Gweithio i Gyngor Sir Ynys Môn
Mae Ynys Môn yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae’n ymwneud â gwella bywydau’r bobl sy’n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol â ninnau, sy’n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd â meddylfryd byd busnes, sy’n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu’r safonau uchaf posibl. Ein nod yw creu Ynys Môn sy’n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.
Mae ein llwyddiant yn dibynnu ar y bobl rydyn ni’n eu cyflogi, ac rydym wedi ymrwymo i werthfawrogi ein tîm. Rydym yn cynnig mwy na chyflog yn unig, felly edrychwch ar rai o’r buddion y gallwn eu cynnig i’n staff: Buddion o weithio i Gyngor Sir Ynys Môn
Pwrpas cyffredinol y swydd
Gweithio ochr yn ochr â’r Arweinydd Strategol i ddatblygu ac arwain ar strategaeth ADY, Cynhwysiad ac Ymgysylltu ar gyfer Ynys Môn sy’n uno gwasanaethau canolog ac arbenigol, canolfannau adnodd, allgymorth a darpariaeth brif lif, gyda rhaglen glir o uwchsgilio gweithlu. Byddant yn sicrhau cydymffurfiaeth statudol, yn cymryd perchnogaeth o’r cynllun busnes ac yn llywio cyllidebau er gwerth ac effaith, gan ddarparu arweinyddiaeth bendant i dimau arbenigol a chydweithio â phenaethiaid. Trwy fonitro trylwyr ac archwilio mewnol, byddant yn sicrhau ansawdd darpariaeth ganolog, brif lif, arbenigol ac EOTAS, yn arwain ar waith achosion tribiwnlys, yn datblygu hyfforddiant wedi’i dargedu ar gyfer penaethiaid, CADYau a rhieni, ac yn trosi data ADY yn gynllunio ac yn adnoddau sy’n cael eu llywio gan dystiolaeth. Byddant hefyd yn cadeirio grwpiau a fforymau allweddol, yn gyrru gwaith amlasiantaethol a phontio ôl-16, ac yn cynnal cofnodion cadarn. Byddant yn goruchwylio systemau ymddygiad cynhwysol, ymyrraeth gynnar, cefnogaeth i ddysgwyr bregus (gan gynnwys ADY) ac yn rhoi cyngor/arweiniad ar waharddiadau.
Mwy o wybodaeth
Penodiad yn ddibynnol ar wiriad GDG (DBS) lefel uwch boddhaol.
Am fanylion ynghylch trefniadau’r cyngor ar gyfer pennu tâl Swyddogion Soulbury wrth benodi cysylltwch gyda Aaron Evans.
Gwelwch y swydd disgrifiad am mwy o gwybodaeth a gofynion sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y swydd hon.
Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.
Atodir isod y disgrifiad swydd/manyleb person.
Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a’r fanyleb person i’ch cyfrifiadur neu ar gof bach gan y bydd y dogfennau yn diflannu unwaith y bydd y swydd yn cau.
Manylion cyswllt
Enw: Aaron Evans
Rhif ffôn: 07748622194
Cyfeiriad e-bost: [email protected]
Job Reference: CORP100817