Conservation and Heritage Science Assistant
School of History, Archaeology and Religion
An exciting new opportunity has arisen for a Conservation and Heritage Science Assistant to join the School of History, Archaeology and Religion. This role will contribute to research within the AHRC Research Infrastructure for Conservation and Heritage Science (RICHeS) programme, carrying out supporting work that helps lead to the publishing of high-quality research. To pursue excellence in research and to inspire others to do the same.
This post is full-time (35 hours per week), is fixed term until 31 March 2031, and is immediately avaiable.
Cardiff University offers many excellent benefits, including 45 days annual leave (including bank holidays), blended working (meaning you will be able to work from home for some of your time), a cycle to work scheme and other travel initiatives, annual increments up the pay scale, and more. It is an exciting and vibrant place to work, with many different challenges and is a proud Living Wage supporter.
For an informal discussion about the role please contact Dr Nicola Emmerson -
[email protected].
Informal enquiries in relation to the recruitment / application process can be sent to Leah Fowler, HR Administrator -
[email protected].
Salary: £33,951 - £36,636 per annum (Grade 5). We anticipate that this post will start at the bottom of grade.
Date advert posted: Friday, 31 July 2026
Closing date: Sunday, 16 August 2026
Cardiff University is committed to supporting and promoting equality and diversity and to creating an inclusive working environment. We believe this can be achieved through attracting, developing, and retaining a diverse range of staff from many different backgrounds. We therefore welcome applicants from all sections of the community regardless of sex, ethnicity, disability, sexual orientation, trans identity, relationship status, religion or belief, caring responsibilities, or age. We especially welcome and encourage applications from those under-represented groups within the University workforce, such as those who identify as LGBT+, Ethnic Minority or those with disabilities. In supporting our employees to achieve a balance between their work and their personal lives, we will also consider proposals for flexible working or job share arrangements.
Applications may be submitted in Welsh, and an application submitted in Welsh will not be treated less favourably than an application submitted in English.
Cynorthwyydd Gwyddoniaeth Cadwraeth a Threftadaeth
Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol
Rydym am benodi Cynorthwyydd Gwyddoniaeth Cadwraeth a Threftadaeth i ymuno â'r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd. Byddwch yn cyfrannu at ymchwil yn rhan o raglen Seilwaith Ymchwil Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) at ddibenion Gwyddoniaeth Cadwraeth a Threftadaeth (RICHeS) a gwneud gwaith ategol sy’n helpu i arwain at gyhoeddi ymchwil o safon. Byddwch yn sicrhau rhagoriaeth ym maes ymchwil ac yn ysbrydoli eraill i wneud yr un peth.
Mae'r swydd hon yn llawn amser (35 awr yr wythnos), yn gyfnod sefydlog tan 31 Mawrth 2031 ac mae ar gael yn syth.
Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig llawer o fanteision rhagorol, gan gynnwys 45 diwrnod o wyliau blynyddol (gan gynnwys gwyliau banc), gweithio cyfunol (sy'n golygu y byddwch yn gallu gweithio gartref am beth o'ch amser), cynllun beicio i'r gwaith a mentrau teithio eraill, cynyddiadau blynyddol i fyny'r raddfa gyflog, a mwy. Mae'n lle cyffrous a bywiog i weithio, gyda llawer o heriau gwahanol ac mae'n gefnogwr Cyflog Byw balch.
Am drafodaeth anffurfiol am y rôl, cysylltwch â Dr Nicola Emmerson -
[email protected].
Gellir anfon ymholiadau anffurfiol mewn perthynas â'r broses recriwtio / ymgeisio at Leah Fowler, Gweinyddwr AD -
[email protected].
Cyflog: £33,951 - £36,636 y flwyddyn (Gradd 5). Rydym yn rhagweld y bydd y swydd hon yn dechrau ar waelod y raddfa.
Dyddiad hysbysebu: Dydd Gwener, 31 Gorffennaf 2026
Dyddiad cau: Dydd Sul, 16 Awst 2026
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau yn arbennig gan y rhai o grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn gweithlu'r Brifysgol, fel y rhai sy'n uniaethu fel LGBT+, o gefndiroedd ethnig leiafrifol neu'r rhai ag anableddau. Er mwyn helpu ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu swydd.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.