organisational planning, staff and volunteer deployment
Training and Development:
- Develop and deliver training on LGBTQ+ and diversity topics to internal staff
- Provide training for external agencies on LGBTQ+ inclusion
- Support training and skills development for young people
Community Engagement and Partnerships:
- Promote and facilitate peer education and youth leadership
- Contribute to community capacity building activities
- Represent the organisation at forums and networks
- Recruit volunteers to support LGBTQ+ provision
Quality Assurance and Accountability:
- Contribute to quality assurance and evaluation of LGBTQ+ provision
- Complete accountability and compliance reports
- Support impact measurement and reporting
- Contribute to communications, media, and marketing activities
Safeguarding:
- Maintain safeguarding dutiescommensurate with role
- Contribute weekly to Safeguarding Panel
- Participate fully in reflective peer supervision
- Liaison with statutory safeguarding partners where appropriate
- Complete periodic training and awareness as directed
Person Specification
Essential Qualifications:
- Level 6 Youth Work qualification or equivalent (or working towards)
- Qualification or substantial training in LGBTQ+ awareness and inclusion
Essential Experience:
- Substantial experience of youth work with LGBTQ+ young people
- Experience of supervising staff or volunteers
- Experience delivering training to professionals or community groups
- Experience working across multiple sites/locations
- Experience of working with families
Essential Skills:
- Excellent youth work skills including relationship building, group work, and one-to-one support
- Strong understanding of LGBTQ+ identities, issues, and inclusive practice
- Ability to create safe, affirming spaces for LGBTQ+ young people
- Strong communication and interpersonal skills
- Ability to deliver training effectively
- Report writing and evaluation skills
- Access to own transport and willingness to travel across 4 counties
- Willingness to work up to 3 evenings per week an occasional weekends and overnight duties
Essential Personal Qualities:
- Passionate commitment to LGBTQ+ equality and inclusion
- Expert through lived experience
- Ability to work sensitively with young people experiencing marginalisation
- Commitment to youth work values and principles
- Self-motivated and able to work independently
- Collaborative team player
- Professional and reliable
- Commitment to reflective practice
Desirable:
- Welsh language skills
- Experience working in rural areas
- Experience of advocacy work
Apply online:
ENG- http://bit.ly/YEW_app_Eng
CYM- https://bit.ly/YEW_app_Cym
Ydych chi'n angerddol am gydraddoldeb LHDTC+ ac wedi ymrwymo i greu cyfleoedd i bobl ifanc ffynnu?
Rydym yn chwilio am weithiwr ieuenctid profiadol ac ysgogol i arwain a datblygu ein darpariaeth Viva LHDTC+ ledled gogledd Cymru. Mae hwn yn gyfle cyffrous i lunio gwaith ieuenctid LHDTC+ o ansawdd uchel ar draws pedair sir, gan arwain tîm ymroddedig, datblygu partneriaethau, a sicrhau bod pobl ifanc LHDTC+ yn cael mynediad at fannau diogel, cynhwysol a chadarnhaol.
Fel Arweinydd Viva LHDTC+, byddwch yn:
- Arwain a datblygu darpariaeth gwaith ieuenctid LHDTC+ ledled gogledd Cymru
- Rheoli a chefnogi staff a gwirfoddolwyr
- Darparu hyfforddiant a hyrwyddo cynhwysiant LHDTC+ ar draws sefydliadau a chymunedau
- Meithrin partneriaethau a chynrychioli'r sefydliad mewn fforymau lleol a rhanbarthol
- Cefnogi pobl ifanc LHDTC+ a'u teuluoedd drwy waith ieuenctid ac eiriolaeth o ansawdd uchel
Rydym yn chwilio am rywun sydd â phrofiad sylweddol o weithio gyda phobl ifanc LHDTC+, sgiliau arwain cryf, ac ymrwymiad i gydraddoldeb, cynhwysiant a chyfranogiad pobl ifanc.
