Research Recruitment Lead
Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences
School of Medicine
College of Biomedical and Life Sciences
An exciting opportunity has arisen for a Research Recruitment Lead to join the Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences at Cardiff University, based at Cardiff University’s flagship Hadyn Ellis Building.
This post will work within the Mental Health Goals (MHG) Omics programme, a landmark UK-wide initiative, funded by the UK Government, aiming to revolutionise our understanding and treatment of severe mental illness. Building on significant advances in genomics, proteomics, metabolomics, and digital health, the project will establish the world’s largest multi-omic cohort of people with psychosis and mood disorders, linked to extensive clinical and real-world health data. This new national infrastructure, developed in close collaboration with individuals with lived experience, the NHS, academia, and industry, will accelerate the discovery of biological mechanisms, identify biomarkers for personalised treatments, and make the UK an attractive place globally for mental health innovation. Led by a collaborative, friendly, and highly expert team spanning Cardiff University, the University of Cambridge, Cambridgeshire and Peterborough NHS Foundation Trust, the University of Edinburgh, and King’s College London, MHG Omics offers an exciting opportunity to contribute to a truly pioneering programme with the potential to change lives and shape the future of mental healthcare.
The successful candidate will coordinate and conduct recruitment and assessment of people with psychosis, contribute to the recruitment strategy for participants from non-NHS sources (e.g. other research studies), and handle day-to-day activities associated with a large multidisciplinary study. In addition, they will line manage two Psychology Assistants working on study recruitment.
Candidates should have skills and experience in psychiatric or psychological assessment, be able to demonstrate project management and research coordination skills as well as excellent interpersonal and communication skills. The successful applicant will join the world-leading Centre for Neuropsychiatric Genetics and Genomics and the Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences in Cardiff University
This post is based at the Hadyn Ellis Building, Cathays campus.
This role is eligible to be offered on a blended working basis, meaning that as well as spending time working on campus you can also choose to spend some time working from another location, e.g. your home. The University is committed to offering this flexibility, wherever the role and business need allows, supporting work-life balance.
Cardiff University offers many excellent benefits, including 45 days annual leave (incl bank holidays), local pension scheme, a cycle to work scheme and other travel initiatives, annual increments within the pay scale, and more. It is an exciting and vibrant place to work, with many different challenges and is a proud Living Wage supporter.
How we will support you in performing in this role –
There are some things that you must have before you can start this role (see ‘Essential Criteria’), but other things can be developed either through training, or just by general on-the-job experience. We want to support and develop you once you have started in the role using a combination of the following to get the best out of you:
1. Regular one-to-ones with your manager
2. An experienced and supportive team around you
3. Supporting you through job-relevant training and development that you may require
4. A mentoring scheme
For informal enquiries please contact Dr Kimberley Kendall (
[email protected]).
This post is full-time (35 hours per week), available from 1st September 2026 and fixed term until 31st August 2029.
Salary: £41,064 - £46,049 per annum (Grade 6). Appointments to roles at Cardiff University are usually made at bottom of scale unless in exceptional circumstances.
Closing date: Monday, 15 June 2026
Applications may be submitted in Welsh, and an application submitted in Welsh will not be treated less favourably than an application submitted in English.
Cardiff University is committed to supporting and promoting equality and diversity and to creating an inclusive working environment. We believe this can be achieved through attracting, developing, and retaining a diverse range of staff from many different backgrounds. We therefore welcome applicants from all sections of the community regardless of sex, ethnicity, disability, sexual orientation, trans identity, relationship status, religion or belief, caring responsibilities, or age. In supporting our employees to achieve a balance between their work and their personal lives, we will also consider proposals for flexible working or job share arrangements.
Arweinydd Recriwtio ar gyfer Ymchwil
Yr Is-adran Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddorau Clinigol
Yr Ysgol Meddygaeth
Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd
Mae swydd gyffrous ar gael i Arweinydd Recriwtio ar gyfer Ymchwil ymuno ag Is-adran Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddorau Clinigol Prifysgol Caerdydd, wedi'i lleoli yn Adeilad blaenllaw Hadyn Ellis ym Mhrifysgol Caerdydd.
