Diolch am eich diddordeb yn y swydd yma gyda Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych.
Y weledigaeth ar draws mudiad Gofal a Thrwsio cyfan yw bod holl bobl hŷn yn byw mewn cartrefi sy'n gwella ansawdd eu bywyd.
Mae Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych yn sicrhau bod anghenion pobl hŷn neu bobl fregus yn aros yn ganolog i ddarpariaeth ein gwasanaethau ai bod yn parhau i dderbyn gwasanaeth holistic "dal dwylo" ardderchog sydd ar gael am hyd oes y cleient. Rydym yn parhau i weithio mewn partneriaeth â sefydliadau statudol a gwirfoddol eraill â chyfeirio ar draws pob gwasanaeth.
Llinell strap ein Asiantaeth yw: Gwell Cartrefi, Gwell Iechyd syn cael ei gefnogi drwy ein datganiad o fwriad:-
I alluogi pobl hŷn neu bregus i barhau i fyw yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain yn saff, cyfforddus, cynnes a diogel
Ac ein gweledigaeth yw i fod yn:-
Ddarparwr blaenllaw o wasanaethau arloesol syn; gwella ansawdd bywyd pobl hŷn neu fregus
Fe ddaeth Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych yn is-gwmni o Grŵp Cynefin ar y 1af o Orffennaf 2015: Cwmni Cyfyngedig trwy Warant ac Elusen Cofrestredig. Rydym yn cydymffurfio ag ymarfer da cydnabyddedig ac mae ganddynt bolisïau personél blaengar sy'n rhoi amodau gwaith teg a chyfeillgar i'r teulu.
Os oes gennych yr ysfa ar angerdd i fod yn allweddol wrth wneud gwahaniaeth i ddyfodol pobl, hon ywr swydd i chi.
https://www.grwpcynefin.org/amdanom-ni/is-gwmniau/
Mae Grŵp Cynefin wedi bod yn darparu tai o ansawdd, syn ddiogel a fforddiadwy dros chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys i dros 8,000 o bobl ers 2014.
Rydym yn gweithion galed i ddarparu tai a gwasanaethau rhagorol, i gyfrannu i ddatblygiad cymunedau cynaliadwy a gwarchod a hybur iaith Gymraeg gyda balchder.
Rydym am gynyddu iechyd a lles ein cymunedau ir eithaf, creu cyfleoedd i newid bywydau a siapio lleoedd syn sicrhau dyfodol cynaliadwy.
Rydym yn chwilio am unigolyn angerddol a gofalgar i ymuno ân tîm. Mae hwn yn gyfle cyffrous ir person cywir a rhywun syn ffynnu mewn amgylchedd heriol ac yn awyddus i wneud gwahaniaeth.
Fel aelod o Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych cewch byddwch yn darparu gweinyddiaeth ariannol a chefnogi Rheolwr Gweithrediadau sicrhau cydymffurfiaeth â'r holl brosesau ariannol.
Dylai eich gwerthoedd adlewyrchu ein gwerthoedd ni.
Os oes gennych yr ysfa ar angerdd i fod yn allweddol wrth wneud gwahaniaeth i ddyfodol pobl, hon ywr swydd i chi.
Os hoffech sgwrs pellach am y swydd, cysylltwch â Lynda Colwell, Prif Swyddog ar 01286 889360.
Y Pecyn
Math o gytundeb: Parhaol
Cyflog: £25,687 - £28,911 y flwyddyn
Oriau gwaith: 35 awr yr wythnos
Gwyliau: 30 diwrnod y flwyddyn yn ogystal âr gwyliau banc statudol ar cyfnod rhwng y Nadolig ar Flwyddyn Newydd
Teithio: Defnyddiwr Car Achlysurol
Pensiwn: Mae Gofal a Thrwsio yn cynnig pensiwn drwyr National Employment Savings Trust ( NEST)
Mae'r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg ar Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon
Disgrifiad Swydd Cymraeg DS Swyddog Gweinyddol (Cyllid).pdf
Saesneg JD Administrative Officer (Finance).pdf
Buddiannau Pecyn Buddion.pdf Benefits Package.pdf
Datblygiad Personol:
Os oes gennych gymwysterau proffesiynol ach bod yn talu ffioedd proffesiynol blynyddol ich corff aelodaeth, byddwn yn talu un or rhain bob blwyddyn ich helpu i aros yn gysylltiedig âr wybodaeth ar addysg ddiweddaraf gan eich corff proffesiynol. Rydyn ni hefyd eisiau in holl gydweithwyr fwynhau buddion dysgu gydol oes, felly os ydych chin gweithio gyda ni byddwn nin buddsoddi ynoch chi fel hyn hefyd!
Dogfennau a Dyddiadau Perthnasol
Hysbysiad Preifatrwydd Ymgeisydd Swydd.pdf Privacy Notice Job Applicant.pdf
Canllawiau cwblhau cais.pdf Guidelines for completing your application.pdf
Dyddiad y cyfweliadau: 02/07/2026
Byddwn yn cysylltu â chi drwy e-bost i roi gwybod i chi a ydych wedi cyrraedd y rhestr fer. Cofiwch wirio'ch ffolder Sothach (junk) neu Sbam rhag ofn bod ein neges yn cael ei hidlo yno.
Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)
Byddwn yn gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad Sylfaenol/Manwl/Manwl gyda rhestrau gwahardd ar gyfer y swydd hon.