Aelod o’r Tîm Blaen Tŷ – Ty’n Llan, Llandwrog
Llawn amser, rhan amser a swyddi tymhorol ar gael
Cymraeg yn hanfodol
Mae Ty’n Llan yn lle prysur a chroesawgar yng nghalon Llandwrog. Mae’r adeilad yn eiddo i’r gymuned, ac mae hynny’n rhoi naws arbennig i’r lle — awyrgylch cynnes, croeso go iawn, a balchder lleol. Rydym yn chwilio am rywun profiadol, dibynadwy ac rhywun sydd yn mwynhau gweithio gyda phobl i ymuno â’n tîm blaen tŷ.
Yn y rôl yma, byddwch yn helpu i greu profiad braf i bob gwestai — o’r eiliad maen nhw’n dod drwy’r drws, hyd at yr amser maen nhw’n gadael. Mae’n waith sy’n gofyn am bersonoliaeth gynnes, gwasanaeth gofalus, a’r gallu i gadw pethau’n symud mewn amgylchedd prysur.
Beth fyddwch chi’n ei wneud
- Croesawu gwesteion yn gynnes ac yn naturiol
- Gwasanaethu bwyd a diod yn ofalus ac yn broffesiynol
- Cymryd archebion bwyd a diod yn gywir ac yn glir
- Sgwrsio â gwesteion ac sicrhau eu bod yn teimlo’n gartrefol
- Cadw llif y gwasanaeth yn esmwyth mewn cyfnodau prysur
- Cydweithio’n agos gyda’r gegin i sicrhau gwasanaeth amserol
- Trin a chyfleu gwybodaeth alergenau’n ddiogel (ddarperir hyfforddiant)
- Paratoi diodydd fel rhan o’r gwasanaeth — coffi, gwin a diodydd bar
- Gweithio’r til a thrin taliadau
- Cadw’r ardal blaen tŷ yn lân, yn daclus ac yn ddeniadol
Rydyn ni’n chwilio am rywun sydd
- Yn siarad Cymraeg yn hyderus gyda gwesteion
- Gyda profiad blaenorol mewn lletygarwch
- Gyda profiad barista (darperir hyfforddiant)
- Gyda diddordeb sylfaenol mewn gwin (darperir hyfforddiant)
- Yn gyfeillgar, yn drefnus ac yn gallu gweithio o dan bwysau
- Yn dibynadwy ac yn gweithio’n dda fel rhan o dîm
Beth rydyn ni’n ei gynnig
- Tips yn cael eu rhannu rhwng y tîm
- Gostyngiad staff ar fwyd tra ar shifft
- Hyfforddiant a chefnogaeth (coffi, gwin, alergenau, systemau)
- Amgylchedd gwaith cynnes a chefnogol mewn busnes sy’n eiddo i’r gymuned
Os yw hyn yn swnio fel rôl sy’n siwtio chi, byddem yn falch iawn o glywed gennych.
Full‑time, part‑time and seasonal positions available
Welsh essential
Ty’n Llan is a busy, welcoming pub and restaurant in the heart of Llandwrog. The building is community‑owned, which gives the place a special character — a warm atmosphere, a genuine sense of welcome, and strong local pride. We are looking for an experienced and reliable Front of House Team Member to join our team.
This role centres on delivering an exceptional guest experience — ensuring every guest feels welcomed, cared for and valued from the moment they arrive to the moment they leave.
Key Responsibilities
- Providing a warm, professional welcome to all guests
- Delivering high‑quality table service throughout each stage of the guest experience
- Taking food and drink orders accurately and efficiently
- Engaging with guests in a friendly, confident and attentive manner
- Maintaining smooth service flow in a fast‑paced restaurant environment
- Communicating clearly with the kitchen to ensure timely and accurate service
- Managing allergen information safely (experience required; training provided)
- Preparing drinks as part of service, including coffees, wine service and bar drinks
- Operating the till and handling payments
- Upholding high standards of cleanliness, presentation and professionalism
Essential Requirements
- Welsh speaker – confident communicating with guests in Welsh
- Previous hospitality experience in a busy, fast‑paced setting
- Barista experience essential – refresher training available
- Basic wine knowledge desirable (training provided)
- Strong customer service skills and a genuine passion for hospitality
- Ability to remain calm, organised and professional under pressure
- Reliable, punctual and able to work effectively as part of a team
What We Offer
- Shared tips
- Staff discount on food while on shift
- Training and development opportunities (coffee, wine, allergens, systems)
- Supportive working environment within a community‑owned business
If this sounds like a role that suits you, we’d be very happy to hear from you!
Pay: From £12.71 per hour
Work Location: In person