Bydd deiliaid y swydd yn gweithio’n rhan o raglen Nodau Iechyd Meddwl (MHG) Omeg, menter bwysig ledled y DU, a ariennir gan Lywodraeth y DU. Ei nod yw chwyldroi ein dealltwriaeth a'r ffordd rydyn ni’n trin salwch meddwl difrifol. Gan ehangu ar ddatblygiadau sylweddol ym maes genomeg, proteomeg, metabolomeg ac iechyd digidol, bydd y prosiect yn sefydlu carfan aml-omig fwyaf y byd o bobl ag anhwylderau seicosis a hwyliau, gan ei chysylltu â data iechyd clinigol a byd go iawn helaeth. Bydd y seilwaith cenedlaethol newydd hwn, a ddatblygwyd mewn cydweithrediad agos ag unigolion sydd â phrofiad byw, y GIG, y byd academaidd a diwydiant, yn cyflymu'r gwaith o ddarganfod mecanweithiau biolegol, canfod biofarcwyr i greu triniaethau wedi'u personoli a gwneud y DU yn lle deniadol yn fyd-eang i arloesi ym maes iechyd meddwl. Dan arweiniad tîm cydweithredol, cyfeillgar a hynod o arbenigol sy'n cwmpasu Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Caergrawnt, Ymddiriedolaeth Sefydliad y GIG Swydd Gaergrawnt a Peterborough, Prifysgol Caeredin, a Choleg y Brenin Llundain, mae MHG Omeg yn cynnig cyfle cyffrous i chwarae rhan mewn rhaglen wirioneddol arloesol a allai newid bywydau a llunio dyfodol gofal iechyd meddwl.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cydlynu ac yn cynnal prosesau recriwtio ac asesu pobl â seicosis ac yn cynorthwyo strategaeth recriwtio ar gyfer y rhai o ffynonellau nad ydyn nhw’n rhan o'r GIG (e.e. astudiaethau ymchwil eraill). Ar ben hynny, bydd yn cyflawni gweithgareddau o ddydd i ddydd sy'n gysylltiedig ag astudiaeth amlddisgyblaethol sylweddol ei maint. Ar ben hynny, bydd yn rheolwr llinell ar ddau Gynorthwyydd Seicoleg sy'n gweithio ar recriwtio ar gyfer astudiaethau.
Dylai ymgeiswyr feddu ar sgiliau a phrofiad ym maes asesu seiciatrig neu seicolegol. Ar ben hynny, dylen nhw allu dangos sgiliau rheoli prosiectau a chydlynu ymchwil, yn ogystal â sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â'r Ganolfan Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig sy'n arwain y byd a'r Is-adran Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddorau Clinigol ym Mhrifysgol Caerdydd.
Swydd yn Adeilad Hadyn Ellis ar gampws Parc Cathays yw hon.
Mae’r swydd yn gymwys i’w chynnig ar sail gweithio cyfunol. Mae hynny’n golygu, yn ogystal â gweithio ar y campws, y cewch weithio o leoliad arall (e.e. eich cartref) rywfaint o’r amser. Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i gynnig yr hyblygrwydd hwn pan fo’r swydd ac anghenion y busnes yn caniatáu, a hynny er mwyn ichi allu sicrhau cydbwysedd rhwng eich gwaith a’ch bywyd personol.
Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig pecyn buddion gwych, gan gynnwys 45 diwrnod o wyliau blynyddol (gan gynnwys gwyliau banc), cynllun pensiwn lleol, cynllun beicio i'r gwaith a chynlluniau teithio eraill, cynyddrannau blynyddol ar hyd y raddfa gyflog, a mwy. Dyma le cyffrous a bywiog i weithio, lle mae nifer o heriau gwahanol. Rydym hefyd yn falch o gefnogi’r Cyflog Byw.
Sut y byddwn yn eich helpu i gyflawni’r rôl hon –
Mae’n rhaid i chi fodloni rhai gofynion cyn gallu dechrau’r swydd (gweler ‘Meini Prawf Hanfodol’), ond bydd modd datblygu’r elfennau eraill drwy gael hyfforddiant neu brofiad cyffredinol yn y swydd. Ar ôl i chi ddechrau yn y swydd, rydym ni am eich cefnogi chi a’ch datblygu gan ddefnyddio cyfuniad o’r canlynol i wireddu eich llawn botensial:
1. Cyfarfodydd un i un rheolaidd gyda'ch rheolwr
2. Tîm profiadol a chefnogol o'ch cwmpas
3. Eich cefnogi drwy estyn cyfleoedd ichi hyfforddi a datblygu yn ôl yr angen mewn ffyrdd sy’n berthnasol i’r swydd
4. Cynllun mentora
Cysylltwch â’r Dr Kimberley Kendall (
[email protected]) os oes gennych chi ymholiadau anffurfiol.
Swydd amser llawn (35 awr yr wythnos) yw hon. Mae ar gael am gyfnod penodol o 1 Medi 2026 tan 31 Awst 2029.
Cyflog: £41,064 hyd at £46,049 y flwyddyn (Graddfa 6). Ym Mhrifysgol Caerdydd, mae’r bobl a benodir fel arfer yn dechrau ar waelod y raddfa gyflog ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol.
Dyddiad cau: Dydd Llun, 15 Mehefin 2026
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Er mwyn helpu ein cyflogeion i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu swydd.