Gweithio i Gyngor Sir Ynys Môn
Mae Ynys Môn yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae’n ymwneud â gwella bywydau’r bobl sy’n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol â ninnau, sy’n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd â meddylfryd byd busnes, sy’n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu’r safonau uchaf posibl. Ein nod yw creu Ynys Môn sy’n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.
Mae ein llwyddiant yn dibynnu ar y bobl rydyn ni’n eu cyflogi, ac rydym wedi ymrwymo i werthfawrogi ein tîm. Rydym yn cynnig mwy na chyflog yn unig, felly edrychwch ar rai o’r buddion y gallwn eu cynnig i’n staff: Buddion o weithio i Gyngor Sir Ynys Môn
Pwrpas cyffredinol y swydd
O dan arweiniad y Rheolwr Caffael ac ar gyfeiriad cyffredinol yr Uwch Swyddog Caffael Corfforaethol, bydd y person sy'n dal y swydd yn gweithio o fewn y Tîm Caffael ac yn cynorthwyo gyda datblygu a gweithredu Strategaeth Gaffael Corfforaethol y Cyngor a chyfrannu tuag at weithrediad llwyddiannus y Tîm Caffael.
Yn ogystal, bydd yn ofynnol i'r person sy'n dal y swydd gynorthwyo gyda threfnu rhai cytundebau corfforaethol ac arbenigol y gwasanaeth ar gyfer nwyddau a gwasanaethau penodol drwy broses dendro a chytundebu, yn ogystal ag ymgysylltu â datblygiadau ffocws cwsmer a gwaith dadansoddi data gwariant.
Mae'r Tîm Caffael yn gyfrifol am:-
- Darparu cyngor, canllawiau a hyfforddiant i wasanaethau ar gaffael a deddfwriaethau perthnasol eraill, prosesau a gweithdrefnau caffael y Cyngor, a rheoli cytundebau.
- Arwain ymarferion caffael ar ran gwasanaethau yn ôl yr angen
- Monitro cydymffurfiaeth y Cyngor â chaffael a deddfwriaethau perthnasol eraill a chanllawiau gorfodol Llywodraeth y DU / Cymru, a Rheolau Gweithdrefn Contractau'r Cyngor.
- Monitro ac adrodd ar berfformiad materion caffael ar draws y Cyngor
- Cysylltu â thîm cyfreithiol y Cyngor ar faterion cytundebol, cyfreithiol neu reoleiddiol
- Rheoli caffael a rheoli nifer o gontractau ledled y Cyngor gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) ynni, llungopïo, swyddfa, dodrefn a chyflenwadau TG
- Cynnal a sicrhau bod gwasanaethau'n diweddaru cofrestr contractau'r Cyngor
- Gweinyddu a chyfrifo gwariant trwy gardiau credyd y Cyngor
Mwy o wybodaeth
Gwelwch y swydd disgrifiad am mwy o gwybodaeth a gofynion sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y swydd hon.
Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.
Atodir isod y disgrifiad swydd/manyleb person.
Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a’r fanyleb person i’ch cyfrifiadur neu ar gof bach gan y bydd y dogfennau yn diflannu unwaith y bydd y swydd yn cau.
Manylion cyswllt
Enw: Gwen Thomas
Rhif ffôn: 01248 750057
Cyfeiriad e-bost: [email protected]
Job Reference: CORP100766