Diolch am eich diddordeb yn y swydd uchod.
Mae Grŵp Cynefin yn gymdeithas dai sy'n adeiladu, creu a chynnal cartrefi gan gefnogi tenantiaid a chwsmeriaid yn eu cymunedau.
Rydyn ni'n berchen ar dros 5,000 o gartrefi gyda dros 10,000 o denantiaid, ac yn gweithredu ar draws chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys.
Mae'r grŵp yn cynnwys dau is-gwmni, Canllaw a Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych. Mae ein gwasanaethau yn cynnwys gwasanaethau cymunedol ac atal digartrefedd.
Mae cymuned wrth wraidd popeth â wnawn. Rydyn ni'n gweithion galed i ddarparu tai diogel, o safon, a gwasanaethau rhagorol. Rydyn ni'n cyfrannu at ddatblygu cymunedau cynaliadwy a hyrwyddo'r iaith a diwylliant Cymraeg gyda balchder.
Gyda 350 o aelodau staff, rydyn ni'n rhoi iechyd a lles ein pobl yn flaenllaw, gan adeiladu Lle i Berthyn i bawb.
Rydym yn chwilio am unigolyn angerddol a gofalgar i ymuno ân tîm. Mae hwn yn gyfle cyffrous ir person cywir a rhywun syn ffynnu mewn amgylchedd heriol ac yn awyddus i wneud gwahaniaeth.
Fel aelod or Tîm Tai a Chefnogaeth byddwch yn cynorthwyor Tîm i sicrhau rheolaeth effeithiol o Penucheldre a darparu gwasanaeth o ansawdd rhagorol i denantiaid.
Dylai eich gwerthoedd adlewyrchu ein gwerthoedd ni.
Os oes gennych yr ysfa ar angerdd i fod yn allweddol wrth wneud gwahaniaeth i ddyfodol pobl, hon ywr swydd i chi.
Os hoffech sgwrs pellach am y swydd, cysylltwch â Sian Ellis, Arweinydd Tim Pobl Hyn, ar 0300 111 2122.
Y Pecyn
Math o gytundeb: Parhaol
Cyflog: £24.574 - £24,940 (pro rata)
Lleoliad: Penucheldre, Caergybi
Oriau Gweithio: 21 awr yr wythnos
Gwyliau: 41 diwrnod pro rata y flwyddyn o wyliau (30 diwrnod craidd, 3 diwrnod yn ller cyfnod rhwng y Nadolig ar Flwyddyn Newydd ar 8 gŵyl banc statudol ymlaen llaw)
Teithio: Defnyddiwr Car Achlysurol
Pensiwn: Mae Grŵp Cynefin yn cynnig darpariaeth pensiwn trwy Gynllun Social Housing Pension Scheme (SHPS)
Mae'r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg ar Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon
Disgrifiad Swydd
Cymraeg DS Cynorthwy-ydd Cynllun 06.26.pdf
Saesneg JD Extra Care Scheme Assistant 06.26.pdf
Buddiannau Pecyn Buddion.pdf Benefits Package.pdf
Datblygiad Personol:
Os oes gennych gymwysterau proffesiynol ach bod yn talu ffioedd proffesiynol blynyddol ich corff aelodaeth, byddwn yn talu un or rhain bob blwyddyn ich helpu i aros yn gysylltiedig âr wybodaeth ar addysg ddiweddaraf gan eich corff proffesiynol. Rydyn ni hefyd eisiau in holl gydweithwyr fwynhau buddion dysgu gydol oes, felly os ydych chin gweithio gyda ni byddwn nin bu ddsoddi ynoch chi fel hyn hefyd!
Dogfennau a Dyddiadau Perthnasol
Hysbysiad Preifatrwydd Ymgeisydd Swydd.pdf
Privacy Notice Job Applicant.pdf
Canllawiau cwblhau cais.pdf
Guidelines for completing your application.pdf
Dyddiad y cyfweliadau: 9 Gorffennaf 2026
Byddwn yn cysylltu â chi drwy e-bost i roi gwybod i chi a ydych wedi cyrraedd y rhestr fer. Cofiwch wirio'ch ffolder Sothach (junk) neu Sbam rhag ofn bod ein neges yn cael ei hidlo yno.
Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)
Byddwn yn gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad Sylfaenol/Manwl/Manwl gyda rhestrau gwahardd ar gyfer y swydd hon.