Mae Caffi Bar Galeri yn penodi Dirprwy-Reolwr Lletygarwch i gefnogi'r galw, i sicrhau safon, gwasanaeth a chysondeb i'n cwsmeriaid, 7 diwrnod yr wythnos. Dyma gyfle i ymuno gyda thîm lletygarwch Galeri, i weithio'n agos gyda'r Rheolwr mewn Canolfan Gelfyddydol sy'n brysur, yn deinamig, yn cynnal digwyddiadau byw wythnosol a sy'n llawn egni creadigol.
Prif Gyfrifoldebau:
- Cynorthwyo y Rheolwr Lletygarwch i oruchwylio gweithrediadau dydd i ddydd yn y caffi, cegin, bar, a ciosg y sinema.
- Cydlynu’r timau blaen tŷ â’r gegin i sicrhau fod gweithrediadau lletygarwch yn cydlynu â’r safonau.
- Dirprwyo tasgau yn effeithiol i aelodau staff blaen tŷ.
- Ymateb i adborth yn broffesiynol.
- Rheoli ar dîmau blaen tŷ ac y gegin yn absenoldeb y rheolwr.
- Helpu gyda creu rota ac archebion yn ystod cyfnodau o absenoldeb y rheolwr.
- Cynorthwyo yn hyfforddiant a datblygiad y tîm blaen tŷ i wella perfformiad a gwasanaeth.
- Sicrhau fod archebion cynnyrch dyddiol yn cael eu cyflawni ar amser ac yn unol ac anghenion stoc.
- Balansio tills a rheoli arian ar ddiwedd nos.
Sgiliau / Cymwysterau Hanfodol:
- Profiad sefydledig yn y maes lletygarwch.
- Dealltwriaeth cryf o safonau iechyd, hylendid, a diogelwch.
- Sgiliau trefnu a chyfathrebu cryf.
- Gallu medru'r iaith Gymraeg yn rhygl.
Sgiliau / Cymwysterau Dymunol:
- Cymwyster Iechyd a Hylendid Bwyd Lefel 2.
- Cymwyster Cymorth Cyntaf.
Amodau Gwaith:
Oriau llawn amser yn unol â rota wythnosol, gan gynnwys gwaith gyda’r nos a dros y penwythnos, yn unol â’r galw.
Proses Ymgeisio:
Cwblhewch y ffurflen gais o'r wefan ( www.galericaernarfon.com/swyddi ) a'i ebostio draw i [email protected] erbyn Dydd Mercher, Gorffennaf 15fed.
Mae'n angenrheidiol fod ffurflen gais yn cael ei gyflwyno er mwyn i'r cais gael ei ystyried. Ni dderbynnir CVs yn unig.
Pay: £27,000.00-£29,500.00 per year
Benefits:
- Company pension
- Employee discount
Language:
Work Location: In person