27 days holiday per year (plus bank holidays), which increases with service. Excellent pension scheme, staff discount scheme
£32,465 per year
35 hours per week
Hybrid – Cardiff Office
Permanent
RNIB Cymru’s Strategy and Public Affairs Team works to remove the barriers faced by blind and partially sighted people in everyday life.
As a Social Action Community Coordinator you’ll be part of an ambitious, creative and dynamic team. We’ve had a lot of success in Wales and we’re looking for the right person to join our team, sharing in our ambition to make a world that works better for blind and partially sighted people.
These are permanent positions, home working with an expectation to be in our Cardiff office when required.
About the Role
You will be responsible for the recruitment, training, management and support of volunteers, enabling them to co-produce and co-deliver targeted behaviour change and sight loss awareness campaigns as part of RNIB’s developing social action strategy. You will support blind and partially sighted people to use their lived experience to contribute to RNIB’s behaviour change, policy, campaigning and communications work which includes delivering training on public speaking and other identified areas of development as appropriate.
You will help develop and deliver our Social Action strategy plan working alongside the RNIB Cymru Strategy and Public Affairs team. You will develop and maintaining relationships with local groups, organisations and businesses to facilitate the delivery of social action interventions, supporting them to take actions which will make local communities more inclusive. You will facilitate the provision of digital peer support and information sharing, working with volunteers to post content and moderate the RNIB Cymru Connect Facebook group. You will improve our community outreach and support the promotion of RNIB as an organisation that supports people along their sight loss journey.
What we are looking for
We are looking for a person with direct experience, or an in-depth knowledge, of issues and social barriers affecting blind and partially sighted people.
You will be experienced in raising awareness and delivering activities which lead to changing public perceptions or behaviours.
You will be able to effectively recruit and manage volunteers, supporting them to share their lived experiences and develop their skills, eventually enabling them to deliver their own campaigns.
You will enjoy collaboration and be able to work as part of a team towards a shared goal, with the ability communicate effectively in person and through writing.
You will be able to adapt to a variety of environments and be able to cater your approach to a variety of different audiences.
Welsh language skills are particularly desirable.
What We Offer
RNIB prides itself on being a great place to work with a positive, progressive culture. We offer a wide range of benefits including 27 days of holiday per year (plus bank holidays) which rises with service, enhanced family friendly benefits, a contributory pension scheme with an employer contribution of up to 11% and a rewards platform with employee discounts across over 800 retailers.
How to Apply
If you'd like to apply for this opportunity, please apply online, uploading your CV and supporting statement, telling us how you meet the essential criteria.
Cydlynwyr Cymunedol Gweithredu Cymdeithasol, Cymru
£32,465 y flwyddyn
35 awr yr wythnos
Hybrid – Swyddfa Caerdydd
Parhaol
Mae Tîm Strategaeth a Materion Cyhoeddus RNIB Cymru yn gweithio i gael gwared ar y rhwystrau y mae pobl ddall ac â golwg rhannol yn eu hwynebu yn eu bywyd bob dydd.
Fel Cydlynydd Cymunedol Gweithredu Cymdeithasol byddwch yn rhan o dîm uchelgeisiol, creadigol a deinamig. Rydyn ni wedi cael llawer o lwyddiant yng Nghymru ac rydyn ni’n chwilio am berson addas i ymuno â'n tîm ni, gan rannu ein huchelgais i greu byd sy'n gweithio'n well i bobl ddall a phobl â golwg rhannol.
Mae'r rhain yn swyddi parhaol, yn gweithio gartref, ond bydd disgwyl i chi fod yn ein swyddfa ni yng Nghaerdydd pan fo angen.
Am y Rôl
Byddwch yn gyfrifol am recriwtio, hyfforddi, rheoli a chefnogi gwirfoddolwyr, gan eu galluogi i gydgynhyrchu a chydgyflwyno ymgyrchoedd newid ymddygiad ac ymwybyddiaeth o golled golwg wedi'u targedu fel rhan o strategaeth gweithredu cymdeithasol yr RNIB sy’n datblygu ar hyn o bryd. Byddwch yn cefnogi pobl ddall a phobl â golwg rhannol i ddefnyddio eu profiad bywyd i gyfrannu at waith newid ymddygiad, polisi, ymgyrchu a chyfathrebu yr RNIB, sy'n cynnwys darparu hyfforddiant ar siarad cyhoeddus a meysydd datblygu eraill a nodir, fel sy’n briodol.
Byddwch yn helpu i ddatblygu a chyflawni ein cynllun strategaeth Gweithredu Cymdeithasol gan weithio ochr yn ochr â thîm Strategaeth a Materion Cyhoeddus RNIB Cymru. Byddwch yn datblygu a chynnal perthnasoedd â grwpiau, sefydliadau a busnesau lleol i hwyluso cyflawni ymyriadau gweithredu cymdeithasol, gan eu cefnogi i gymryd camau a fydd yn gwneud cymunedau lleol yn fwy cynhwysol. Byddwch yn hwyluso darparu cefnogaeth ddigidol i gydweithwyr a rhannu gwybodaeth, gan weithio gyda gwirfoddolwyr i bostio cynnwys a chymedroli grŵp Facebook RNIB Cymru Connect. Byddwch yn gwella ein hallgymorth cymunedol ac yn cefnogi hyrwyddo’r RNIB fel sefydliad sy'n cefnogi pobl ar eu siwrnai colled golwg.
Beth Rydym yn Chwilio Amdano
Rydym yn chwilio am berson sydd â phrofiad uniongyrchol o broblemau a rhwystrau cymdeithasol sy'n effeithio ar bobl ddall a phobl â golwg rhannol, neu wybodaeth fanwl amdanynt.
Bydd gennych brofiad o godi ymwybyddiaeth a chyflwyno gweithgareddau sy'n arwain at newid canfyddiadau neu ymddygiadau'r cyhoedd.
Byddwch yn gallu recriwtio a rheoli gwirfoddolwyr yn effeithiol, gan eu cefnogi i rannu eu profiadau byw a datblygu eu sgiliau, gan eu galluogi yn y pen draw i gyflwyno eu hymgyrchoedd eu hunain.
Byddwch yn mwynhau cydweithredu a byddwch yn gallu gweithio fel rhan o dîm tuag at nod a rennir, gyda'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol wyneb yn wyneb ac yn ysgrifenedig.
Byddwch yn gallu addasu i amrywiaeth o amgylcheddau a byddwch yn gallu sicrhau bod eich dull yn addas i amrywiaeth o gynulleidfaoedd gwahanol.
Beth Rydym yn ei Gynnig
Mae’r RNIB yn ymfalchïo mewn bod yn lle gwych i weithio ynddo gyda diwylliant cadarnhaol a blaengar. Rydyn ni’n cynnig ystod eang o fuddion gan gynnwys 26 diwrnod o wyliau y flwyddyn (ynghyd â gwyliau banc) sy'n codi gyda gwasanaeth, buddion gwell sy'n gyfeillgar i deuluoedd, cynllun pensiwn cyfrannol gyda chyfraniad cyflogwr o hyd at 11% a llwyfan gwobrwyo gyda gostyngiadau i gyflogeion ar draws mwy na 800 o fanwerthwyr.
Am ragor o wybodaeth am y manteision sydd ar gael, ewch i'n tudalen Manteision Gweithio i’r RNIB.
Sut i Ymgeisio
Os hoffech wneud cais am y cyfle hwn, gwnewch gais ar-lein, gan uwchlwytho eich CV a datganiad ategol, a dweud wrthym sut rydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol.