About the role:
We are currently seeking an experienced and values-led individual to join the Early Intervention & Partnerships Team as an Early Intervention Lead. This is a new post within a developing early intervention offer for children, young people and families in Neath Port Talbot. You will help shape, lead and support a new team delivering family-centred interventions, working closely with other early intervention and prevention services to provide joined-up support for families.
As Early Intervention Lead, you will lead, motivate and support a team of Early Intervention Key Workers to deliver high-quality support that is responsive to the needs and priorities of families. You will provide day-to-day supervision, monitor service delivery, support best practice and contribute to service development, quality assurance and reporting.
Your daily routine will include:
- Providing supervision, guidance and support to Early Intervention Key Workers.
- Overseeing referrals, support plans and the timely delivery of interventions for families.
- Monitoring outcomes, safeguarding practice and service delivery standards.
- Working alongside other early intervention services and partner organisations to ensure coordinated support.
- Supporting team meetings, reflective practice, training and professional development.
- Contributing to evaluation, reporting and continuous improvement of the service.
About you:
Do you have:
- A degree-level qualification or equivalent experience, and a supervision or management qualification at level 3 or above.
- The ability to work collaboratively with families, partners and other services to achieve positive, sustainable outcomes.
- The ability to motivate, mentor and support staff through one-to-one supervision, group supervision, team meetings and reflective practice.
- Strong organisational skills, with the ability to manage competing priorities, plan work and meet deadlines.
- Good knowledge of safeguarding, equality and diversity principles, and the ability to apply relevant policies and legislation in practice.
- Significant practical experience of working with children, young people and families, including families with multiple or complex needs.
- Experience of supervising or managing a support team within a social care, family support or early intervention setting.
We would welcome applications from people with experience in roles such as Family Support Lead, Early Intervention Lead, Parenting Support Lead, Team Leader or similar roles involving direct work with children, young people and families and supervision of staff.
About us:
We believe in rewarding and recognising our colleagues’ efforts and achievements. We also believe that there’s life at work and life outside of work. We want everyone to be healthy and happy and have the financial resources and support they need.
Choose to work for us and you’ll be rewarded with a range of attractive benefits and support to help you live your best life.
- Hybrid working (in some roles) and flexible working schemes to improve your work life balance
- Benefit from a competitive employee package with a remarkable 15.3% employer pension contribution
- Enjoy a holiday entitlement of 25 days, increasing to 32 days after 5 years’ service (not forgetting the additional 8 bank holidays too)
- Access discounted gym membership with Celtic Leisure
- Utilise the cycle to work scheme with up to 40% off bikes and cycling equipment
- Purchase a new car through Tusker salary sacrifice scheme
- Enjoy exclusive discounts at local and national retailers with the Smart Spend app through our staff wellbeing group.
If you would like to start a rewarding career with a company that values and invests in its employees and you have the necessary experience and qualifications, this could be your dream job and we would love to hear from you.
For an informal discussion, please contact Allison Harris on
Email: [email protected]
DBS requirements:
- This post is subject to an enhanced DBS disclosure with both adult and child barred list checks.
Neath Port Talbot Council is totally committed to safeguarding and promoting the welfare of children and young people and expects all staff and volunteers to share this commitment. Our employees are equally committed to ensuring the safety and protection of all children and young people and will take action to safeguard their wellbeing.
The recruitment process for this post will be underpinned by rigorous safer recruitment assessment to ensure that children and young people are protected.
Welsh Language Requirements:
Welsh Language skills are desirable for this post.
Additional Information:
Applications may be submitted in Welsh, applications submitted in Welsh will not be treated less favourably than an application submitted in English.
We offer a guaranteed interview scheme for candidates who have a disability and armed forces veterans. In support of employees of Tata Steel who are at risk of redundancy, or have been made redundant in 2024, Neath Port Talbot Council is offering a guaranteed interview for jobs across the Council. Please note that applicants must meet all the essential criteria, as shown in the person specification, to qualify for a guaranteed interview. If you are or going to be affected by the job losses at Tata Steel then we would welcome an application from you. Just make it known on your application form that you are currently at risk of redundancy or you have been made redundant.
