Gweithio i Gyngor Sir Ynys Môn
Mae Ynys Môn yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae’n ymwneud â gwella bywydau’r bobl sy’n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol â ninnau, sy’n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd â meddylfryd byd busnes, sy’n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu’r safonau uchaf posibl. Ein nod yw creu Ynys Môn sy’n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.
Mae ein llwyddiant yn dibynnu ar y bobl rydyn ni’n eu cyflogi, ac rydym wedi ymrwymo i werthfawrogi ein tîm. Rydym yn cynnig mwy na chyflog yn unig, felly edrychwch ar rai o’r buddion y gallwn eu cynnig i’n staff: Buddion o weithio i Gyngor Sir Ynys Môn
Pwrpas cyffredinol y swydd
Cynorthwyo i gwrdd ag anghenion a dyheadau unigolion sydd ag anableddau dysgu i gyflawni eu canlyniadau unigol a’u nodau personol. Annog, cefnogi a rhoi chymorth i unigolion; hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol, gan gynnwys eu hawliau a’u dewisiadau, er mwyn caniatáu i unigolion ag anableddau dysgu fyw bywydau mwy annibynnol sy’n rhoi boddhad iddynt.
Bydd deiliaid y swydd yn cynorthwyo unigolion sydd ag anabledd dysgu, ac anghenion cymhleth hefyd o bosib, i gymryd rhan mewn cyfleoedd dydd ystyrlon yn y gymuned ac yng nghanolfan y gwasanaeth, er mwyn eu galluogi i gyflawni eu hamcanion llesiant.
Mwy o wybodaeth
Penodiad yn ddibynnol ar Gwiriad GDG (DBS) lefel uwch boddhaol.
Gwelwch y swydd disgrifiad am mwy o gwybodaeth a gofynion sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y swydd hon.
Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.
Atodir isod y disgrifiad swydd/manyleb person.
Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a’r fanyleb person i’ch cyfrifiadur neu ar gof bach gan y bydd y dogfennau yn diflannu unwaith y bydd y swydd yn cau.
Manylion cyswllt
Enw: Marc Hughes
Rhif ffôn: 07483467790
Cyfeiriad e-bost: [email protected]
Job Reference: CORP100620