Administrative Assistant
Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences
School of Medicine
College of Biomedical and Life Sciences
An exciting position has arisen for an Administrative Assistant to join the Division of Psychological Medicine & Clinical Neurosciences at Cardiff University, based in Cardiff University's flagship Hadyn Ellis Building.
We are seeking an organised and proactive Administrator to support the delivery of the Mental Health Goals (MHG) OMICS project. Working closely with the Project Manager and Project Officer, you will play a key role in coordinating project activities, supporting recruitment processes, and ensuring the smooth day-to-day administration of the project. This is an excellent opportunity for someone with strong organisational and communication skills who enjoys working as part of a collaborative research team.
The Mental Health Goals (MHG) Omics programme is a landmark UK-wide initiative, funded by the UK Government, aiming to revolutionise our understanding and treatment of severe mental illness. Building on significant advances in genomics, proteomics, metabolomics, and digital health, the project will establish the world’s largest multi-omic cohort of people with psychosis and mood disorders, linked to extensive clinical and real-world health data. This new national infrastructure, developed in close collaboration with individuals with lived experience, the NHS, academia, and industry, will accelerate the discovery of biological mechanisms, identify biomarkers for personalised treatments, and make the UK an attractive place globally for mental health innovation. Led by a collaborative, friendly, and highly expert team spanning Cardiff University, the University of Cambridge, Cambridge and Peterborough NHS Foundation Trust, the University of Edinburgh, and King’s College London, MHG Omics offers an exciting opportunity to contribute to a truly pioneering programme with the potential to change lives and shape the future of mental healthcare.
In this role, you will:
- Provide high-quality administrative support to the project team to support the effective delivery of the research project.
- Coordinate project meetings and events, including scheduling, preparing documentation, taking minutes, and arranging travel and accommodation where required.
- Support participant recruitment by preparing recruitment packs, liaising with external recruitment sites, and maintaining accurate recruitment records and project documentation.
Provide financial administrative support to the project team, including raising purchase orders, receipting invoices, and processing expense claims in line with organisational procedures.
-
We’d like to hear from you if you:
- Have experience working in an administrative or office environment and are confident managing a range of administrative tasks.
- Are highly organised and able to plan and prioritise your workload to meet deadlines.
- Have excellent written and verbal communication skills and are able to build positive working relationships with a range of stakeholders.
- Are confident using standard office IT packages (such as Microsoft Office) and maintaining accurate records and administrative systems.
This post is based at the Hadyn Ellis Building, Cathays campus.
This role is eligible to be offered on a blended working basis, meaning that as well as spending time working on campus you can also choose to spend some time working from another location, e.g. your home. The University is committed to offering this flexibility, wherever the role and business need allows, supporting work-life balance.
Cardiff University offers many excellent benefits, including 40 days annual leave (incl bank holidays), local pension scheme, a cycle to work scheme and other travel initiatives, annual increments within the pay scale, and more. It is an exciting and vibrant place to work, with many different challenges and is a proud Living Wage supporter.
How we will support you in performing in this role –
There are some things that you must have before you can start this role (see ‘Essential Criteria’), but other things can be developed either through training, or just by general on-the-job experience. We want to support and develop you once you have started in the role using a combination of the following to get the best out of you:
- Regular one-to-one meetings with your team leader.
- An experienced and supportive team around you.
- Support to undertake job-relevant training and development, as identified by your Line Manager. This could be informal or could be an apprenticeship leading to a formal qualification, such as Business administration NVQ.
- A staff mentoring scheme.
- Support to learn Welsh or to update language skills.
For informal enquiries please contact Dr Sarah Knott on
[email protected]
This post is full-time (35 hours per week), available from 1st July 2026 and fixed term until 31st August 2029.
Salary: £25,249 - £26,093 per annum (Grade 3). Appointments to roles at Cardiff University are usually made at bottom of scale unless in exceptional circumstances.
