Research Associate (Postdoctoral Researcher) in Lung Tissue Imaging
School of Biosciences
We are looking for a Grade 6 Postdoctoral Researcher to join the team of Dr Renata Jurkowska, School of Biosciences. The role will focus on understanding molecular and cellular mechanisms that maintain healthy lung tissue and how these processes become disrupted in chronic lung diseases.
You will join an interdisciplinary project funded by the Wellcome Trust Discovery Award, aimed at developing a transformative multiphoton microscopy technology for applications in mucosal tissue mechanobiology. Mucosal surfaces are the main interface between the environment and our organism. In the lung, mucus provides a barrier that entraps foreign pathogens and particles and is moved into the oesophagus by coordinated ciliary beating of epithelial cells. Mucus viscoelasticity is crucial to this movement, and poor mucociliary clearance contributes to the development of chronic lung diseases, like asthma or chronic obstructive pulmonary disease (COPD).
The new technology developed in this project will measure mucus viscoelasticity by tracking the trajectories of individual nano-probes with unprecedented nanoscale precision. It will map the 3D structure and composition of living lung tissues with subcellular resolution and molecular chemical specificity. The technology will be applied to healthy and diseased lung tissues and cellular models, in response to inflammatory triggers, infections and drugs. This research will unlock new insights into how mucus mechanics interconnects to regulatory pathways underlying airway remodelling and fibrosis, key features of chronic lung diseases, which are a massive unmet medical need.
You will work alongside biophysicists who will develop microscope hardware and software. The microscope will implement four-wave mixing imaging and tracking, coherent Raman scattering, second-harmonic generation, third-harmonic generation and two-photon fluorescence, all integrated in one instrument.
You will develop lung tissue and primary cell-based models for imaging and investigate the molecular and cellular mechanisms driving airway remodelling and deficient mucociliary clearance. You will support data acquisition, analysis and scientific interpretation. You will engage in scientific publication and dissemination of the results.
We’d like to hear from you if you:
- Have experience in preparing, imaging and analysing mammalian tissues using microscopic methods and quantitative image analysis platforms.
- Have experience in using tissue or/and cell-based models in 2D or 3D
- Possess excellent written and verbal communication and team-working skills.
Informal enquiries are welcomed and can be directed, in the first instance, to [email protected].
The position is full-time available from 1st August 2026 and is fixed term until 31st July 2029.
Salary: £41,064 - £46,049 per annum (Grade 6).
Appointments to roles at Cardiff University are usually made at bottom of scale unless in exceptional circumstances.
Cardiff University offers many excellent benefits, including 45 days annual leave (incl. bank holidays), local pension scheme, a cycle to work scheme and other travel initiatives, annual increments within the pay scale, and more. It's an exciting and vibrant place to work with many different challenges and is a proud Living Wage supporter. You will be based at Cardiff University and will work together with our project collaborators at the University of Cambridge.
Date advert posted: Tuesday, 18 August 2026
Closing date: Friday, 4 September 2026
Cardiff University is committed to supporting and promoting equality and diversity and to creating an inclusive working environment. We believe this can be achieved through attracting, developing, and retaining a diverse range of staff from many different backgrounds. We therefore welcome applicants from all sections of the community regardless of sex, ethnicity, disability, sexual orientation, trans identity, relationship status, religion or belief, caring responsibilities, or age. We especially welcome and encourage applications from those under-represented groups within the University workforce, such as those who identify as LGBT+, Ethnic Minority or those with disabilities. In supporting our employees to achieve a balance between their work and their personal lives, we will also consider proposals for flexible working or job share arrangements.
Cardiff University is a signatory to the San Francisco Declaration on Research Assessment (DORA), which means that in hiring and promotion decisions we will evaluate applicants on the quality of their research, not publication metrics or the identity of the journal in which the research is published. More information is available at: Responsible research assessment - Research - Cardiff University
Applications may be submitted in Welsh, and an application submitted in Welsh will not be treated less favourably than an application submitted in English.
Cynorthwyydd Ymchwil mewn Delweddu Meinwe'r Ysgyfaint
Ysgol y Biowyddorau
Rydyn ni’n awyddus i benodi Cydymaith Ymchwil i ymuno â thîm o dan arweiniad Dr Renata Jurkowska yn Ysgol y Biowyddorau. Bydd y rôl yn canolbwyntio ar ddeall mecanweithiau moleciwlaidd a chellog sy'n cynnal meinwe ysgyfaint iach a sut mae clefydau cronig yr ysgyfaint yn amharu ar y prosesau hyn.
Byddwch yn ymuno â phrosiect rhyngddisgyblaethol a ariennir gan Wobr Darganfod Ymddiriedolaeth Wellcome. Ei nod yw datblygu technoleg microsgopeg amlffoton drawsnewidiol ar gyfer cymwysiadau mewn mecanofioleg meinwe mwcosaidd. Arwynebau mwcosaidd yw'r prif ryngwyneb rhwng yr amgylchedd a'n horganeb. Yn yr ysgyfaint, mae mwcws yn darparu rhwystr sy'n dal pathogenau a gronynnau estron ac yn cael ei symud i'r oesoffagws drwy guriad siliaidd cydlynol celloedd epithelaidd. Mae gludedd elastigedd mwcws yn hanfodol i'r symudiad hwn, ac mae clirio mwcosaidd gwael yn cyfrannu at ddatblygu clefydau cronig yr ysgyfaint, fel asthma neu glefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD).
