Amdanom ni:
Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled Abertawe a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr blaenllaw iawn yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.
Mae’r Coleg hefyd yn cynnig darpariaeth lles staff o’r radd flaenaf, sy’n adlewyrchu ein hymrwymiad i fuddsoddi yn ein staff gan sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi.
Y rôl:
Gweithio gyda grwp o interniaid ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) i nodi eu cryfderau, eu diddordebau a'u galluoedd mewn perthynas â datblygu sgiliau a swyddi a sicrhau cyflogaeth. Rhoi technegau hyfforddi swyddi ar waith gan gefnogi datblygiad pobl ifanc tuag at sicrhau cyflogaeth. Byddwch hefyd yn ceisio ffynonellau cymorth a chyflogaeth priodol yn unol â diddordebau a sgiliau'r myfyrwyr, gan weithio gyda busnesau a’r diwydiant lleol i ddiwallu eu hanghenion cyflogaeth. Byddwch hefyd yn cyfeirio pobl ifanc ar y rhaglen at wasanaethau cymorth priodol at ddibenion hyfforddiant a chyflogaeth.
-
37 Awr yr wythnos
-
Yn Ystod y Tymor (40 wythnos y flwyddyn)
-
Cyfnod Penodol, 1 flwyddyn
-
£13.72 - £14.94 (£23,504 - £25,586 y flwyddyn)
-
Wedi'i leoli yng Nghampws Tycoch, gyda theithio i gyflogwyr lleol (Amazon)
-
Cynhaliir y broses o lunio rhestr fer yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ar 31 Awst. Cynhelir cyfweliadau ddydd Mawrth 15 Medi.
Cyfrifoldebau Allweddol:
-
Cynnig hyfforddiant a chymorth i interniaid ar safle gwaith y busnes neu swydd, gan gynnwys: mynychu sesiwn sefydlu gyda'r intern ac egluro gwybodaeth gysylltiedig yn ôl yr angen, gan nodi Addasiadau Rhesymol a gofynion technoleg gynorthwyol.
-
Addysgu tasgau/dyletswyddau/sgiliau craidd y swydd i'r intern. Mae hyfforddwyr gyrfa yn gyfrifol am nifer o fyfyrwyr a byddant yn defnyddio sgiliau cyflogaeth â chymorth da iawn, gan ddarparu cymorth unigol a Chyfarwyddyd Systematig yn dibynnu ar anghenion pob intern a thasg y swydd.
Buddion:
-
28 diwrnod pro rata o wyliau blynyddol gan gynnwys gwyliau banc. Hefyd, mae’r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig.
-
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chyfraniad cyflogwr o 21% ar gyfartaledd (2025).
-
Cynllun Pensiwn Athrawon a chyfraniad cyflogwr o 28.68% ar gyfartaledd (2025).
-
2 ddiwrnod lles i staff bob blwyddyn
-
Disgowntiau ar gostau cwrs os ydych yn astudio un o gyrsiau’r Coleg.
-
Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion: https://www.gcs.ac.uk/cy/recriwtio/buddion-a-lles
Angen cymorth gyda’ch cais? Cliciwch yma i weld ein canllawiau.
Gwybodaeth Bellach
- Os derbynnir llawer o geisiadau ar gyfer y rôl hon, efallai y byddwn newid y dyddiad cau. Felly, awgrymir ichi gyflwyno cais yn gynnar.
-
Fel arfer, gwneir penodiadau i waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).
Amrywiaeth a Chynhwysiant
Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion waeth beth fo’u hoedran, rhywedd, ethnigrwydd, anableddau, cyfeiriadedd rhwyiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gredoau. Rydym yn croesawu hefyd geisiadau gan unigolion mewn grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol o fewn ein sefydliad.
Yr Iaith Gymraeg
I wneud cais yn y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog pobl i gwblhau cais trwy gyfrwng y Gymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau dwyieithog, fel y gallwn ehangu ein gweithlu dwyieithog. Ni fydd ceisiadau Cymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Diogelu
Mae Coleg Gwyr Abertawe’n ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed. Rhaid i bob aelod o staff gydymffurfio â hyn. Bydd penodiadau’n amodol ar wiriadau cyn-gyflogaeth, gan gynnwys:
-
Gwiriad DBS manylach, gan gynnwys Rhestrau Gwaharddedig (£49.50)
-
Cofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru, lle bo angen (£15 - £45 yn dibynnu ar y rôl).