Ysgol uwchradd gyfrwng Cymraeg yw Ysgol Morgan Llwyd wedi’i lleoli yn ninas Wrecsam ac sy’n gwasanaethu dalgylch eang Sir Wrecsam. Fe’i hagorwyd yn 1964 gyda chriw bach o ddisgyblion, ac ers hynny, mae’r ysgol wedi mynd o nerth i nerth gan symud i safle newydd yn y flwyddyn 2000. Erbyn hyn mae bron i 900 o ddisgyblion ar ein cofrestr a 81 yn y chweched dosbarth. Daw ein disgyblion o’r ddinas ei hun, y pentrefi cyfagos ac o ardal wledig Dyffryn Ceiriog. Ysgol Morgan Llwyd yw unig ysgol uwchradd Gymraeg y Sir ac un o’r ddwy ysgol yn unig sydd â Chweched Dosbarth.
Ymfalchïwn yn ein traddodiad o lwyddiant academaidd ein disgyblion a'u llwyddiannau ymhob rhan o fywyd allgyrsiol yr ysgol.
Ein gweledigaeth yw sicrhau fod Ysgol Morgan Llwyd yn ysgol ofalgar sydd yn datblygu dysgwyr uchelgeisiol a galluog, mewn awyrgylch ble mae pawb yn hapus, yn ddiogel ac yn awyddus i ddysgu.