Llawn amser (37.5 awr yr wythnos)Cyfnod penodol hyd at 31ain Mawrth 2028 (yn amodol ar gyllid parhaus)Wedi'i leoli ar draws safleoedd lluosog yng ngogledd Cymru
Os hoffech arwain newid ystyrlon a helpu i lunio dyfodol gwaith ieuenctid LHDTC+ yng ngogledd Cymru, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â / ag: Alex Thomas [email protected] 07880 956458 neu Donna Jones [email protected] 07933 876441
Manylion y Swydd
Teitl y Swydd: Arweinydd Viva LHDTC+
Yn Atebol i: Arweinydd Strategol
Oriau: Llawn amser (37.5 awr yr wythnos)
Contract: Cyfnod penodol hyd at 31ain Mawrth 2028 (yn amodol ar gyllid parhaus)
Lleoliad: Safleoedd lluosog ar draws pedair sir yng ngogledd Cymru
Dyddyiad terfynol am ceisiau:10fed Mis Awst 2026
Dyddiadau cyfweld:18fed & 20ain Mis Awst 2026
Diben y Rôl
Mae Arweinydd Viva LHDTC+ yn gyfrifol am ddatblygu a darparu gwasanaethau gwaith ieuenctid arbenigol LHDTC+ o ansawdd uchel ar draws ardal sy’n cwmpasu pedair sir. Bydd deiliad y swydd yn arwain y tîm LHDTC+, yn goruchwylio aelodau iau o staff, ac yn sicrhau bod mannau cynhwysol, diogel a chadarnhaol ar gael i bobl ifanc LHDTC+. Mae’r rôl hon yn cyfuno darparu gwaith ieuenctid yn uniongyrchol â darparu arweinyddiaeth i’r tîm, hyfforddiant, a datblygu partneriaethau.
Prif Gyfrifoldebau
Darparu Gwaith Ieuenctid yn Uniongyrchol:
- Datblygu a darparu nifer o grwpiau ieuenctid LHDTC+ ar draws pedair sir
- Darparu cymorth un-i-un a gwaith allweddol i bobl ifanc LHDTC+
- Cyflwyno rhaglenni a gweithgareddau fel rhan o Bartneriaeth Tŷ Pride (gan weithio i atal digartrefedd ymhlith pobl ifanc LHDTC+)
- Darparu eiriolaeth i bobl ifanc LHDTC+
- Cynnig cymorth i deuluoedd pobl ifanc LHDTC+
- Hwyluso cyfranogiad a chydgynhyrchu gyda phobl ifanc
- Cymhwyso gwerthoedd ac egwyddorion gwaith ieuenctid ym mhob agwedd y rôl
- Bod yn fodel rôl a phosibilrwydd i bobl ifanc LHDTC+
Arwain a Goruchwylio'r Tîm:
- Darparu rheolaeth linell i'r Gweithiwr Cymorth Gwaith Ieuenctid LHDTC+ a'r Gweithiwr Allgymorth LHDTC+
- Hwyluso goruchwyliaeth fyfyriol i aelodau iau o staff yn y tîm LHDTC+
- Recriwtio, goruchwylio a chefnogi gwirfoddolwyr sy'n gweithio o fewn y ddarpariaeth LHDTC+
- Cyfrannu at gynllunio sefydliadol, a lleoli a defnyddio staff a gwirfoddolwyr yn effeithiol
Hyfforddiant a Datblygiad:
- Datblygu a darparu hyfforddiant ar bynciau LHDTC+ ac amrywiaeth i staff mewnol
- Darparu hyfforddiant i asiantaethau allanol ar gynhwysiant LHDTC+
- Cefnogi hyfforddiant a datblygiad sgiliau pobl ifanc
Ymgysylltu â'r Gymuned a Phartneriaethau:
- Hyrwyddo a hwyluso addysg gan gymheiriaid ac arweinyddiaeth ymhlith pobl ifanc
- Cyfrannu at weithgareddau meithrin gallu cymunedol
