Research Associate in Human Factors Psychology
School of Psychology
This role is part of the EPSRC National AI for Collective Intelligence (AI4CI) Hub: a 5-year (2024-2029) £12M project bringing together researchers from across the UK addressing challenges in pandemic resilience, smart cities, financial stability, healthcare ecosystems, and environmental intelligence. The post-holder will work within the cross-cutting human-centred design (HCD) theme, interacting actively with members of the wider research community of the Hub, identifying synergies that will help build our collective intelligence.
The post-holder will work on an EPSRC project (AI for Collective Intelligence / AI4CI - https://ai4ci.ac.uk/) under the leadership of Professor Phil Morgan to develop and deliver packages - with a key focus on experimental work - within a cross-cutting human-centred design theme, which explores the ways in which AI-driven ‘smart’ agents and/or advisors can leverage collective intelligence to help people to make decisions. There will also be a focus on design features that can enable acceptance, adoption, and continued use of AI ‘smart’ agents and/or advisors whilst always keeping in mind appropriate trust (vs over- or under- trust).
The work will directly impact people, organisations, and policymakers by harnessing the power of data-driven insights, and the post-holder will interact closely with our partners in national and local government as well as the commercial sector in shaping the research programme.
This role will initially be focused on using AI to design and test trusted ‘smart’ agents or advisors and then will progress to evaluating their impact on the tipping points for collective behaviour change.
This position is available immediately, full time (35 hours per week) and is fixed term for two years.
Secondment opportunity welcome - please note for Cardiff University members of staff interested in this post on a secondment basis, permission will need to be sought from your current Line Manager before applying.
Salary: £41,064 - £46,049 per annum (Grade 6). Appointments to roles at Cardiff University are usually made at bottom of scale unless in exceptional circumstances, however, for this position, the starting salary is capped at £44,746 per annum (point 35) due to limited funding.
Cardiff University offers many excellent benefits, including 45 days annual leave (incl. bank holidays), local pension scheme, a cycle to work scheme and other travel initiatives, annual increments within the pay scale, and more. It's an exciting and vibrant place to work with many different challenges and is a proud Living Wage supporter.
Date advert posted: Monday, 7 September 2026
Closing date: Monday, 21 September 2026
Cardiff University is committed to supporting and promoting equality and diversity and to creating an inclusive working environment. We believe this can be achieved through attracting, developing, and retaining a diverse range of staff from many different backgrounds. We therefore welcome applicants from all sections of the community regardless of sex, ethnicity, disability, sexual orientation, trans identity, relationship status, religion or belief, caring responsibilities, or age. We especially welcome and encourage applications from those from under-represented groups within the University workforce, such as those who identify as LGBT +, Ethnic Minority or those with disabilities. In supporting our employees to achieve a balance between their work and their personal lives, we will also consider proposals for flexible working or job share arrangements.
Cardiff University is a signatory to the San Francisco Declaration on Research Assessment (DORA), which means that in hiring and promotion decisions we will evaluate applicants on the quality of their research, not publication metrics or the identity of the journal in which the research is published. More information is available at: Responsible research assessment - Research - Cardiff University
Applications may be submitted in Welsh, and an application submitted in Welsh will not be treated less favourably than an application submitted in English.
Cydymaith Ymchwil mewn Seicoleg Ffactorau Dynol
Yr Ysgol Seicoleg
Mae’r rôl yn rhan o Hyb Genedlaethol AI at Ddibenion Cyd-ddeallusrwydd (AI4CI) yr EPSRC: prosiect EPSRC 5 mlynedd (2024 - 2029) werth £12M sy’n dod ag ymchwilwyr ynghyd o bob rhan o’r DU i fynd i’r afael â heriau gwydnwch mewn pandemig, dinasoedd clyfar, sefydlogrwydd ariannol, ecosystemau gofal iechyd, a deallusrwydd amgylcheddol. Bydd deiliad y swydd yn gweithio o fewn y thema ddylunio drawsbynciol sy’n canolbwyntio ar bobl (HCD), gan ryngweithio ag aelodau o gymuned ymchwil ehangach yr Hyb, a nodi synergeddau fydd yn helpu i ddatblygu ein cyd-ddeallusrwydd.