At Team NPT, we all work together to serve the people, communities and businesses of Neath Port Talbot.
We are committed to providing training opportunities and the professional development of all our employees.
We look forward to welcoming you to Team NPT.
Am y swydd:
Rydyn ni wrthi ar hyn o bryd yn chwilio am unigolyn profiadol, sy'n cael ei arwain gan werthoedd, i ymuno â'r Tîm Ymyrraeth Gynnar a Phartneriaethau, fel Arweinydd Ymyrraeth Gynnar. Dyma swydd newydd o fewn cynnig sydd wrthi'n datblygu ym maes ymyrraeth gynnar i blant, pobl ifanc a theuluoedd yng Nghastell-nedd Port Talbot. Byddwch chi'n helpu i roi ffurf ar dîm newydd, ei arwain a'i gefnogi, wrth iddynt ddarparu ymyriadau sy'n canoli ar y teulu, gan weithio'n agos gyda gwasanaethau ymyrraeth gynnar ac atal eraill i ddarparu cefnogaeth gydlynol i deuluoedd.
Fel Arweinydd Ymyrraeth Gynnar, byddwch chi'n arwain, ysgogi a chefnogi tîm o Weithwyr Allweddol Ymyrraeth Gynnar i ddarparu cefnogaeth o ansawdd uchel sy'n ymatebol i anghenion a blaenoriaethau teuluoedd. Byddwch hci'n darparu goruchwyliaeth feulynddiol, yn monitro darpariaeth o'r gwasanaeth, yn cefnogi arfer orau ac yn cyfrannu at ddatblygu'r gwasanaeth, gwarantu'i ansawdd ac adrodd.
Bydd eich trefn o ddydd i ddydd yn cynnwys:
- Darparu goruchwyliaeth, arweiniad a chefnogaeth i Weithwyr Allweddol Ymyrraeth Gynnar.
- Goruchwylio atgyfeiriadau, cynlluniau cymorth a chyflenwi ymyriadau amserol i deuluoedd.
- Monitro canlyniadau, arferion diogelu a safonau cyflenwi gwasanaethau.
- Gweithio ochr yn ochr â gwasanaethau ymyrraeth gynnar eraill a sefydliadau partner i sicrhau cefnogaeth gydlynol.
- Cefnogi cyfarfodydd tîm, arferion myfyriol, hyfforddiant a datblygiad proffesiynol.
- Cyfrannu at werthuso, adrodd a gwelliant parhaus y gwasanaeth.
Amdanoch chi:
Ydych chi'n meddu ar:
- Cymhwyster lefel gradd neu brofiad cyfatebol, a chymhwyster goruchwylio neu reoli ar lefel 3 neu uwch.
- Y gallu i gydweithio â theuluoedd, partneriaid a gwasanaethau eraill i gyflawni canlyniadau cadarnhaol a chynaliadwy.
- Y gallu i ysgogi, mentora a chefnogi staff trwy oruchwyliaeth un-i-un, goruchwylio grŵp, cyfarfodydd tîm ac ymarfer myfyriol.
- Sgiliau trefnu cryf, gyda'r gallu i reoli blaenoriaethau cystadleuol, cynllunio gwaith a chwrdd â therfynau amser.
- Gwybodaeth dda am egwyddorion diogelu, cydraddoldeb ac amrywiaeth, a'r gallu i gymhwyso polisïau a deddfwriaeth berthnasol yn ymarferol.
- Profiad ymarferol sylweddol o weithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd, gan gynnwys teuluoedd ag anghenion lluosog neu gymhleth.
- Profiad o oruchwylio neu reoli tîm cymorth o fewn lleoliad gofal cymdeithasol, cymorth teuluol neu ymyrraeth gynnar.
Byddem ni'n croesawu ceisiadau oddi wrth bobl â phrofiad mewn swyddi fel Arweinydd Cefnogi Teuluoedd, Arweinydd Ymyrraeth Gynnar. Arweinydd Cefnogi Rhianta, Arweinydd Tîm neu rolau tebyg sy'n ymwneud â gweithio'n uniongyrchol gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd, a goruchwylio staff.
