Gweithio i Gyngor Sir Ynys Môn
Mae Ynys Môn yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae’n ymwneud â gwella bywydau’r bobl sy’n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol â ninnau, sy’n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd â meddylfryd byd busnes, sy’n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu’r safonau uchaf posibl. Ein nod yw creu Ynys Môn sy’n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.
Mae ein llwyddiant yn dibynnu ar y bobl rydyn ni’n eu cyflogi, ac rydym wedi ymrwymo i werthfawrogi ein tîm. Rydym yn cynnig mwy na chyflog yn unig, felly edrychwch ar rai o’r buddion y gallwn eu cynnig i’n staff: Buddion o weithio i Gyngor Sir Ynys Môn
Pwrpas cyffredinol y swydd
Mae’r rôl yn rhoi plant a phobl ifanc wrth galon pob gweithgaredd drwy weithredu fel Swyddog Ansawdd, gan gefnogi datblygiad disgyblion, tywys ysgolion a chyfrannu at nod yr awdurdod o sicrhau bod pob dysgwr yn cyrraedd ei lawn botensial.
Mae’r swyddog hefyd yn gyfrifol am faterion sy’n ymwneud a’r Cod ADY a’r Ddeddf ADY a’r Tribiwnlys Cymru (2018), gyda ffocws penodol ar gefnogi prosesau datrys anghydfod ac ategu cydberthnasau cadarnhaol â rhieni/cynrychiolwyr. Bydd deilydd y swydd hefyd yn sicrhau bod ysgolion yn cwrdd ag amserlenni statudol, yn rheoli
prosesau sy’n gysylltiedig â thribiwnlys, ac yn monitro ac yn adrodd ar ddarpariaeth ADY mewn sectorau penodol.
Mwy o wybodaeth
Penodiad yn ddibynnol ar wiriad GDG (DBS) lefel uwch boddhaol.
Cytundeb 41 wythnos yr flwyddyn am 2 flwyddyn yn cychwyn o Medi 2026.
Am fanylion ynghylch trefniadau’r cyngor ar gyfer pennu tâl Swyddogion Soulbury wrth benodi cysylltwch gyda Aaron Evans.
Gwelwch y swydd disgrifiad am mwy o gwybodaeth a gofynion sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y swydd hon.
Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.
Atodir isod y disgrifiad swydd/manyleb person.
Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a’r fanyleb person i’ch cyfrifiadur neu ar gof bach gan y bydd y dogfennau yn diflannu unwaith y bydd y swydd yn cau.
Manylion cyswllt
Enw: Aaron Evans
Rhif ffôn: 07748622194
Cyfeiriad e-bost: [email protected]
Job Reference: CORP100820