Job Overview
Y Swydd
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymweld â sefydliadau addysgol i gyflwyno sesiynau diogelwch tân diddorol ac addysgiadol drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg, gan ymgysylltu ag addysgwyr a dysgwyr i ddarparu addysg diogelwch.
Bydd deiliad y swydd hefyd yn ymgysylltu â'r cyhoedd drwy gyfrannu at bob agwedd ar waith Diogelwch Cymunedol gan gynnwys cwblhau ymweliadau Diogelwch Tân yn y Cartref, mynychu digwyddiadau a chefnogi aelodau eraill o'r tîm yn ôl yr angen, yn unol â'r disgrifiad swydd. Bydd disgwyl i ddeilydd y swydd hefyd ymgymryd â'r holl hyfforddiant sy'n ofynnol i fod ag amrywiaeth o sgiliau ac ymrwymo i Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus.
Mae’r Gymraeg yn hanfodol i’r rôl hon, felly rhaid i ddeilydd y swydd allu siarad Cymraeg yn naturiol. Mae'r swydd yn cynnwys cyflwyno gwybodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg.
Bydd hyfforddiant llawn yn cael ei ddarparu ar bob agwedd ar ddiogelwch tân a diogelu sy'n ofynnol ar gyfer y rôl hon.
Bydd y rôl yn cynnwys teithio ar draws Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro i gyflwyno gwybodaeth am ddiogelwch mewn sefydliadau addysgol. Rydym yn cynnig polisi gweithio hyblyg.
Mae’r swydd hon yn un llawn amser, a bydd deilydd y swydd yn gweithio 37 awr yr wythnos gydag oriau hyblyg yn unol â chynllun oriau hyblyg y Gwasanaeth.
Ymholiadau
I gael rhagor o wybodaeth am y swyddi hyn, cysylltwch ag Ymgynghorydd Safonau Addysg, Gwenda Jenkins: [email protected]
Ymgeisio am y swydd
I ymgeisio am y swyddill ewch i www.mawwfire.gov.uk/cym/ymunwch-a-ni/swyddi-gwag-cyfredol/
Llenwch y ffurflen gais isod, gan gyfeirio’n fanwl a chyson at y meini prawf a nodir yn y Disgrifiad Swydd a Manyleb yr Unigolyn.
Dylid dychwelyd ffurflenni wedi'u llenwi drwy e-bost i [email protected].
Dylech chi gynnwys copïau o’ch cymwysterau gyda’r cais..
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub y Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymrwymiad hwn. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael ei ddethol yn amodol ar wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a geirdaon boddhaol.
Nodwch fod croeso i chi anfon ceisiadau yn y Gymraeg, ac ni fydd unrhyw geisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Dyddiad Cau- 20 Gorffennaf 2026
Dyddiad cyfweld- 26 Awst 2026
(Os na allwch fynychu'r cyfweliad ar y dyddiad a ddangosir, rhowch wybod i ni pryd mae'n well gennych ymuno).
Pay: £32,061.00-£33,699.00 per year
Benefits:
- Employee discount
- Flexitime
- On-site parking
Work Location: In person