**Scroll Down for English**
Swyddog Cyswllt Tenantiaid
Math o Swydd: Llawn amser, Parhaol
Cyflog: £30,000.00 y flwyddyn
Mae RELM Group Ltd yn gwmni adeiladu sefydledig ac uchel ei barch yng Ngogledd Cymru. Rydym yn arbenigo mewn gwaith cynnal a chadw cynlluniedig ac ymatebol, gwaith ôl-osod a chydymffurfiaeth diogelwch tân, gan wasanaethu awdurdodau lleol a chymdeithasau tai.
Fel cyflogwr, rydym yn frwd dros fuddsoddi yn ein pobl. Rydym yn ymfalchïo mewn diwylliant cefnogol, blaengar sy’n cynnig cyfleoedd gwirioneddol i ddatblygu gyrfa.
Rydym yn chwilio am Swyddog Cyswllt Tenantiaid brwdfrydig i ymuno â’n tîm. Bydd y rôl wedi’i lleoli yn ein swyddfa yn Llangefni, Ynys Môn, a byddwch yn cefnogi ein Rheolwr Prosiect a’n Cynorthwyydd Safle i gyflawni prosiect adnewyddu tai mawr ledled yr ynys. Mae hyn yn cynnwys cydweithio’n agos â thenantiaid a’n cleientiaid i helpu i gyflawni’r gwaith yn ddidrafferth, gan darfu cyn lleied â phosibl ar y tenant.
Prif Gyfrifoldebau:
- Bod yn brif bwynt cyswllt i denantiaid y mae gwaith i’w wneud ar eu heiddo neu sy’n cael gwaith ar eu heiddo ar hyn o bryd.
- Bod yn brif bwynt cyswllt ar gyfer unrhyw ymholiad yn ymwneud â thenantiaeth, a chymryd cyfrifoldeb dros ddatrys neu gefnogi’r gwaith o ddatrys ceisiadau gan denantiaid.
- Cysylltu â thenantiaid cyn i’r gwaith ddechrau er mwyn sicrhau eu bod yn gwbl ymwybodol o gwmpas y gwaith a’r amserlenni amcangyfrifedig.
- Cysylltu â thenantiaid i drefnu’r gwaith fel ei fod yn cael cyn lleied o effaith â phosibl ar ffordd o fyw’r tenant, lle bo hynny’n bosibl, gan sicrhau bod y tenant yn gwbl ymwybodol pryd y bydd y gwaith yn cael ei wneud.
- Mynychu pob cyfarfod angenrheidiol gyda thenantiaid a’r Cleient i roi diweddariadau a derbyn adborth gan denantiaid er mwyn sicrhau gwelliannau i waith yn y dyfodol.
- Rheoli a gweinyddu’r gwaith o fonitro boddhad tenantiaid a chynhyrchu adroddiadau perfformiad rheolaidd ar gyfer rheolwyr.
- Sicrhau bod pob arolwg perthnasol yn cael ei gynnal cyn i’r gwaith ddechrau er mwyn helpu i hwyluso’r dyddiadau cychwyn y cytunwyd arnynt.
- Creu a rheoli’r deunyddiau a’r cyfathrebiadau sy’n ymwneud â phrosesau cyswllt tenantiaid, a diweddaru neu ddiwygio’r wybodaeth pan fo angen.
- Rheoli a monitro’r gronfa ddata cyswllt tenantiaid.
- Bod yn brif bwynt cyswllt ar gyfer unrhyw gwynion a godir gan denant.
- Cymryd rhan mewn cyfarfodydd cynnydd, gan lunio adroddiad manwl ar unrhyw faterion a godwyd gan denantiaid i baratoi ar gyfer pob cyfarfod.
Nid yw’r rhestr hon yn gynhwysfawr, a gall dyletswyddau newid yn unol ag anghenion y busnes a’ch sgiliau.
Sgiliau/Cymwysterau/Profiad Allweddol:
- Y Gymraeg (hanfodol)
- Y Saesneg (hanfodol)
- Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar (yn Gymraeg ac yn Saesneg)
- Trwydded yrru lawn a glân y DU (hanfodol)
- Sgiliau TG - gan gynnwys Microsoft Word, Excel ac Outlook
- Sgiliau trefnu
- Y gallu i weithio fel rhan o dîm ac yn annibynnol
- Sgiliau datrys problemau a sylw i fanylion
************
Tenant Liaison Officer
Job Type: Full-time, Permanent
Pay: £30,000.00 per year
RELM Group Ltd is an established, respected construction company based in North Wales. We specialise in planned and reactive maintenance, retrofit works and fire safety compliance, serving local authorities and housing associations.
As an employer, we’re passionate about investing in our people. We pride ourselves on a supportive, forward-thinking culture that offers real career development opportunities.
We are seeking a motivated Tenant Liaison Officer to join our team. The role will be based in our Anglesey office in Llangefni, and you will be supporting our Project Manager and Site Assistant in the delivery of a large housing refurbishment project across the island. This involves liaising closely with tenants and our clients to assist in the smooth delivery of works with minimum disruption to the tenant.
Key Responsibilities:
- To be the key point of contact for tenants who are due to have/are having works being carried out on their property.
- To be the key point of contact for any tenancy enquiry, and to take ownership of resolving/supporting the resolution of requests made by the tenants.
- To liaise with tenants prior to works commencing to ensure the tenants are fully aware of the scope of works and estimate timescales.
- To liaise with the tenants to schedule in works with minimal impact tenant’s lifestyle where possible, ensuring the tenant is fully aware of when the works will be carried out.
- To attend all necessary meetings with tenants and the Client to provide updates and receive feedback from the tenants to ensure improvements on future works.
- Manage and administer tenant satisfaction monitoring and produce regular performance reports for management.
- To ensure all relevant surveys are conducted prior to works commencing to help facilities the agreed start dates.
- To create and manage the literature/communication surrounding the tenant liaison processes, and update/amend the information when necessary.
- Manage and monitor tenant liaison database
- To be the first point of contact for any complaints raised by a tenant.
- Participate in progress meetings, producing a detailed report on any tenant-raised issues in preparation for each meeting.
This list is not exhaustive, and duties may evolve according to business needs and your skills.
Key Skills/Qualifications/Experience:
- Welsh Language (essential)
- English Language (essential)
- Written and verbal communication skills (in English and Welsh)
- Full and Clean UK Driving Licence (essential)
- IT skills – including Microsoft Word, Excel and Outlook
- Organisation
- Ability to work as part of a team and independently
- Problem solving and an attention to detail
Pay: £30,000.00 per year
Benefits:
- Company pension
- Cycle to work scheme
- Free parking
- On-site parking
- Private dental insurance
- Private medical insurance
Work Location: In person