Proud to serve. Proud to keep justice going.
Our Team Leaders play a critical role in helping deliver justice and this role will enable you to demonstrate and develop your leadership skills. You will be responsible for making sure your team deliver business objectives through providing excellent administrative support and customer service to service users, judiciary and management.
About us
HM Courts & Tribunals Service (HMCTS) is responsible for the administration of criminal, civil and family Courts and Tribunals in England, Wales as well as the reserved unified tribunals across the United Kingdom. Our roles support our service users and colleagues within HMCTS, w people and businesses access potentially life-changing justice. We’re looking for individuals who are committed to public service and making a difference in people’s lives to deliver justice.
About your role
The role of a manager is at the heart of HMCTS operations, shaped by the Civil Service Line Management Standards. It’s rewarding, challenging, and essential to our success. We’re looking for managers who can drive strong performance, manage attendance effectively, and champion reward and recognition.
You will be based at Swansea Civil Justice Centre, Caravella House, Quay West, Quay Parade, Swansea SA1 1SP. Leading your team, you will provide outstanding service to all our users, delivering on your area of work against local, regional and national priorities. As an effective Team Leader, you recognise the importance of the team’s overall wellbeing and can motivate them to succeed; creating a sense of purpose, recognising successes and managing performance to deliver results and achieve business outcomes. You will be able to develop effective working relationships with key stakeholders, including the judiciary.
Please refer to the role profile attachment for to understand more about this key leadership position.
Essential knowledge, skills and experience
- Ability to lead and develop others to have the skills, confidence and experience to thrive in their role.
- Strong organisational skills to prioritise, plan, allocate and manage work to deliver outstanding service.
- Excellent communication skills. Able to establish and maintain trusted relationships with a wide range of internal and external stakeholders.
- Able to manage difficult and challenging situations and resolve problems swiftly and professionally.
- Confident in analysing data to make informed decisions to improve and maintain performance.
- Ability to use IT and learn new systems.
Your development
Our HMCTS Leadership Development offer will build your confidence and capability as a leader. From bite-sized learning and interactive workshops to deeper insights through our Accountability &
Decision-Making framework, we’ll equip you to lead with impact, inspire your teams, and drive performance across the organisation.
If you are interested in developing your career in a role with real purpose, apply today.
About our benefits
We reward our people for their hard work and commitment. We have a number of family friendly and flexible working polices that will help you achieve a healthy work-life balance. In addition, we offer a range of employee benefits which include generous annual leave, a highly competitive contributory pension scheme, childcare benefits, season ticket and bicycle loans.
Further details:
New recruits to the Civil Service joining MoJ are expected to join at the band minimum.
These operational roles are customer facing, requiring successful applicants to be office based to provide HMCTS services to the public.
Standard full time working hours are 37 hours per week Monday - Friday. HMCTS welcomes part-time, flexible and job-sharing working patterns, w they meet the demands of the role and business needs and are agreed prior to appointment. All applications for part-time, flexible and job-sharing working patterns will be considered in accordance with the MoJ’s Flexible Working policy.
This is a business-critical role requiring full time hours.
The successful candidate will undergo - Fire and Incident Control Officer training (FICO) and on occasion be Senior Person on Site (SPOS)
Building Champion training will also be given and the successful candidate may have to assist with these duties.
Skilled Worker Visa
From 22 July 2025, the Government increased the salary threshold and skills level for Skilled Worker visas. This role does not meet the eligibility criteria for sponsorship in accordance with the current immigration rules if you looking to apply for a Skilled Worker Visa for the first time.
The Department cannot consider sponsoring you for this role unless you have held a Skilled Worker visa continuously since before 22 July 2025. If you have held a Skilled Worker visa continuously, please raise this during your vetting checks and eligibility will be assessed in accordance with the immigration rules and transitional provisions in place.
If you are applying for this role and you do not meet the new eligibility criteria for sponsorship (or the transitional provisions), you will need to consider your options for obtaining and/or maintaining your right to work in the UK in light of these changes. Successful applicants must ensure they have and maintain the legal right to live and work in the Civil Service and in the United Kingdom.
The Department will continue to comply with UK Immigration Rules applied in the UK and Civil Service. You can read more about Skilled Worker visas and the eligibility criteria .
