Yr hyn rydym yn ei Gynnig:
-
27.5 diwrnod o wyliau blynyddol â thâl (gan gynyddu gyda gwasanaeth i 32.5 diwrnod)
-
Mae'r dewis i brynu, i werthu, neu i gario gwyliau blynyddol drosodd yn cael ei adolygu bob blwyddyn ac yn cael ei gynnig pan yn bosib
-
Darperir Cynllun Arian Gwirfoddol Iechyd gan BHSF
-
Pensiwn y Gwasanaeth Sifil
-
Pecyn absenoldeb mamolaeth y Gwasanaeth Sifil
-
Rhaglen cymorth gweithwyr PAM
-
Mynediad i aelodaeth Cyngor Chwaraeon y Gwasanaeth Sifil (CSSC)
-
Cynllun beicio i'r gwaith
-
Cyfle i fwynhau'r cartref ac electroneg diweddaraf mewn ffordd fwy fforddiadwy a ddarperir gan Vivup
-
Cynllun Prydlesu Car
-
Rhwydweithiau Staff yn canolbwyntio ar bob un o'r nodweddion gwarchodedig - yn cael eu rhedeg ar gyfer staff, gan staff: Rhwydwaith Enable, Rhwydwaith Oed, Rhwydwaith yr Iaith Gymraeg, Rhwydwaith Pride a LHDTC+, Rhwydwaith Rhyw a Theulu, Rhwydwaith Hil, Crefydd a Chred
-
Dysgu a datblygu wedi'u teilwra i'ch rôl.
-
Amgylchedd gydag opsiynau gweithio hyblyg
-
Diwylliant sy'n annog cynhwysiant ac amrywiaeth
Gwybodaeth Ychwanegol:
Ystyriaeth Emosiynol:
Wrth gyflawni’r rôl hon, gallwch ddod i gysylltiad achlysurol â deunydd trallodus a fydd yn debygol o gael effaith, trawmatig a heriol.
O ystyried natur y gwaith, [mae’n bosibl hefyd] y byddwch yn dod i gysylltiad ag unigolion sy’n profi trallod eithafol.
Mae SAYH yn cydnabod hyn ac yn cynnig amrywiaeth o ddarpariaethau lles i’r holl staff, gan gynnwys TRiM (Rheoli Risg Trawma), cymorth rhwng cymheiriaid, Cynghorydd Lles penodedig, a mynediad at gwnsela cyfrinachol am ddim.
Mae'r holl staff yn cael eu hannog yn gryf i gyrchu ac ymgysylltu â'r cymorth ar gael yn rhagweithiol.
Os hoffech siarad am yr elfen hon o'r rôl â rhywun sy'n gwneud gwaith tebyg eisoes yn SAYH cysylltwch â [email protected] a gall hyn gael ei drefnu.
Cyflwyniad Swydd:
Rydym yn chwilio am Swyddog Asesu Effaith Diogelu Data (DPIA) rhagweithiol i gefnogi'r gwaith o gyflawni ein fframwaith diogelu data. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio ar y cyd â chydweithwyr ar draws y sefydliad i nodi pryd mae angen DPIAs, asesu risgiau preifatrwydd, datblygu mesurau lliniaru a darparu cyngor ymarferol ar ddiogelu data. Mae hyn yn gyfle gwych i rywun sydd â sgiliau dadansoddol cryf ac angerdd am breifatrwydd, llywodraethu a chydymffurfiaeth.
Byddwn yn eich asesu yn erbyn yr ymddygiadau lefel Uwch Swyddog Gweithredol (HEO) canlynol yn ystod y broses ddethol:
-
Newid a Gwella
-
Cyfathrebu a Dylanwadu
Mae'r swydd wag hon yn defnyddio Proffiliau Llwyddiant, i ddarganfod mwy, cliciwchyma.
Fel rhan o'r broses ymgeisio, gofynnir i chi gwblhau tri Cwestiwn Hidlo yn seiliedig ar y meini prawf hanfodol.
Yn ystod y broses recriwtio byddwn yn asesu eich Profiad, Cryfderau a Gwerthoedd.
Amcangyfrifir y bydd y dyddiadau asesu a chyfweliadau yn Awst 2026.
- Bydd y rôl yn gyfrifol am nodi'r angen am DPIAau (Asesiadau Effaith Diogelu Data) ac asesu sgrinio DPIA
-
Disgwylir iddynt gefnogi’r broses o greu DPIAau
-
Fel rhan o broses adolygu DPIA bydd angen iddynt hefyd adolygu a diweddaru DPIA presennol, gan weithio gyda'r busnes i fynd i'r afael ag unrhyw risgiau sy'n parhau
-
Fel rhan o bob DPIA bydd angen iddynt asesu unrhyw risgiau mewn perthynas â rhaglenni newid
-
Disgwylir iddynt weithio gyda'r meysydd busnes perthnasol i nodi lliniariad priodol ar gyfer y risgiau a nodwyd
Cyfeiriwch at y Disgrifiad Swydd am gyfrifoldebau llawn y rôl.
