Diolch am eich diddordeb yn y swydd uchod.
Mae Grŵp Cynefin yn gymdeithas dai sy'n adeiladu, creu a chynnal cartrefi gan gefnogi tenantiaid a chwsmeriaid yn eu cymunedau.
Rydyn ni'n berchen ar dros 5,000 o gartrefi gyda dros 10,000 o denantiaid, ac yn gweithredu ar draws chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys.
Mae'r grŵp yn cynnwys dau is-gwmni, Canllaw a Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych. Mae ein gwasanaethau yn cynnwys gwasanaethau cymunedol ac atal digartrefedd.
Mae cymuned wrth wraidd popeth â wnawn. Rydyn ni'n gweithion galed i ddarparu tai diogel, o safon, a gwasanaethau rhagorol. Rydyn ni'n cyfrannu at ddatblygu cymunedau cynaliadwy a hyrwyddo'r iaith a diwylliant Cymraeg gyda balchder.
Gyda 350 o aelodau staff, rydyn ni'n rhoi iechyd a lles ein pobl yn flaenllaw, gan adeiladu Lle i Berthyn i bawb.
Barod i wneud gwahaniaeth go iawn? Ymunwch ân tîm Atal Digartrefedd!
Rydym yn chwilio am unigolyn angerddol, cefnogol ac ymroddedig i ddod yn rhan on tîm syn newid bywydau. Os ydych yn ffynnu mewn amgylchedd heriol ac eisiau gwneud effaith gadarnhaol bob dydd dymar rôl i chi.
Eich cyfle i wneud effaith:
Fel aelod allweddol or Tîm Atal Digartrefedd, byddwch yn darparu cymorth or radd flaenaf i unigolion mewn tai â chymorth ac yn y gymuned gan gefnogi pobl ag anghenion isel, canolig ac uchel i ffynnu a symud ymlaen yn hyderus.
Beth fyddwch yn ei wneud?
-
Darparu cefnogaeth o ansawdd uchel syn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl
-
Gweithion agos gydag Arweinydd y Tîm a phartneriaid cymunedol i gyflawni nodaur cynllun
-
Galluogi unigolion i atal digartrefedd drwy ganolbwyntio ar ganlyniadau cadarnhaol a pharhaol
-
Bod yn bwynt cyswllt allweddol i ddefnyddwyr gwasanaeth, gan flaenoriaethu eu hanghenion a rheoli risg yn effeithiol
-
Sicrhau bod pob unigolyn yn derbyn cefnogaeth bersonol, holistig syn mynd y tu hwnt ir disgwyl cefnogaeth a mwy
Pam ymuno â ni?
Byddwch yn rhan o dîm blaengar syn ymfalchïo mewn darparu gwasanaeth syn rhoi pobl wrth galon popeth gan helpu i adeiladu dyfodol mwy diogel a sefydlog in cymunedau.
Dylai eich gwerthoedd adlewyrchu ein gwerthoedd ni.
Os oes gennych yr ysfa ar angerdd i fod yn allweddol wrth wneud gwahaniaeth i ddyfodol pobl, hon ywr swydd i chi.
Os hoffech sgwrs pellach am y swydd, cysylltwch â Mared Haf Jones, Rheolwr Gwasanaethau Atal Digartrefedd, ar 0300 111 2122.
Y Pecyn
Math o gytundeb: Parhaol
Cyflog: £25,227 - £27,565
Lleoliad: Pwllheli / Gweithio o gartref
Oriau Gweithio: 35 awr yr wythnos
Gwyliau: 36 diwrnod o wyliau blynyddol pro rata y flwyddyn (25 diwrnod craidd, 3 diwrnod yn lle'r cyfnod rhwng y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd a'r 8 gŵyl banc statudol ymlaen llaw) gan gynyddu i 41 diwrnod pro rata y flwyddyn ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth (30 diwrnod craidd, 3 diwrnod yn lle'r cyfnod rhwng y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd a'r 8 gŵyl banc statudol ymlaen llaw
Teithio: 45 ceiniog y filltir
Pensiwn: Mae Grŵp Cynefin yn cynnig darpariaeth pensiwn trwy Gynllun Social Housing Pension Scheme (SHPS)
Mae'r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg ar Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon
Disgrifiad Swydd
DS Gweithiwr Cefnogi Atal Digartrefedd 0626.pdf
JD Homelessness Prevention Support Worker 0626.pdf
Buddiannau
Pecyn Buddion.pdf
Benefits Package.pdf
Datblygiad Personol:
Os oes gennych gymwysterau proffesiynol ach bod yn talu ffioedd proffesiynol blynyddol ich corff aelodaeth, byddwn yn talu un or rhain bob blwyddyn ich helpu i aros yn gysylltiedig âr wybodaeth ar addysg ddiweddaraf gan eich corff proffesiynol. Rydyn ni hefyd eisiau in holl gydweithwyr fwynhau buddion dysgu gydol oes, felly os ydych chin gweithio gyda ni byddwn nin buddsoddi ynoch chi fel hyn hefyd!
Dogfennau a Dyddiadau Perthnasol
Hysbysiad Preifatrwydd Ymgeisydd Swydd.pdf
Privacy Notice Job Applicant.pdf
Canllawiau cwblhau cais.pdf
Guidelines for completing your application.pdf
Dyddiad y cyfweliadau: 23.07.26
Byddwn yn cysylltu â chi drwy e-bost i roi gwybod i chi a ydych wedi cyrraedd y rhestr fer. Cofiwch wirio'ch ffolder Sothach (junk) neu Sbam rhag ofn bod ein neges yn cael ei hidlo yno.
Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)
Byddwn yn gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad Manwl gyda rhestrau gwahardd ar gyfer y swydd hon.