- Cynrychioli'r sefydliad mewn fforymau a rhwydweithiau
- Recriwtio gwirfoddolwyr i gefnogi'r ddarpariaeth LHDTC+
Sicrhau Ansawdd ac Atebolrwydd:
- Cyfrannu at sicrhau ansawdd a gwerthuso'r ddarpariaeth LHDTC+
- Cwblhau adroddiadau atebolrwydd a chydymffurfiaeth
- Cefnogi mesur ac adrodd ar effaith y gwasanaeth
- Cyfrannu at weithgareddau cyfathrebu, y cyfryngau a marchnata
Diogelu:
- Cyflawni dyletswyddau diogelu sy'n gymesur â'r rôl
- Cyfrannu'n wythnosol at y Panel Diogelu
- Cymryd rhan lawn mewn goruchwyliaeth fyfyriol gan gymheiriaid
- Cydgysylltu â phartneriaid diogelu statudol lle bo'n briodol
- Cwblhau hyfforddiant a gweithgareddau codi ymwybyddiaeth cyfnodol yn unol â chyfarwyddyd y sefydliad
Manyleb y Person
Cymwysterau Hanfodol:
- Cymhwyster Gwaith Ieuenctid Lefel Chwech neu gymhwyster cyfatebol (neu'n gweithio tuag ato)
- Cymhwyster neu hyfforddiant sylweddol mewn ymwybyddiaeth a chynhwysiant LHDTC+
Profiad Hanfodol:
- Profiad sylweddol o waith ieuenctid gyda phobl ifanc LHDTC+
- Profiad o oruchwylio staff neu wirfoddolwyr
- Profiad o ddarparu hyfforddiant i weithwyr proffesiynol neu grwpiau cymunedol
- Profiad o weithio ar draws safleoedd neu leoliadau lluosog
- Profiad o weithio gyda theuluoedd
Sgiliau Hanfodol:
- Sgiliau gwaith ieuenctid rhagorol, gan gynnwys meithrin perthnasoedd, gwaith grŵp a chymorth un-i-un
- Dealltwriaeth gadarn o hunaniaethau LHDTC+, materion sy'n effeithio ar bobl LHDTC+, ac arferion cynhwysol
- Y gallu i greu mannau diogel a chadarnhaol i bobl ifanc LHDTC+
- Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol cryf
- Y gallu i ddarparu hyfforddiant yn effeithiol
- Sgiliau ysgrifennu adroddiadau a gwerthuso
- Mynediad at ddull trafnidiaeth personol a pharodrwydd i deithio ar draws pedair sir
- Parodrwydd i weithio hyd at dair noson yr wythnos, ac yn achlysurol ar benwythnosau a chyflawni dyletswyddau dros nos
Rhinweddau Personol Hanfodol:
- Ymrwymiad angerddol i gydraddoldeb a chynhwysiant LHDTC+
- Arbenigedd sy'n deillio o brofiad bywyd
- Y gallu i weithio'n sensitif gyda phobl ifanc sy'n profi ymyleiddio
- Ymrwymiad i werthoedd ac egwyddorion gwaith ieuenctid
- Hunangymhelliant a'r gallu i weithio'n annibynnol
- Y gallu i weithio'n gydweithredol fel aelod o dîm
- Proffesiynoldeb a dibynadwyedd
- Ymrwymiad i ymarfer myfyriol
Dymunol:
- Sgiliau Cymraeg
- Profiad o weithio mewn ardaloedd gwledig
- Profiad o waith eiriolaeth
Geisiwch ar-lein:
ENG- http://bit.ly/YEW_app_Eng
CYM- https://bit.ly/YEW_app_Cym
Pay: £36,600.00 per year
Benefits:
- Casual dress
- Company pension
- Free or subsidised travel
- Sick pay
Work Location: In person