Gwybodaeth Gyffredinol
Ydy’r rôl hon yn addas i chi?
Bydd y rôl hon yn cynnwys:
Cynnig cymorth a chefnogaeth briodol er mwyn sicrhau bod plentyn ag anghenion ychwanegol yn cael yr un cyfleoedd â’i gyfoedion i fwynhau ac elwa o holl weithgareddau’r Cylch.
Sicrhau bod plentyn ag anghenion ychwanegol yn cael ei gynnwys yn llawn ym mhob agwedd o waith y Cylch, gan addasu adnoddau, amgylcheddau a gweithgareddau lle bo angen.
Rydym yn chwilio am rywun:
Sy’n garedig, brwdfrydig ac ymroddedig.
Sy’n credu ym mhwysigrwydd cynhwysiant a sicrhau cyfleoedd cyfartal i bob plentyn.
Sy’n mwynhau gweithio gyda phlant bach ac sydd â diddordeb mewn cefnogi eu datblygiad a’u lles.
Sydd â natur ofalgar a’r gallu i chwarae, dysgu a meithrin perthnasoedd cadarnhaol.
Sy’n amyneddgar, yn gefnogol ac yn sensitif i anghenion unigol plant.
Sy’n gallu gweithio’n dda fel rhan o dîm ac yn meddu ar sgiliau cyfathrebu da.
Sydd eisiau gweithio mewn amgylchedd Cymraeg, croesawgar a llawn cariad.
Lleoliad: Cylch Meithrin Dechrau'n Deg Gwdihŵ, Brynithel
Gwneud Cais:
Ewch at wefan Mudiad Meithrin i wneud cais:https://meithrin.cymru/jobs/gweithiwr-cefnogi-anghenion-ychwanegol-cylch-meithrin-dechraun-deg-gwdihw-brynithel/
Pay: £13.11 per hour
Application question(s):
- Oes gennych gymhwyster proffesiynol priodol mewn blynyddoedd cynnar /
gofal plant ar o leiaf lefel 3?
- Ydych chi gallu siarad Cymraeg yn effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig?
Work Location: In person