Amdanom ni
Ydych chi'n angerddol am helpu plant ifanc i ffynnu?
A yw’r sgiliau a'r profiad gennych chi i gefnogi tîm mewn amgylchedd gofal plant meithringar, o ansawdd uchel? Os felly, hoffem glywed gennych!
Mae Cyngor Bro Morgannwg yn gwahodd ceisiadau i ymuno â'i Raglen Dechrau'n Deg - menter Llywodraeth Cymru sy'n cefnogi teuluoedd â phlant 0–3 oed mewn ardaloedd wedi'u targedu. Ein nod yw rhoi'r dechrau gorau posibl i bob plentyn mewn bywyd trwy wasanaethau blynyddoedd cynnar o ansawdd uchel.Mae Dechrau'n Deg yn canolbwyntio ar hyrwyddo iaith, datblygiad gwybyddol, cymdeithasol ac emosiynol, sgiliau corfforol, a nodi anghenion ychwanegol yn gynnar. Rydym yn cyflawni hyn trwy Ymweliadau Iechyd a chymorth, Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu, rhaglenni Rhianta, a gofal plant rhan amser wedi'i ariannu.
Fel Uwch Arweinydd Gofal Plant gyda Rhaglen Dechrau'n Deg Bro Morgannwg, byddwch yn rhan o dîm cryf, llawn cymhelliant sy'n cefnogi gofal plant o ansawdd uchel, gan sicrhau bod plant yn teimlo'n ddiogel, eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, a'u hysbrydoli i ddysgu trwy chwarae. Rydym wedi ymrwymo i feithrin creadigrwydd, chwilfrydedd a hyder pob plentyn.
Manteision ymuno â thîm Dechrau'n Deg Bro Morgannwg:
- Datblygiad Proffesiynol: Mynediad at hyfforddiant parhaus a sesiynau ymarfer myfyriol i'ch helpu i dyfu yn eich gyrfa.
- Effaith Gadarnhaol: Byddwch yn rhan o fenter Llywodraeth Cymru sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i deuluoedd a phlant yn y gymuned.
- Amgylchedd Tîm: Ymunwch â thîm cefnogol, cyfeillgar sy'n ymrwymedig i ddarpariaeth blynyddoedd cynnar o ansawdd uchel.
- Diogelwch Swydd: Mae'r rhaglen Dechrau'n Deg yn cael ei hariannu tan fis Mawrth 2028.
Am y rôl
Manylion Tâl: Gradd 7 (PCG 20-25) £ 32,597 - £36,363 (pro-rata)
Oriau Gwaith / Patrwm Gwaith: 37 awr yr wythnos / 42 wythnos yn ystod y tymor (a 3 wythnos i’w cytuno)
Prif Weithle: Y Barri
Rheswm am gynnig Swydd Dros Dro: Mae Dechrau'n Deg yn brosiect a ariennir gan Lywodraeth Cymru, ar hyn o bryd tan 31.3.2028
Disgrifiad:
Byddwch yn chwarae rhan weithredol yn cefnogi lleoliad gofal plant i gynnig amgylchedd diogel, ysgogol a meithringar o ansawdd uchel i blant 2-3 oed. Bydd eich cyfrifoldebau’n cynnwys:
- Goruchwylio a chefnogi tîm o weithwyr gofal plant sy’n brentisiaid wedi'u lleoli o fewn lleoliadau Dechrau'n Deg. Cydlynu eu lleoliadau, sicrhau cyfleoedd cyfoethog ar gyfer dysgu i gefnogi eu cymhwyster.
- Trefnu sesiwn datblygu cymorth cyfoedion i'r prentisiaid, gan gysylltu â'u hyfforddiant a darparu cyfleoedd i arwain ar weithgareddau, gan annog cyfranogiad a hyder.
- Gweithio mewn lleoliadau, modelu arfer da a mentora arweinwyr i sicrhau bod gofal o ansawdd uchel wedi'i ymgorffori mewn ymarfer bob dydd.
- Er mwyn sicrhau bod strategaethau cyffredinol yn cael eu hymgorffori mewn ymarfer bob dydd, modelu defnydd effeithiol a sut i addasu ar gyfer plant unigol
- Gweithio’n agos gyda’r Ymgynghorydd Blynyddoedd Cynnar i sicrhau bod safonau ansawdd yn y lleoliad yn cael eu cynnal ac y rhagorir arnynt
- Arwain y sesiynau pontio tymhorol i’r plant a’r rhieni y disgwylir iddynt fynychu lleoliad gofal plant
- Cymryd rhan mewn cyfarfodydd tîm, sesiynau hyfforddi, ac ymarfer myfyriol i ddatblygu eich sgiliau a'ch gwybodaeth.
Amdanat ti
Bydd angen y canlynol arnoch:
- Tair blynedd o brofiad o weithio gyda phlant mewn lleoliad cyn-ysgol
- Profiad o broses archwilio AGC
- O leiaf NVQ lefel 4 / FfCCh 5 Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant neu gyfwerth, gydag unedau arweinyddiaeth a rheoli neu statws ymarferydd uwch.
- Addysg gyffredinol dda.
- Profiad o oruchwylio staff
- Cymhelliant a brwdfrydedd dros y swydd a dealltwriaeth o’r tasgau gofynnol.
- Agwedd gyfeillgar nad yw'n codi ofn, a'r gallu i gyfathrebu ag amrywiaeth o weithwyr proffesiynol a rhieni.
- Gallu gyrru/teithio ledled y Fro neu rhwng lleoliadau fel y bo’n briodol
- Mae’r gallu i siarad a chyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol.
Gwybodaeth ychwanegol
Fel uwch Arweinydd gofal plant Dechrau'n Deg, bydd gennych gyfrifoldeb o ddydd i ddydd am ddau leoliad gofal plant, gan weithio'n agos gydag Uwch arweinydd arall, Rheolwr Gofal Plant a'r tîm Cynghori i sicrhau parhad ymagwedd, amgylcheddau effeithiol, galluogi oedolion a phrofiadau diddorol.
Byddwch yn rhan annatod o'r tîm ehangach Dechrau'n Deg, gyda llawer o gefnogaeth ar gael yn ogystal â chyfleoedd dilyniant gyrfa rhagorol.
Os ydych chi'n llawn cymhelliant, yn angerddol dros weithio ym maes gofal plant, ac eisiau bod yn rhan o dîm cefnogol anhygoel, yna byddem yn eich annog i wneud cais.
Oes angen gwiriad GDG: GDG Manwl gyda Rhestrau Gwahardd Oedolion/Plant
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: Claire Urch – Rheolwr y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant – [email protected] neu Emma Selby – Rheolwr Gofal Plant – [email protected] neu ffoniwch 01446 732180/01446 725106
Gweler y disgrifiad swydd/manyleb person ynghlwm am ragor o wybodaeth
Job Reference: SS01169