Diolch am eich diddordeb yn y swydd yma gyda Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych .
Y weledigaeth ar draws mudiad Gofal a Thrwsio cyfan yw bod holl bobl hŷn yn byw mewn cartrefi sy'n gwella ansawdd eu bywyd.
Mae Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych yn sicrhau bod anghenion pobl hŷn neu bobl fregus yn aros yn ganolog i ddarpariaeth ein gwasanaethau ai bod yn parhau i dderbyn gwasanaeth holistic "dal dwylo" ardderchog sydd ar gael am hyd oes y cleient. Rydym yn parhau i weithio mewn partneriaeth â sefydliadau statudol a gwirfoddol eraill â chyfeirio ar draws pob gwasanaeth.
Llinell strap ein Asiantaeth yw: Gwell Cartrefi, Gwell Iechyd syn cael ei gefnogi drwy ein datganiad o fwriad:-
I alluogi pobl hŷn neu bregus i barhau i fyw yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain yn saff, cyfforddus, cynnes a diogel
Ac ein gweledigaeth yw i fod yn:-
Ddarparwr blaenllaw o wasanaethau arloesol syn; gwella ansawdd bywyd pobl hŷn neu fregus
Fe ddaeth Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych yn is-gwmni o Grŵp Cynefin ar y 1af o Orffennaf 2015: Cwmni Cyfyngedig trwy Warant ac Elusen Cofrestredig. Rydym yn cydymffurfio ag ymarfer da cydnabyddedig ac mae ganddynt bolisïau personél blaengar sy'n rhoi amodau gwaith teg a chyfeillgar i'r teulu.
Mae Grŵp Cynefin wedi bod yn darparu tai o ansawdd, syn ddiogel a fforddiadwy dros chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys i dros 8,000 o bobl ers 2014.
Os oes gennych yr ysfa ar angerdd i fod yn allweddol wrth wneud gwahaniaeth i ddyfodol pobl, hon ywr swydd i chi.
http://www.grwpcynefin.org/en/eich-cymuned/denbighshire-care-repair/
Rydym yn chwilio am unigolyn angerddol a gofalgar i ymuno ân tîm. Mae hwn yn gyfle cyffrous ir person cywir a rhywun syn ffynnu mewn amgylchedd prysur ac yn frwdfrydig i wneud gwahaniaeth.
Fel Swyddog Cymorth Busnes byddwch yn chwarae rôl allweddol wrth gefnogi perfformiadgweithredol, cydymffurfiaeth a gwelliant parhaus ar draws y sefydliad. Bydddeiliad y swydd yn gyfrifol am fonitro a dadansoddi data perfformiad achydymffurfiaeth, nodi tueddiadau a meysydd pryder, a chynhyrchu adroddiadaucywir ac ystyrlon i gefnogi penderfyniadau gwybodus gan dimau rheoli a'r Bwrdd Rheoli Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych.
Rydyn yn croesawu ac yn annog darpar ymgeiswyr i gysylltu a ni i drafod y swydd ac i gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Donna Roberts, Rheolwr Gweithredol ar 0300 111 2120.
Y Pecyn
Math o gytundeb: Parhaol
Cyflog: £29,779 - £33,515 y flwyddyn
Oriau gwaith: 35 awr yr wythnos
Gwyliau: 30 diwrnod y flwyddyn yn ogystal âr gwyliau banc statudol ar cyfnod rhwng y Nadolig ar Flwyddyn Newydd
Teithio: Defnyddiwr Car Achlysurol
Pensiwn: Mae Gofal a Thrwsio yn cynnig pensiwn drwyr National Employment Savings Trust ( NEST)
Disgrifiad Swydd DS Swyddog Cymorth Busnes 08.26.pdf
JD Business Support Officer 0826.pdf
Buddiannau Pecyn Buddion.pdf Benefits Package.pdf
Datblygiad Personol:
Os oes gennych gymwysterau proffesiynol ach bod yn talu ffioedd proffesiynol blynyddol ich corff aelodaeth, byddwn yn talu un or rhain bob blwyddyn ich helpu i aros yn gysylltiedig âr wybodaeth ar addysg ddiweddaraf gan eich corff proffesiynol. Rydyn ni hefyd eisiau in holl gydweithwyr fwynhau buddion dysgu gydol oes, felly os ydych chin gweithio gyda ni byddwn nin buddsoddi ynoch chi fel hyn hefyd!
Dogfennau a Dyddiadau Perthnasol
Hysbysiad Preifatrwydd Ymgeisydd Swydd.pdf Privacy Notice Job Applicant.pdf
Canllawiau cwblhau cais.pdf Guidelines for completing your application.pdf
Dyddiad y cyfweliadau: I gadarnhau
Byddwn yn cysylltu â chi drwy e-bost i roi gwybod i chi a ydych wedi cyrraedd y rhestr fer. Cofiwch wirio'ch ffolder Sothach (junk) neu Sbam rhag ofn bod ein neges yn cael ei hidlo yno.
Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)
Byddwn yn gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad Sylfaenol/Manwl/Manwl gyda rhestrau gwahardd ar gyfer y swydd hon.