Lecturer in Politics – Teaching & Scholarship
School of Law and Politics
The School of Law and Politics is seeking to appoint an outstanding candidate to join our internationally renowned Department of Politics and International Relations as a Lecturer in Politics at Grade 7 with expertise in British politics and governance and evidence of experience in delivering innovative pedagogies such as problem-based learning, partnership pedagogies, community engaged learning, simulations, and authentic assessment.
We anticipate that the candidate will play a central role in the development, delivery and evaluation of modules that involve community-engaged learning pedagogies, simulations and other such approaches. We are particularly interested in candidates whose expertise extends and complements existing capability in the department.
The successful candidate will have a burgeoning scholarship profile commensurate to their career stage. They will be expected to contribute to activities that contribute towards the scholarship community of the School.
The Department of Politics and International Relations is a dynamic and growing part of the inter-disciplinary School of Law and Politics. We are an intellectually pluralist and diverse community, with internationally recognised and long-established strengths in political theory; Welsh politics and devolution; British political history; and UK and European politics and public policy. Moreover, being situated in a School of Law and Politics presents opportunities to innovate across disciplinary boundaries in both teaching and scholarship. Scholarship activities within the School are supported by the Centre for the Pedagogy of Political and Legal Education (PeoPLE), designed to promote and support scholarship of learning and teaching and pedagogical research within the fields of law, politics and international relations. The Centre is dedicated to a reflective and pedagogically-informed approach to learning and teaching and to the vital importance this plays in our practice as an academic community.
As part of the revalidation of our undergraduate degree programme we will be developing innovative 40 credit capstone projects as part of our final year programme of study for 2027-28. In politics this will involve the development and delivery of modules which centre on problem-based learning, partnership pedagogies, community engaged learning pedagogies, simulations, and authentic assessment. The successful candidate will be expected to play a key role in the development and implementation of these modules.
Applicants are expected to amplify expertise in these broad areas and further shape the Department’s profile.
For further information about the Department and its work, please contact Dr Jon Kirkup, Head of the Department of Politics and International Relations, at
[email protected]
Website: https://www.cardiff.ac.uk/law-politics
This post is full time and open-ended, to start in the first or second semester of the 2026-2027 academic year.
Interviews are planned for 13 August. We kindly ask applicants to keep this date available, as alternative interview dates may not be possible.
Salary: £51,753 - £56,535 per annum (Grade 7)
Appointments to roles at Cardiff University are usually made at bottom of scale, unless in exceptional circumstances.
Date advert posted: Friday, 24 July 2026
Closing date: Friday, 7 August 2026
Cardiff University is committed to supporting and promoting equality and diversity and to creating an inclusive working environment. We believe this can be achieved through attracting, developing, and retaining a diverse range of staff from many different backgrounds. We therefore welcome applicants from all sections of the community regardless of sex, ethnicity, disability, sexual orientation, trans identity, relationship status, religion or belief, caring responsibilities, or age. We especially welcome and encourage applications from those under-represented groups within the University workforce, such as those who identify as LGBT+, Ethnic Minority or those with disabilities. In supporting our employees to achieve a balance between their work and their personal lives, we will also consider proposals for flexible working or job share arrangements.
Applications may be submitted in Welsh, and an application submitted in Welsh will not be treated less favourably than an application submitted in English.
Darlithydd Gwleidyddiaeth – Addysgu ac Ysgoloriaeth
Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth
Mae Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth eisiau penodi ymgeisydd rhagorol i ymuno â'n Hadran Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol, sydd ag enw da yn rhyngwladol, yn Ddarlithydd Gwleidyddiaeth (Gradd 7). Rydym yn chwilio am rywun ag arbenigedd mewn gwleidyddiaeth a llywodraethu Prydain a thystiolaeth o brofiad o gyflwyno addysgegau arloesol megis dysgu seiliedig ar broblemau, addysgegau partneriaeth, dysgu sy'n ymgysylltu â'r gymuned, efelychiadau ac asesu dilys.