Bydd y dechnoleg newydd a ddatblygwyd yn y prosiect hwn yn mesur gludedd elastigedd mwcws drwy olrhain llwybrau nano-chwiliedyddion unigol gyda chywirdeb nanosgâl digynsail. Bydd yn mapio strwythur a chyfansoddiad 3D meinweoedd ysgyfaint byw gyda manylder isgellog a phenodoldeb cemegol moleciwlaidd. Bydd y dechnoleg yn cael ei chymhwyso i feinweoedd ysgyfaint iach ac afiach a modelau cellog, mewn ymateb i sbardunau llidiol, heintiau a chyffuriau. Bydd y gwaith ymchwil hwn yn datgloi dealltwriaeth newydd o sut mae mecaneg mwcws yn cysylltu â llwybrau rheoleiddio sy'n sail i ailfodelu'r llwybr anadlu a ffibrosis, nodweddion allweddol clefydau cronig yr ysgyfaint, sy'n angen meddygol enfawr heb ei ddiwallu.
Byddwch yn cydweithio â bioffisegwyr a fydd yn datblygu caledwedd a meddalwedd microsgop. Bydd y microsgop yn rhoi nodwedd delweddu ac olrhain cymysgu pedair ton ar waith, yn ogystal â gwasgariad Raman cydlynol, cynhyrchu ail harmonig, cynhyrchu trydydd harmonig a fflwroleuedd dau ffoton, a bydd y cyfan wedi'u hintegreiddio mewn un offeryn.
Byddwch yn datblygu modelau sy'n seiliedig ar feinwe'r ysgyfaint a chelloedd cynradd ar gyfer delweddu. Ar ben hynny, byddwch yn ymchwilio i'r mecanweithiau moleciwlaidd a chellog sy'n gyrru’r gwaith o ailfodelu'r llwybr anadlu a chlirio mwcosaidd diffygiol. Byddwch yn cynorthwyo prosesau caffael data, dadansoddi a dehongli gwyddonol. Byddwch yn chwarae rhan mewn cyhoeddi a lledaenu canlyniadau gwyddonol.
Hoffem glywed gennych os ydych chi:
- Yn meddu ar brofiad o baratoi, delweddu a dadansoddi meinweoedd mamalaidd gan ddefnyddio dulliau microsgopeg a chynlluniau dadansoddi delweddau meintiol.
- Yn meddu ar brofiad o ddefnyddio modelau meinwe a/neu gelloedd mewn 2D neu 3D
- Yn meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar ac yn ysgrifenedig a’r gallu i weithio mewn tîm.
Croesewir ymholiadau anffurfiol a gellir eu cyfeirio, yn y lle cyntaf, at [email protected].
Swydd amser llawn yw hon ac mae ar gael o 1 Awst 2026 am gyfnod penodol tan 31 Gorffennaf 2029.
Cyflog: £41,064 hyd at £46,049 y flwyddyn (Graddfa 6).
Ym Mhrifysgol Caerdydd, mae unigolion fel arfer yn dechrau ar waelod y raddfa gyflog, ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol.
Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig pecyn buddion gwych, gan gynnwys 45 diwrnod o wyliau blynyddol (gan gynnwys Gwyliau Banc), cynllun pensiwn lleol, cynllun beicio i'r gwaith a chynlluniau teithio eraill, cynyddrannau blynyddol ar hyd y raddfa gyflog, a mwy. Mae’n lle cyffrous a bywiog i weithio, gyda nifer o heriau gwahanol. Rydym hefyd yn falch i gefnogi’r Cyflog Byw. Byddwch yn gweithio ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn cydweithio â'n cydweithwyr ar y prosiect ym Mhrifysgol Caergrawnt.
Dyddiad hysbysebu: Dydd Mawrth, 18 Awst 2026
Dyddiad cau: Dydd Gwener, 4 Medi 2026
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau yn arbennig gan y rhai o grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn gweithlu'r Brifysgol, fel y rhai sy'n uniaethu fel LGBT+, o gefndiroedd ethnig leiafrifol neu'r rhai ag anableddau. Er mwyn helpu ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu swydd.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi llofnodi Datganiad San Francisco ar Asesu Ymchwil (DORA), sy'n golygu y byddwn, wrth wneud penderfyniadau cyflogi a dyrchafu, yn gwerthuso ymgeiswyr ar sail safon eu hymchwil, ac nid ar sail metrigau cyhoeddi na'r cyfnodolyn y mae'r ymchwil wedi’i chyhoeddi ynddo. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: Asesu ymchwil yn gyfrifol – Ymchwil – Prifysgol Caerdydd
Cewch gyflwyno cais yn Gymraeg, ac ni chaiff cais a gyflwynir yn Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.