Amdanom ni:
Rydyn ni'n credu mewn gwobrwyo a chydnabod ymdrechion a chyflawniadau ein cydweithwyr. Rydyn ni hefyd yn credu bod bywyd i'w gael yn y gwaith a bod bywyd yn bodoli y tu fas i'r gwaith. Rydyn ni am i bawb fod yn iach ac yn hapus a chael yr adnoddau ariannol a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt.
Dewiswch weithio i ni a chewch eich gwobrwyo ag ystod o fuddion a chefnogaeth ddeniadol i'ch helpu i fyw eich bywyd gorau.
- Gweithio hybrid (mewn rhai rolau) a chynlluniau gweithio hyblyg i wella'ch cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith
- Cewch fanteisio ar becyn cystadleuol i weithwyr gyda chyfraniad pensiwn cyflogwr rhyfeddol o 15.3%
- Cewch fwynhau hawl i 25 diwrnod o wyliau, gan gynyddu i 32 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth (heb anghofio'r 8 gŵyl banc ychwanegol hefyd)
- Mynediad at aelodaeth gampfa am bris gostyngol gyda Celtic Leisure
- Gallwch ddefnyddio'r cynllun beicio i'r gwaith gyda hyd at 40% oddi ar feiciau ac offer beicio
- Gallwch brynu car newydd trwy gynllun aberthu cyflog Tusker
- Cewch fwynhau gostyngiadau unigryw mewn manwerthwyr lleol a chenedlaethol gyda'r ap Smart Spend trwy ein grŵp lles staff.
Os hoffech chi ddechrau gyrfa werth chweil gyda chwmni sy'n gwerthfawrogi ac yn buddsoddi yn ei weithwyr ac os oes gennych chi'r profiad a'r cymwysterau angenrheidiol, gallai hon fod yn swydd eich breuddwydion a byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.
I gael trafodaeth anffurfiol, cysylltwch ag Allison Harris ar
E-bost: [email protected]
Gofynion DBS:
- Mae'r swydd hon yn amodol ar gael datgeliad DBS uwch ar y rhestrwirio gwaharddiadau oedolion a phlant.
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi ymrwymo'n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymrwymiad hwn. Mae ein gweithwyr yr un mor ymrwymedig i sicrhau diogelwch ac amddiffyniad pob plentyn a pherson ifanc a byddant yn cymryd camau i ddiogelu eu lles.
Bydd y broses recriwtio ar gyfer y swydd hon yn cael ei hategu gan asesiad recriwtio diogelach trylwyr i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu hamddiffyn.
Gofynion yr Iaith Gymraeg:
Mae sgiliau'r Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Gellir cyflwyno ceisiadau yn y Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Rydyn ni'n cynnig cynllun gwarantu cyfweliad i ymgeiswyr sydd ag anabledd a chyn-filwyr y lluoedd arfog. I gefnogi gweithwyr Tata Steel sydd mewn perygl o gael eu diswyddo, neu sydd wedi cael eu diswyddo yn 2024, mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn cynnig gwarantu cyfweliad ar gyfer swyddi ar draws y Cyngor. Sylwch fod yn rhaid i ymgeiswyr fodloni'r holl feini prawf hanfodol, fel y dangosir ym manyleb y person, i fod yn gymwys ar gyfer cael gwarantu cyfweliad. Os ydych chi neu os byddwch chi'n cael eich effeithio gan y colledion swyddi yn Tata Steel, yna byddem yn croesawu derbyn cais gennych chi. Gwnewch yn hysbys ar eich ffurflen gais eich bod chi mewn perygl o gael eich diswyddo neu eich bod wedi cael eich diswyddo.
Yn Nhîm CNPT, mae pawb ohonom yn gweithio gyda'n gilydd i wasanaethu pobl, cymunedau a busnesau Castell-nedd Port Talbot.
Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd hyfforddi a datblygiad proffesiynol ein holl weithwyr.
Edrychwn ymlaen at eich croesawu i Dîm CNPT.