Yn falch o wasanaethu. Yn falch o gynnal cyfiawnder.
Mae ein Harweinwyr Tîm yn chwarae rôl hanfodol i helpu i sicrhau cyfiawnder a bydd y rôl hon yn eich galluogi i ddangos a datblygu eich sgiliau arweinyddiaeth. Byddwch chi’n gyfrifol am sicrhau bod eich tîm yn cyflawni amcanion busnes drwy ddarparu cefnogaeth weinyddol a gwasanaeth cwsmer ardderchog i ddefnyddwyr gwasanaeth, y farnwriaeth a rheolwyr.
Amdanom ni
Mae Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF (GLlTEF) yn gyfrifol am weinyddu Llysoedd troseddol, sifil a theulu a Thribiwnlysoedd yng Nghymru a Lloegr yn ogystal â'r tribiwnlysoedd unedig gwarchodedig ar draws y Deyrnas Unedig. Mae ein rolau’n cefnogi defnyddwyr ein gwasanaethau a’n cydweithwyr o fewn GLlTEF, lle mae pobl a busnesau’n cael mynediad at gyfiawnder a allai newid bywydau. Rydym yn chwilio am unigolion sy’n ymrwymedig i ddarparu gwasanaeth cyhoeddus ac sydd am wneud gwahaniaeth ym mywydau pobl i sicrhau cyfiawnder.
Ynglŷn â'ch rôl
Mae rôl y rheolwr yn ganolog i weithrediadau GLlTEF, ac mae wedi'i siapio gan Safonau Rheoli Llinell y Gwasanaeth Sifil. Mae'n rhoi llawer o foddhad, yn heriol ac yn hanfodol i'n llwyddiant. Rydym yn chwilio am reolwyr sy'n gallu gyrru perfformiad cadarn, rheoli presenoldeb yn effeithiol a chefnogi gwobrwyo a chydnabod.
Byyddwch wedi’ch lleoli yng Nghanolfan Cyfiawnder Sifil Abertawe, Tŷ Caravella, Cei’r Gorllewin, Parêd y Cei, Abertawe SA1 1SP.. Gan arwain eich tîm, byddwch yn darparu gwasanaeth rhagorol i'n holl ddefnyddwyr, gan gyflawni yn eich maes gwaith yn erbyn blaenoriaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Fel Arweinydd Tîm effeithiol, rydych yn cydnabod pwysigrwydd lles cyffredinol y tîm ac yn gallu eu cymell i lwyddo; gan greu teimlad o bwrpas, cydnabod llwyddiannau a rheoli perfformiad i gyflawni canlyniadau a deilliannau busnes. Byddwch yn gallu datblygu perthnasoedd gwaith effeithiol gyda rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys y farnwriaeth.
Cyfeiriwch at yr atodiad proffil rôl i ddeall mwy am y swydd arweinyddiaeth allweddol hon.
Gwybodaeth, sgiliau a phrofiad hanfodol
- Gallu arwain a datblygu eraill i gael y sgiliau, yr hyder a'r profiad i ffynnu yn eu rôl.
- Sgiliau trefnu cadarn i flaenoriaethu, cynllunio, dyrannu a rheoli gwaith i ddarparu gwasanaeth rhagorol.
- Sgiliau cyfathrebu ardderchog. Gallu sefydlu a chynnal perthnasoedd y gellir ymddiried ynddynt gydag ystod eang o rhanddeiliaid mewnol ac allanol.
- Gallu rheoli sefyllfaoedd anodd a heriol a datrys problemau'n gyflym ac yn broffesiynol.
- Yn hyderus yn dadansoddi data i wneud penderfyniadau hysbys i wella a chynnal perfformiad.
- Gallu defnyddio TG a dysgu systemau newydd.
Eich datblygiad
Bydd ein cynnig Datblygu Arweinyddiaeth GLlTEF yn magu eich hyder a'ch galluedd fel arweinydd. O sesiynau dysgu byrion i weithdai rhyngweithiol, i fewnwelediadau manylach trwy ein fframwaith Atebolrwydd a Gwneud Penderfyniadau, byddwn yn rhoi'r sgiliau i chi arwain gydag effaith, ysbrydoli eich timau, a sbarduno perfformiad ledled y sefydliad.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn datblygu eich gyrfa mewn swydd gyda phwrpas go iawn, ymgeisiwch heddiw.