Rydym yn rhagweld y bydd yr ymgeisydd yn chwarae rhan ganolog wrth ddatblygu, cyflwyno a gwerthuso modiwlau sy'n cynnwys addysgeg dysgu sy'n ymgysylltu â'r gymuned, efelychiadau a dulliau tebyg eraill. Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn ymgeiswyr y mae eu harbenigedd yn estyn ac yn ategu’r gallu presennol yn yr adran.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus broffil ysgoloriaeth ffyniannus ac sy'n gymesur â sefyllfa ei yrfa. Disgwylir iddo gyfrannu at weithgareddau sy'n cyfrannu at gymuned ysgolheictod yr Ysgol.
Mae'r Adran Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol yn rhan ddeinamig a chynyddol o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth ryngddisgyblaethol. Rydym yn gymuned amryfath ac amrywiol yn ddeallusol, gyda chryfderau sefydlog a gydnabyddir yn rhyngwladol sydd wedi'u sefydlu mewn theori gwleidyddiaeth, gwleidyddiaeth Cymru a datganoli; hanes gwleidyddiaeth Prydain; a gwleidyddiaeth Ewrop a’r DU a pholisi cyhoeddus. Ar ben hynny, mae yn rhan o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth yn cynnig cyfleoedd i arloesi ar draws ffiniau disgyblaethol mewn addysgu ac ysgolheictod. Cefnogir gweithgareddau ysgoloriaeth yn yr Ysgol gan y Ganolfan Addysgeg Addysg Wleidyddol a Chyfreithiol (PeoPLE), a gynlluniwyd i hyrwyddo a chefnogi ysgolheictod dysgu ac addysgu ac ymchwil addysgeg ym meysydd y gyfraith, gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol. Mae'r Ganolfan wedi ymroi i ddull myfyriol sy’n wybodus am addysgeg, gan bwysleisio pwysigrwydd hyn i'n gwaith addysgu a dysgu ac i'n gwaith fel cymuned academaidd.
Yn rhan o'r broses o ail-ddilysu ein rhaglen radd israddedig, byddwn yn datblygu prosiectau copa arloesol gwerth 40 credyd yn rhan o’n rhaglen astudio'r flwyddyn olaf, o flwyddyn academaidd 2027–28. Ym maes gwleidyddiaeth bydd hyn yn cynnwys datblygu a chyflwyno modiwlau sy'n canolbwyntio ar ddysgu ar sail problemau, addysgeg partneriaeth, addysgeg dysgu sy'n ymgysylltu â'r gymuned, efelychiadau ac asesu dilys. Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus chwarae rhan allweddol yn natblygiad y modiwlau hyn a’u rhoi ar waith.
Disgwylir i ymgeiswyr ymhelaethu ar arbenigedd yn y meysydd eang hyn a llunio proffil yr Adran ymhellach.
I gael rhagor o wybodaeth am yr Adran a'i gwaith, cysylltwch â Dr Jon Kirkup, Pennaeth yr Adran Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol, trwy e-bostio [email protected]
Gwefan: https://www.cardiff.ac.uk/cy/law-politics
Mae'r swydd hon yn amser llawn a phen agored, i ddechrau yn semester cyntaf neu ail flwyddyn academaidd 2026–2027.
Cyflog: £51,753 – £56,535 y flwyddyn (Gradd 7)
Ym Mhrifysgol Caerdydd, bydd unigolion fel arfer yn dechrau ar waelod y raddfa gyflog, ac eithrio o dan amgylchiadau eithriadol.
Mae cyfweliadau wedi'u cynllunio ar gyfer 13 Awst. Gofynnwn yn garedig i ymgeiswyr gadw'r dyddiad hwn ar gael, gan y byddai'n bosibl na fydd dyddiadau cyfweliad amgen ar gael.
Dyddiad hysbysebu: Dydd Gwener, 24 Gorffennaf 2026
Dyddiad cau: Dydd Gwener, 7 Awst 2026
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ogystal â chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau yn arbennig gan y rhai o grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn gweithlu'r Brifysgol, fel y rhai sy'n uniaethu fel LHDT+, o gefndiroedd du, Asiaidd ac ethnig lleiafrifol neu'r rhai ag anableddau. Er mwyn helpu ein cyflogai i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu’r swydd.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.