Professional Specialist – Data Co-ordinator
Division of Cancer & Genetics
School of Medicine
College of Biomedical and Life Sciences
The Wales Cancer Biobank (based within the School of Medicine, Cardiff University) is seeking an enthusiastic and motivated person to support the biobank by ensuring clinical data records are captured accurately for anonymised onward use by researchers. The postholder will be required to have daily contact with data from NHS patients related to cancer diagnosis, treatment and outcome. Confidentiality, accurate data collation and data entry are key to the role. The postholder will be confident in their ability to understand clinical data relating to oncology to ensure WCB data records are robust and fit for purpose.
This post will be based on the Heath Park campus.
Cardiff University offers many excellent benefits, including 45 days annual leave pro rata (including bank holidays), local pension scheme, a cycle to work scheme and other travel initiatives, annual increments within the pay scale, and more. It is an exciting and vibrant place to work, with many different challenges and is a proud Living Wage supporter.
For informal enquiries, please contact Dr Lisa Spary –
[email protected]
This post is part-time (28 hours per week), fixed term for two years and available immediately.
Work pattern to be agreed at appointment.
Salary: £33,951 - £36,636 per annum, pro-rata (Grade 5). Appointments to roles at Cardiff University are usually made at bottom of scale unless in exceptional circumstances.
Date advert posted: Friday, 14 August 2026
Closing date: Friday, 28 August 2026
Cardiff University is committed to supporting and promoting equality and diversity and to creating an inclusive working environment. We believe this can be achieved through attracting, developing, and retaining a diverse range of staff from many different backgrounds. We therefore welcome applicants from all sections of the community regardless of sex, ethnicity, disability, sexual orientation, trans identity, relationship status, religion or belief, caring responsibilities, or age. We especially welcome and encourage applications from those from under-represented groups within the University workforce, such as those who identify as LGBT +, Ethnic Minority or those with disabilities. In supporting our employees to achieve a balance between their work and their personal lives, we will also consider proposals for flexible working or job share arrangements.
Applications may be submitted in Welsh, and an application submitted in Welsh will not be treated less favourably than an application submitted in English.
Arbenigwr Proffesiynol — Cydlynydd Data
Isadran Canser a Geneteg
Ysgol Meddygaeth
Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd
Mae Banc Bio Canser Cymru (sydd wedi'i leoli yn yr Ysgol Meddygaeth, Prifysgol Caerdydd) yn chwilio am berson brwdfrydig a llawn cymhelliant i gefnogi'r banc bio drwy sicrhau bod cofnodion data clinigol yn cael eu casglu'n gywir i'w defnyddio'n ddienw pellach gan ymchwilwyr. Bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd gael cyswllt dyddiol â data gan gleifion y GIG sy'n ymwneud â diagnosis, triniaeth a chanlyniad canser. Mae cyfrinachedd, coladu data cywir a chofnodi data yn allweddol i'r rôl. Bydd deiliad y swydd yn hyderus yn ei allu i ddeall data clinigol sy'n ymwneud ag oncoleg er mwyn sicrhau bod cofnodion data WCB yn gadarn ac yn addas at y diben.
Bydd y swydd hon wedi'i lleoli ar gampws Parc y Mynydd Bychan.
Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig llawer o fanteision rhagorol, gan gynnwys 45 diwrnod o wyliau blynyddol (yn cynnwys gwyliau banc), cynllun pensiwn lleol, cynllun beicio i'r gwaith a mentrau teithio eraill, cynyddrannau blynyddol o fewn y raddfa gyflog, a mwy. Dyma le cyffrous a bywiog i weithio ynddo, lle byddwch yn wynebu llawer o heriau gwahanol. Mae hefyd yn falch o gefnogi’r Cyflog Byw.
Am ymholiadau anffurfiol, cysylltwch â Dr Lisa Spary —
[email protected].
Mae'r swydd hon yn rhan-amser (28 awr yr wythnos), tymor penodol am ddwy flynedd ac ar gael ar unwaith. Patrwm gwaith i'w gytuno wrth apwyntio.
Cyflog: £33,951 – £36,636 y flwyddyn, pro-rata (Gradd 5). Fel arfer, gwneir penodiadau i rolau ym Mhrifysgol Caerdydd ar waelod y raddfa oni bai mewn amgylchiadau eithriadol.
Dyddiad hysbysebu: Dydd Gwener, 14 Awst 2026
Dyddiad cau: Dydd Gwener, 28 Awst 2026
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau yn arbennig gan y rhai o grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn gweithlu'r Brifysgol, fel y rhai sy'n uniaethu fel LGBT+, o gefndiroedd ethnig leiafrifol neu'r rhai ag anableddau. Er mwyn helpu ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu swydd.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.