Gweithio i Gyngor Sir Ynys Môn
Mae Ynys Môn yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae’n ymwneud â gwella bywydau’r bobl sy’n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol â ninnau, sy’n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd â meddylfryd byd busnes, sy’n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu’r safonau uchaf posibl. Ein nod yw creu Ynys Môn sy’n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.
Mae ein llwyddiant yn dibynnu ar y bobl rydyn ni’n eu cyflogi, ac rydym wedi ymrwymo i werthfawrogi ein tîm. Rydym yn cynnig mwy na chyflog yn unig, felly edrychwch ar rai o’r buddion y gallwn eu cynnig i’n staff: Buddion o weithio i Gyngor Sir Ynys Môn
Pwrpas cyffredinol y swydd
Cydymffurfio â Pholisi Diogelu Corfforaethol yr awdurdod lleol a’r dyletswyddau a
chyfrifoldebau diogelu y mae’r polisi hwnnw’n ei roi ar bob gweithiwr, gan gydweddu â gwerthoedd craidd yr Awdurdod sy’n cynnwys cefnogi plant, oedolion a all fod mewn perygl a’u teuluoedd er mwyn eu cadw’n ddiogel ac iach.
Yn unol â Pholisi Diogelu Corfforaethol yr Awdurdod Lleol a Fframwaith Diogelu Gofal Cymdeithasol Cymru, mae'r rôl hon yn ei gwneud yn ofynnol i'r deiliad swydd gwblhau hyfforddiant diogelu ar y lefel briodol. Rhaid i bob gweithiwr gwblhau Grŵp A (e-ddysgu mandadol). Yn ogystal, bydd angen i ddeiliad y swydd sicrhau eu bod yn cydymffurfio â gofynion y lefel islaw o hyfforddiant yn unol â'r Fframwaith Hyfforddiant Diogelu.
Mwy o wybodaeth
Gwelwch y swydd disgrifiad am mwy o gwybodaeth a gofynion sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y swydd hon.
Penodiad yn ddibynnol ar Gwiriad GDG (DBS) lefel safonol boddhaol.
Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.
Atodir isod y disgrifiad swydd/manyleb person.
Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a’r fanyleb person i’ch cyfrifiadur neu ar gof bach gan y bydd y dogfennau yn diflannu unwaith y bydd y swydd yn cau.
Manylion cyswllt
Enw: Ceri Wyn Griffith
Rhif ffôn: 01248 752773
Cyfeiriad e-bost: [email protected]
Job Reference: CORP100785