Amdanom ni:
Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled Abertawe a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr blaenllaw iawn yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.
Mae’r Coleg hefyd yn cynnig darpariaeth lles staff o’r radd flaenaf, sy’n adlewyrchu ein hymrwymiad i fuddsoddi yn ein staff gan sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi.
Y Rôl
Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymroddedig, uchel ei gymhelliant ymuno â'n Maes Dysgu Sgiliau Byw'n Annibynnol (ILS) llwyddiannus.
-
Rhan amser 0.8 (29.6 awr/wythnos)
-
Parhaol
-
£21,108 - £41,544 y flwyddyn
-
Campws Tycoch
Cyfrifoldebau Allweddol:
-
Cynllunio, paratoi ac addysgu ar draws ystod o gyrsiau gan sicrhau bod cynlluniau/cofnodion gwaith, amserlenni aseiniadau, yn briodol i gynnwys y maes llafur a safonau'r corff dyfarnu.
-
Sicrhau bod strategaethau addysgu a dysgu a deunyddiau addysgu wedi'u cynllunio yn ogystal â bod yn hygyrch i ddiwallu anghenion amrywiol pob dysgwr, a bod mentrau Llywodraeth Cymru e.e. ADCDF; Ethos Cymru; ES; Cyflogadwyedd wedi'u hymgorffori a'u hasesu'n effeithiol.
-
Mabwysiadu a defnyddio offer/atebion digidol ar gyfer cyflwyno ac asesu ar-lein yn unol â llwyfannau a gymeradwywyd gan y Coleg rhagnodedig.
-
Asesu a monitro cynnydd dysgwyr, gan gynnwys gosod targedau, cynnal cofnodion gwaith a chyflawniad yn unol ag amserlenni/meini prawf mewnol ac allanol a thargedau'r coleg.
Amdanoch chi:
-
Bydd gennych o leiaf 2 flynedd o brofiad o addysgu dysgwyr ag ADY sylweddol.
-
Byddwch wedi'ch cymhwyso hyd at lefel gradd neu gymhwyster lefel 4 cyfatebol gyda phrofiad o weithio mewn rôl berthnasol. Byddwch yn meddu ar gymhwyster addysgu cydnabyddedig/neu'n barod i weithio tuag ato.
-
Hanes profedig o gyflawni presenoldeb a phrydlondeb rhagorol, gan ddarparu model rôl cryf i ddysgwyr.
-
Y gallu i gefnogi a meithrin grwpiau dysgu amrywiol gyda'r nod o gyflawni'r canlyniadau a ddymunir.
Buddion:
-
46 pro rata diwrnod o wyliau blynyddol gan gynnwys gwyliau banc. Hefyd, mae’r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig.
-
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chyfraniad cyflogwr o 21% ar gyfartaledd (2025).
-
Cynllun Pensiwn Athrawon a chyfraniad cyflogwr o 28.68% ar gyfartaledd (2025).
-
2 ddiwrnod lles i staff bob blwyddyn
-
Disgowntiau ar gostau cwrs os ydych yn astudio un o gyrsiau’r Coleg.
-
Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion: https://www.gcs.ac.uk/cy/recriwtio/buddion-a-lles
Angen cymorth gyda’ch cais? Cliciwch yma i weld ein canllawiau.
Gwybodaeth Bellach
Os derbynnir llawer o geisiadau ar gyfer y rôl hon, efallai y byddwn newid y dyddiad cau. Felly, awgrymir ichi gyflwyno cais yn gynnar.
-
-
Cyflog Amser Llawn: £26,386 - £51,931 y flwyddyn (yn dibynnu ar gymwysterau a phrofiad.
Amrywiaeth a Chynhwysiant
Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion waeth beth fo’u hoedran, rhywedd, ethnigrwydd, anableddau, cyfeiriadedd rhwyiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gredoau. Rydym yn croesawu hefyd geisiadau gan unigolion mewn grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol o fewn ein sefydliad.
Yr Iaith Gymraeg
I wneud cais yn y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog pobl i gwblhau cais trwy gyfrwng y Gymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau dwyieithog, fel y gallwn ehangu ein gweithlu dwyieithog. Ni fydd ceisiadau Cymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Diogelu
Mae Coleg Gwyr Abertawe’n ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed. Rhaid i bob aelod o staff gydymffurfio â hyn. Bydd penodiadau’n amodol ar wiriadau cyn-gyflogaeth, gan gynnwys:
-
Gwiriad DBS manylach, gan gynnwys Rhestrau Gwaharddedig (£49.50)
-
Cofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru, lle bo angen (£15 - £45 yn dibynnu ar y rôl).