Yr Ymgeisydd Delfrydol:
Y gofynion hanfodol yw:
-
Rhaid cael profiad mewn Rôl Diogelu Data neu fod yn ymarferydd GDPR cymwys
-
Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar rhagorol
-
Y gallu i weithio o dan bwysau a blaenoriaethu tasgau, gan weithio i derfynau amser llym a rhai sy’n gwrthdaro
-
Datrys problemau a phrofiad o liniaru risg
-
Y gallu i ymchwilio i ddeddfwriaeth a chanllawiau rheoleiddiol perthnasol a'u dehongli
-
Deall fframwaith rheoleiddiol Diogelu Data
-
Dangos lefel uchel o sylw i fanylion a'r gallu i weithio'n gywir
-
Profiad profedig o weithio'n effeithiol mewn amgylchedd tîm
-
Lefel dda o sgiliau TGCh a rhwyddineb defnyddio systemau a chymwysiadau TG gan gynnwys MS Word, Excel, a Power Point, SharePoint a phrofiad o ddefnyddio systemau rheoli achosion.
-
Sgiliau rhyngbersonol rhagorol, gan gynnwys tact, disgresiwn, a rhywfaint o brofiad o gysylltu â chynrychiolwyr o asiantaethau allanol
Y gofyniad dymunol yw:
-
Profiad o'r PRA a deddfwriaeth plismona arall
-
Ymwneud blaenorol gyda hyrwyddo neu gefnogi newid ymddygiad
Sgiliau a Galluoedd
-
Sgiliau gweinyddol cadarn, gallu trefnu a blaenoriaethu dan bwysau a chwrdd â therfynau amser neu negodi amdanynt.
-
Sgiliau datrys problemau rhagorol, gallu i nodi, asesu a lliniaru problemau, materion a risgiau
-
Gallu cynnal ymchwil a dadansoddiadau annibynnol
-
Sgiliau priodol i'r rôl, gyda'r gallu i amsugno/trefnu gwybodaeth newydd i sicrhau bod rhywun wedi'i friffio'n dda ar bynciau newydd.
-
Sgiliau cyfathrebu rhyngbersonol (ysgrifenedig a llafar) cryf.
-
Blaenoriaethu i sicrhau bod amcanion allweddol y rôl yn cael eu cyflawni'n gyson.
-
Gallu gofyn cwestiynau mewn modd adeiladol a chefnogol
Credwn fod safbwyntiau amrywiol yn cyfrannu at weithle mwy arloesol a dynamig.
Rydym yn annog ceisiadau gan unigolion sydd fel arfer yn cael eu tangynrychioli neu dan anfantais mewn cymdeithas.
Mae hyn yn cynnwys menywod, pobl o gefndiroedd ethnig amrywiol, rhieni a gofalwyr, ac ymgeiswyr anabl, gan gynnwys ymgeiswyr niwroamrywiol.
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu cyfle cyfartal i bob ymgeisydd a chreu amgylchedd cynhwysol lle mae safbwyntiau amrywiol yn cael eu gwerthfawrogi a'u cefnogi.
Rydym yn credu fod safbwyntiau amrywiol yn cyfrannu at le gwaith mwy arloesol a bywiog. Rydym yn annog ceisiadau gan unigolion sydd fel arfer yn cael eu tan-gynrychioli neu o dan anfantais yn y gymdeithas. Mae hyn yn cynnwys menywod, pobl o gefndiroedd ethnig amrywiol, rhieni a gofalwyr, ac ymgeiswyr anabl, yn cynnwys ymgeiswyr niwroamrywiol.
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd cyfartal i bob ymgeisydd ac i greu amgylchedd cynhwysol lle mae safbwyntiau amrywiol yn cael eu gwerthfawrogi a'u cefnogi
Mae'r rôl yn gofyn am gliriad i BPSS
National security vetting: clearance levels - GOV.UK (www.gov.uk)
Addasiadau Rhesymol:
Mae SAYH yn weithle amrywiol a chynhwysol ac rydym yn dymuno eich helpu i ddangos eich potensial llawn pa asesiad bynnag a ddefnyddir.
Rydym yn agored i ddarparu'r offer sydd eu hangen arnoch i lwyddo.
Cyfeiriwch at ein canllawiau Addasiadau Rhesymol yn y ddogfen sydd wedi’i gysylltu â'r hysbyseb swydd hwn ynglŷn â sut i gyrchu Addasiadau Rhesymol gyda ni.
Byddwch chi'ch hun:
Mae SAYH wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb a gwerthfawrogi amrywiaeth ym mhopeth a wnawn.
Ein gweledigaeth yw i fod, a chael ein gweld fel, arweinydd mewn cyflogaeth a gwasanaethau cynhwysol, gan ddangos yr ethos hwn ym mhopeth a wnawn.
-
Gan ei fod yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd, mae SAYH yn ymroi i ddileu’r rhwystrau i bobl anabl ffynnu yn y gweithle. Cyfeiriwch at ein canllawiau Addasiadau Rhesymol yn y ddogfen sydd wedi’i gysylltu â'r hysbyseb swydd hwn ynglŷn â sut i gyrchu Addasiadau Rhesymol gyda ni.
-
Mae ein Rhwydweithiau Staff yn gweithio’n gyson i wneud SAYH yn arweinwyr cyflogaeth gynhwysol, o’n Rhaglen Gynghreiriad i Safonau’r Gymraeg a’n Polisi Know the Line, rydym yn gyson yn chwilio am ffyrdd newydd o greu amgylchedd i bawb ddatblygu a ffynnu.
Amodau gwaith
Mae'r IOPC yn gweithredu polisi gweithio hybrid sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r holl staff weithio 40% o'u horiau cytundebol ar gyfartaledd yn eu swyddfa (neu swyddfa arall am resymau busnes). Mae amser presenoldeb swyddfa yn cynnwys hyfforddiant personol, cyfarfodydd gyda rhanddeiliaid a theuluoedd, a mynychu digwyddiadau.