Company Overview
Rydym yn chwilio am berson gweithgar, brwd a chydwybodol i ymgymryd â’r swydd uchod. Disgwylir i’r person a benodir fod â’r gallu i gyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig yn y Gymraeg a’r Saesneg. Bydd gan y person a benodir gwybodaeth am drefniadau cyllid safonol a sgiliau rhyngbersonol da. Mae’r gallu i weithio’n hyblyg, yn annibynnol ac fel rhan o dîm yn hanfodol.
Dyletswyddau’r Swydd
Bod yn atebol i Brif Weithredwr Mudiad Meithrin trwy’r Pennaeth Adnoddau a Chyllid am gyflawni’r dyletswyddau canlynol:
- Bod yn barod i roi gwybodaeth ffeithiol i staff Mudiad Meithrin, staff darpariaethau a’r cyhoedd ar ystod o faterion drwy gyfrwng y ffôn, e-bost, y we a llythyr (gan felly ymdrin â hwy yn amserol, gwrtais a pharchus).
- Cyfrannu at y gwaith o gael trefniadaeth fewnol dda er mwyn creu argraff ffafriol a chadarnhaol o waith Mudiad Meithrin (yn fewnol ac y allanol).
- Cysoni cyfrifon banc Mudiad Meithrin a’r is-gwmni o leiaf bob wythnos gan sicrhau fod pob trafodyn wedi nodi ar SAGE yn gywir. Darparu’r cysoniad i’r Rheolwyr Cyllid i’w adolygu yn fisol a’n amserol.
- Cynorthwyo i gadw cyfrifon rhai o’r Cynghorau Sir a pharatoi cyfrifon misol / chwarterol / blynyddol y Mudiad a’r is-gwmni yn dilyn y camau ar y rhestr wirio.
- Cynorthwyo gyda’r gwaith o gofnodi gwybodaeth am bensiynau gyda Royal London yn fisol.
- Gweinyddu cyflogau mewn cydweithrediad ac Adnoddau Dynol i staff Mudiad Meithrin a’r is-gwmni gan brosesu gwybodaeth cyflogaeth a threuliau e.e. tâl gwyliau, salwch, mamolaeth/tadolaeth, newidiadau codau treth, FPS. A’c yna prosesu drwy ‘nominal link’ i’r system SAGE 50
· Gweinyddu y system pwrcasu cardiau credyd Barclaycard y Mudiad a’r is-gwmni
- Mewnbynnu anfonebau cyflenwyr i SAGE yn gywir o leiaf dwywaith yr wythnos, delio gyda datganiadau cyflenwyr misol i sicrhau fod pob anfoneb wedi cofnodi yn gywir. Adolygu’r cyflenwyr yn fisol.
- Mewnbynnu anfonebau dyledwyr i SAGE yn ôl y gofyn. Anfon datganiadau misol allan i ddyledwyr yn amserol. Adolygu’r dyledwyr yn fisol.
- Cadw cofnod o asedau’r Mudiad ar Excel gan ddarparu ffigyrau dibrisiant ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.
- Cyfrannu o fewn cyfarfodydd dalwyr cyllideb gyda’r Pennaeth Adnoddau a Chyllid
- Paratoi anfonebau i’w hawdurdodi yn wythnosol.
- Gweinyddu costau teithio y Mudiad a’r is-gwmni a sicrhau ei fod yn barod i ychwanegu i’w thalu yr un pryd ar cyflogau yn fisol.
- Cysoni cyfrifon arian parod a chardiau credyd y Mudiad a’r is-gwmni bob mis yn amserol ac yn gywir.
- Cofnodi sieciau ac arian parod a dderbynnir yn y swyddfa ar SAGE a’u trosglwyddo i’r banc yn dilyn gweithdrefnau
- Codi anfonebau yn unol â’r gofyn ac anfon datganiadau misol i ddyledwyr.
- Delio gyda ffurflenni P45, P46, P60 ag ati, a chwblhau gwybodaeth diwedd y flwyddyn drethadwy.
- Delio â galwadau ac ymholiadau parthed cyflogaeth yn fewnol gan gyfeirio at y person cywir am atebion pan fo angen.
· Ymateb i ymholiadau gan aelodau Mudiad Meithrin drwy gweinyddu’r e-bost cyswllt.
· Cynorthwyo gyda ymholiadau fydd yn dod gan archwilwyr allanol.
· Cynorthwyo gyda tasgau yn ymwneud gyda’r cyfrifon blynyddol
· Cynorthwyo gyda’r broses o osod y gyllideb blynyddol
- Cynorthwyo gydag unrhyw waith cyllidol/gweinyddiaeth arall perthnasol a chyffredinol i swyddogaeth y Mudiad yn ôl cyfarwyddyd y Prif Weithredwr.
- Unrhyw waith arall perthnasol a chyffredinol i swyddogaeth Mudiad Meithrin yn ôl cyfarwyddyd y Prif Weithredwr.
- Cyfrannu’n weithredol at hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd o’r gwaith, gan wrthod unrhyw ragfarn, ac ymdrin ag unrhyw wrthdaro neu ddigwyddiad yn brydlon yn unol â’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.
Pay: £25,175.00-£28,531.00 per year
Benefits:
Work Location: Remote