Date advert posted: Monday, 13 July 2026
Closing date: Monday, 27 July 2026
Cardiff University is committed to supporting and promoting equality and diversity and to creating an inclusive working environment. We believe this can be achieved through attracting, developing, and retaining a diverse range of staff from many different backgrounds. We therefore welcome applicants from all sections of the community regardless of sex, ethnicity, disability, sexual orientation, trans identity, relationship status, religion or belief, caring responsibilities, or age. We especially welcome and encourage applications from those from under-represented groups within the University workforce, such as those who identify as LGBT +, Ethnic Minority or those with disabilities. In supporting our employees to achieve a balance between their work and their personal lives, we will also consider proposals for flexible working or job share arrangements.
Applications may be submitted in Welsh, and an application submitted in Welsh will not be treated less favourably than an application submitted in English.
Cynorthwyydd Gweinyddol
Yr Isadran Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddorau Clinigol
Yr Ysgol Meddygaeth
Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd
Mae swydd gyffrous ar gael i Gynorthwyydd Gweinyddol ymuno ag Is-adran Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddorau Clinigol Prifysgol Caerdydd, wedi'i lleoli yn Adeilad blaenllaw Hadyn Ellis ym Mhrifysgol Caerdydd.
Rydym ni'n chwilio am Weinyddwr trefnus a rhagweithiol i gefnogi'r gwaith o gyflawni prosiect Nodau Iechyd Meddwl OMICS (MHG). Gan weithio'n agos gyda'r Rheolwr Prosiect a'r Swyddog Prosiect, byddwch yn chwarae rôl allweddol wrth gydlynu gweithgareddau'r prosiect, cefnogi prosesau recriwtio, a sicrhau y caiff y prosiect ei weinyddu'n llyfn o ddydd i ddydd. Mae hwn yn gyfle gwych i rywun sydd â sgiliau trefnu a chyfathrebu cryf sy'n mwynhau gweithio'n rhan o dîm ymchwil cydweithredol.
Mae rhaglen Nodau Iechyd Meddwl (MHG) Omics yn fenter bwysig ledled y DU, a ariennir gan Lywodraeth y DU. Ei nod yw chwyldroi ein dealltwriaeth a'n ffordd o drin salwch meddwl difrifol. Gan ehangu ar ddatblygiadau sylweddol ym maes genomeg, proteomeg, metabolomeg ac iechyd digidol, bydd y prosiect yn sefydlu carfan aml-omig fwyaf y byd o bobl ag anhwylderau seicosis a hwyliau, gan ei chysylltu â data iechyd clinigol a byd go iawn helaeth. Bydd y seilwaith cenedlaethol newydd hwn, a ddatblygwyd mewn cydweithrediad agos ag unigolion sydd â phrofiad byw, y GIG, y byd academaidd a diwydiant, yn cyflymu'r gwaith o ddarganfod mecanweithiau biolegol, canfod biofarcwyr i greu triniaethau wedi'u personoli a gwneud y DU yn lle deniadol yn fyd-eang i arloesi ym maes iechyd meddwl. Dan arweiniad tîm cydweithredol, cyfeillgar a hynod o arbenigol sy'n cwmpasu Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Caergrawnt, Ymddiriedolaeth Sefydliad y GIG Caergrawnt a Peterborough, Prifysgol Caeredin, a Choleg King's Llundain, mae MHG Omics yn gyfle cyffrous i gyfrannu at raglen wirioneddol arloesol sydd â'r potensial i newid bywydau a llunio dyfodol gofal iechyd meddwl.
Yn y rôl hon, byddwch yn:
- darparu cymorth gweinyddol o ansawdd uchel i dîm y prosiect i gynorthwyo i gyflawni'r prosiect ymchwil yn effeithiol.
- cydlynu cyfarfodydd a digwyddiadau prosiect, gan gynnwys amserlennu, paratoi dogfennau, cymryd cofnodion, a threfnu teithio a llety lle bo angen.
- cefnogi recriwtio cyfranogwyr drwy baratoi pecynnau recriwtio, cysylltu â safleoedd recriwtio allanol, a chadw cofnodion recriwtio a dogfennau prosiect cywir.
