Amdanom ni:
Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.
Yng Ngholeg Gwyr Abertawe, rydym yn angerddol am fuddsoddi yn ein staff a gofalu am eu lles, er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth yn y gwaith a gartref.
Y Rôl:
Darparu gwasanaeth cymorth gweinyddol cynhwysfawr i Swyddfa'r Gyfadran, wedi'i lleoli yng Ngorseinon, ac o bosibl i gefnogi gweinyddiaeth yn ein campws Llwyn Y Bryn un diwrnod yr wythnos. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus sgiliau pobl rhagorol a bydd yn mwynhau gweithio gyda phobl ifanc.
-
Rhan-amser (20 awr yr wythnos)
-
Yn ystod y tymor (38 wythnos y flwyddyn)
-
9am - 1pm o ddydd Llun i ddydd Gwener
-
Cyfnod penodol tan 31/07/2027
-
£13.52 yr awr
-
Prif leoliad: Campws Gorseinon
Cyfrifoldebau Allweddol:
-
Darparu gwasanaeth cymorth gweinyddol cynhwysfawr i Swyddfa’r Gyfadran.
-
Atebolrwydd allweddol am archebu nwyddau traul, cynnal cofnodion manwl a gweinyddu ffurflenni cerdyn credyd
-
Gweithredu fel pwynt cyswllt cyntaf i ymwelwyr, darlithwyr a myfyrwyr.
Amdanoch chi:
-
Profiad o gynnal systemau gweinyddol manwl.
-
Sgiliau TG rhagorol.
-
O leiaf 5 cymhwyster TGAU Gradd A-C (neu gyfwerth) gan gynnwys Mathemateg a Saesneg. Bydd gennych hefyd gymhwyster lefel 2 perthnasol, yn ddelfrydol mewn Gweinyddu Busnes.
-
Sgiliau rhyngbersonol rhagorol a'r gallu i gyfathrebu'n hyderus ar bob lefel.
-
Y gallu i flaenoriaethu llwyth gwaith a chadw at derfynau amser ac ymrwymiad i gynnal safonau uchel.
Buddion:
-
28 diwrnod pro rata o wyliau blynyddol gan gynnwys gwyliau banc. Hefyd, mae’r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig
-
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chyfraniad cyflogwr o 21% ar gyfartaledd (2025)
-
2 ddiwrnod lles i staff
-
Disgowntiau ar gostau astudio os ydych yn astudio un o gyrsiau’r Coleg
-
Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion: https://www.gcs.ac.uk/cy/recriwtio/buddion-a-lles
Angen cymorth gyda’ch cais? Cliciwch yma i weld ein canllawiau.
Gwybodaeth Bellach
-
Os derbynnir llawer o geisiadau ar gyfer y rôl hon, efallai y byddwn newid y dyddiad cau. Felly, awgrymir ichi gyflwyno cais yn gynnar.
-
Cyflog Amser Llawn: £26,084 - £26,226 y flwyddyn.
Amrywiaeth a Chynhwysiant
Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion waeth beth fo’u hoedran, rhywedd, ethnigrwydd, anableddau, cyfeiriadedd rhwyiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gredoau. Rydym yn croesawu hefyd geisiadau gan unigolion mewn grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol o fewn ein sefydliad.
Yr Iaith Gymraeg
I wneud cais yn y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog pobl i gwblhau cais trwy gyfrwng y Gymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau dwyieithog, fel y gallwn ehangu ein gweithlu dwyieithog. Ni fydd ceisiadau Cymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Diogelu
Mae Coleg Gwyr Abertawe’n ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed. Rhaid i bob aelod o staff gydymffurfio â hyn. Bydd penodiadau’n amodol ar wiriadau cyn-gyflogaeth, gan gynnwys:
-
Gwiriad DBS manylach, gan gynnwys Rhestrau Gwaharddedig (£49.50)
-
Cofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru, lle bo angen (£15 - £45 yn dibynnu ar y rôl).