Ynglŷn â'n buddion
Rydym yn gwobrwyo ein pobl am eu gwaith caled ac ymrwymiad. Mae gennym nifer o bolisïau gwaith hyblyg ac ystyriol o deuluoedd a fydd yn eich helpu i gyflawni cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith. Yn ogystal, rydym yn cynnig ystod o fuddion i weithwyr sy'n cynnwys gwyliau hael, cynllun pensiwn cyfrannol cystadleuol, buddion gofal plant, tocyn tymor a benthyciadau i brynu beics.
Rhagor o fanylion:
Bydd disgwyl i recriwtiaid newydd i'r Gwasanaeth Sifil sy’n ymuno â’r Weinyddiaeth Gyfiawnder gychwyn ar waelod y band cyflog.
Yn y swyddi gweithredol hyn byddwch yn delio’n uniongyrchol â chwsmeriaid, ac felly bydd yn ofynnol i ymgeiswyr llwyddiannus fod wedi’u lleoli yn y swyddfa i ddarparu gwasanaethau GLlTEF i’r cyhoedd.
Yr oriau gwaith llawn amser safonol yw 37 awr yr wythnos Dydd Llun i Ddydd Gwener. Mae GLlTEF yn croesawu patrymau gweithio rhan-amser, hyblyg a rhannu swydd pan fo hynny’n bodloni gofynion y rôl ac yn diwallu anghenion y busnes, ac y cytunir arnynt cyn ichi gael eich penodi. Bydd pob cais ar gyfer patrymau gwaith rhan-amser, hyblyg a rhannu swydd yn cael eu hystyried yn unol â Pholisi Gweithio Hyblyg y Weinyddiaeth Gyfiawnder.
Mae hon yn rôl hanfodol i’r busnes sy’n gofyn am weithio oriau llawn amser.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn mynd drwy hyfforddiant Swyddog Rheoli Tân a Digwyddiadau (FICO) ac, ar adegau, yn gweithredu fel Uwch Berson ar y Safle (SPOS).
Bydd hyfforddiant Hyrwyddwr Adeilad (Building Champion) hefyd yn cael ei ddarparu, ac efallai y bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus gynorthwyo gyda’r dyletswyddau hyn.
Fisa Gweithiwr Medrus
O 22 Gorffennaf 2025, cynyddodd y Llywodraeth y trothwy cyflog a'r lefel sgiliau ar gyfer fisâu Gweithwyr Medrus. Nid yw'r rôl hon yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer nawdd yn unol â'r rheolau mewnfudo cyfredol os ydych chi eisiau gwneud cais am Fisa Gweithiwr Medrus am y tro cyntaf. Ni all yr adran ystyried eich noddi ar gyfer y rôl hon ond bai eich bod wedi dal Fisa Gweithiwr Medrus yn barhaus cyn 22 Gorffennaf 2025. Os ydych wedi dal fisa Gweithiwr Medrus yn barhaus, codwch hyn yn eich gwiriadau fetio a bydd cymhwysedd yn cael ei asesu yn unol â'r rheolau mewnfudo a'r darpariaethau pontio sydd mewn lle.
Os ydych yn gwneud cais am y rôl hon ac nad ydych yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd newydd ar gyfer nawdd (neu'r darpariaethau trosiannol), bydd angen i chi ystyried eich opsiynau ar gyfer cael a/neu gynnal eich hawl i weithio yn y DU yng ngoleuni’r newidiadau hyn. Rhaid i ymgeiswyr llwyddiannus sicrhau bod ganddynt yr hawl gyfreithiol i fyw a gweithio yn y Gwasanaeth Sifil ac yn y Deyrnas Unedig a’u bod yn cynnal yr hawl honno.
Bydd yr Adran yn parhau i gydymffurfio â Rheolau Mewnfudo’r DU a weithredir yn y DU a’r Gwasanaeth Sifil. Gallwch ddarllen mwy am fisâu Gweithwyr Medrus a'r meini prawf cymhwyster yma.