- darparu cymorth gweinyddol ariannol i dîm y prosiect, gan gynnwys codi archebion prynu, derbyn anfonebau, a phrosesu hawliadau treuliau yn unol â gweithdrefnau sefydliadol.
Hoffem glywed gennych os ydych chi:
- yn meddu ar brofiad o weithio mewn amgylchedd gweinyddol neu swyddfa ac yn hyderus yn rheoli ystod o dasgau gweinyddol.
- yn drefnus iawn ac yn gallu cynllunio a blaenoriaethu eich llwyth gwaith i gwrdd â therfynau amser.
- yn meddu ar sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar rhagorol ac yn gallu meithrin perthnasoedd gwaith cadarnhaol gydag ystod o randdeiliaid.
- yn hyderus wrth ddefnyddio pecynnau TG swyddfa safonol (fel Microsoft Office) a chynnal cofnodion a systemau gweinyddol cywir.
Swydd yn Adeilad Hadyn Ellis ar gampws Parc Cathays yw hon.
Mae’r swydd yn gymwys i’w chynnig ar sail gweithio cyfunol. Mae hynny’n golygu, yn ogystal â gweithio ar y campws, y cewch weithio o leoliad arall (e.e. eich cartref) rywfaint o’r amser. Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i gynnig yr hyblygrwydd hwn pan fo’r swydd ac anghenion y busnes yn caniatáu hynny er mwyn cefnogi cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd personol.
Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig pecyn buddion gwych, sy’n cynnwys 40 diwrnod o wyliau blynyddol (gan gynnwys gwyliau banc), cynllun pensiwn lleol, cynllun beicio i'r gwaith a mentrau teithio eraill, cynyddrannau blynyddol ar hyd y raddfa gyflog, a mwy. Dyma le cyffrous a bywiog i weithio, gyda nifer o heriau gwahanol. Rydym hefyd yn falch o gefnogi’r Cyflog Byw.
Sut y byddwn yn eich helpu i gyflawni’r rôl hon –
Mae’n rhaid i chi fodloni rhai gofynion cyn gallu dechrau’r swydd (gweler ‘Meini Prawf Hanfodol’), ond bydd modd datblygu’r elfennau eraill drwy gael hyfforddiant neu brofiad cyffredinol yn y swydd. Ar ôl i chi ddechrau yn y swydd, rydym ni am eich cefnogi chi a’ch datblygu gan ddefnyddio cyfuniad o’r canlynol i wireddu eich llawn botensial:
1. Cyfarfodydd un-i-un rheolaidd ag arweinydd eich tîm.
2. Tîm profiadol a chefnogol o'ch cwmpas.
3. Cymorth i hyfforddi a datblygu mewn ffordd sy’n berthnasol i'r swydd, fel y nodir gan eich Rheolwr Llinell. Mae’n bosibl y bydd hyn yn digwydd ar sail trefniant anffurfiol neu brentisiaeth sy’n arwain at gymhwyster ffurfiol, megis NVQ Gweinyddu Busnes.
4. Cynllun mentora staff.
5. Cymorth i ddysgu Cymraeg neu loywi eich sgiliau iaith.
Os oes gennych chi ymholiadau anffurfiol, cysylltwch â Dr Sarah Knott ar
[email protected]
Swydd amser llawn, (35 awr yr wythnos) yw hon sydd ar gael o 1 Gorffennaf 2026 am gyfnod penodol tan 31 Awst 2029.
Cyflog: £25,249 hyd at £26,093 y flwyddyn (Gradd 3). Ym Mhrifysgol Caerdydd, mae unigolion fel arfer yn dechrau ar waelod y raddfa gyflog, ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol.
Dyddiad hysbysebu: Dydd Llun, 13 Gorffennaf 2026
Dyddiad cau: Dydd Llun, 27 Gorffennaf 2026
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau yn arbennig gan y rhai o grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn gweithlu'r Brifysgol, fel y rhai sy'n uniaethu fel LGBT+, o gefndiroedd ethnig leiafrifol neu'r rhai ag anableddau. Er mwyn helpu ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu swydd.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.