Bydd deiliad y swydd yn gweithio ar brosiect EPSRC (AI at Ddibenion Cyd-ddeallusrwydd / AI4CI - https://ai4ci.ac.uk/) dan arweiniad yr Athro Phil Morgan i ddatblygu a chyflwyno pecynnau gwaith - gyda ffocws allweddol ar waith arbrofol - ar thema ddylunio drawsbynciol sy’n canolbwyntio ar bobl. Bydd yn archwilio’r ffyrdd y gall asiantau a/neu gynghorwyr 'clyfar' a ysgogir gan AI ddefnyddio cyd-ddeallusrwydd i helpu pobl i wneud penderfyniadau.
Bydd ffocws hefyd ar nodweddion dylunio a all alluogi derbyn, mabwysiadu a defnydd parhaus o asiantau a/neu gynghorwyr 'clyfar' AI gan gofio bob amser am ymddiriedaeth briodol (yn hytrach na thros- neu dan-ymddiriedaeth).
Bydd y gwaith yn effeithio’n uniongyrchol ar bobl, sefydliadau, a llunwyr polisïau drwy ddefnyddio pŵer dealltwriaeth seiliedig ar ddata, a bydd deiliad y swydd yn rhyngweithio’n agos â’n partneriaid llywodraeth genedlaethol a lleol yn ogystal â’r sector masnachol wrth lunio’r rhaglen ymchwil.
Bydd y rôl yn canolbwyntio yn y lle cyntaf ar ddefnyddio AI i ddylunio a phrofi asiantau neu gynghorwyr 'clyfar' dibynadwy, cyn symud ymlaen i werthuso eu heffaith ar y trobwyntiau ar gyfer newid ymddygiad ar y cyd.
Swydd amser llawn (35 awr yr wythnos), cyfnod penodol am ddwy flynedd, ac mae ar gael ar unwaith.
Croesewir ceisiadau am secondiad – os ydych yn aelod o staff Prifysgol Caerdydd sydd â diddordeb yn y swydd hon ar sail secondiad, bydd yn rhaid i chi sicrhau caniatâd gan eich Rheolwr Llinell presennol cyn gwneud cais.
Cyflog: £41,064 - £46,049 y flwyddyn (Gradd 6). Fel arfer penodir i swyddi ym Mhrifysgol Caerdydd ar waelod y raddfa oni fydd amgylchiadau eithriadol. Fodd bynnag, ar gyfer y swydd hon, mae’r cyflog cychwynnol wedi'i gapio ar £44,746 y flwyddyn (pwynt 35) oherwydd cyllid cyfyngedig.
Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig pecyn buddion gwych, sy’n cynnwys 45 diwrnod o wyliau blynyddol (gan gynnwys gwyliau banc), cynllun pensiwn lleol, cynllun beicio i'r gwaith a mentrau teithio eraill, cynyddrannau blynyddol ar hyd y raddfa gyflog, a mwy. Mae’n lle cyffrous a bywiog i weithio, gyda nifer o heriau gwahanol. Rydym hefyd yn falch o gefnogi’r Cyflog Byw.
Dyddiad hysbysebu: Dydd Llun, 7 Medi 2026
Dyddiad cau: Dydd Llun, 21 Medi 2026
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ogystal â chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau yn arbennig gan bobl o grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol yn rhan o weithlu'r Brifysgol, megis y rheini sy'n uniaethu’n LHDT+, o gefndiroedd Ethnig Leiafrifol neu'r rheini sydd ag anableddau. Er mwyn helpu ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu’r swydd.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi llofnodi Datganiad San Francisco ar Asesu Ymchwil (DORA), sy'n golygu y byddwn, wrth wneud penderfyniadau cyflogi a dyrchafu, yn gwerthuso ymgeiswyr ar sail safon eu hymchwil, nid ar sail metrigau cyhoeddi na'r cyfnodolyn y mae'r ymchwil wedi’i chyhoeddi ynddo. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: Asesu ymchwil yn gyfrifol – Ymchwil – Prifysgol Caerdydd
Cewch gyflwyno cais yn Gymraeg, ac ni chaiff cais a gyflwynir yn Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.