Gweithio i Gyngor Sir Ynys Môn
Mae Ynys Môn yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae’n ymwneud â gwella bywydau’r bobl sy’n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol â ninnau, sy’n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd â meddylfryd byd busnes, sy’n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu’r safonau uchaf posibl. Ein nod yw creu Ynys Môn sy’n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.
Mae ein llwyddiant yn dibynnu ar y bobl rydyn ni’n eu cyflogi, ac rydym wedi ymrwymo i werthfawrogi ein tîm. Rydym yn cynnig mwy na chyflog yn unig, felly edrychwch ar rai o’r buddion y gallwn eu cynnig i’n staff: Buddion o weithio i Gyngor Sir Ynys Môn
Pwrpas cyffredinol y swydd
- Bod yn Uwch Swyddog Budd-daliadau o fewn tîm a chanddo gyfrifoldeb am ddyfarnu Budd-daliadau Lles o fewn y Gwasanaeth Asesu Ariannol ar gyfer Budd-daliadau, gan oruchwylio staff budd-daliadau sy'n gyfrifol am Daliadau Tai Dewisol, Prydau Ysgol Am dim / Grantiau Hanfodion Ysgol a’r strategaeth ymyraethau, gan sicrhau y cyflawnir yr holl dargedau perthnasol a bod cwsmeriaid yn cael eu trin yn gwrtais ac yn unol â deddfwriaeth ac ymarfer da.
- Dirprwyo ar ran yr Rheolwr Budd-daliadau yn absenoldeb deiliad y swydd honno.
- Fel Uwch Swyddog Budd-daliadau, bod yn uwch swyddog dynodedig sy’n delio ag achosion mwy cymhleth.
- Cynorthwyo’r Rheolwr Budd-daliadau i wella’r gwasanaeth yn barhaus trwy ddatblygu a gweithredu polisïau, mentrau a strategaethau i wella perfformiad y tîm a bod yn benodol gyfrifol am berfformiad unigol y swyddogion budd-daliadau sydd o dan oruchwyliaeth uniongyrchol y swyddog.
- Cynorthwyo'r Rheolwr Budd-daliadau i ddylanwadu, datblygu a darparu Gwasanaethau Asesu Ariannol y Cyngor mewn perthynas â Budd-daliadau.
- Cynorthwyo’r Rheolwr Budd-daliadau i ddatblygu a chynnal perthynas effeithiol gyda thimau eraill yn y Gwasanaeth Refeniw a Budd-daliadau, partneriaid allweddol, darparwyr gwasanaethau, rhanddeiliaid a chwsmeriaid, a hynny er mwyn cynorthwyo'r Rheolwr Budd- daliadau i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel sy'n cwrdd ag anghenion defnyddwyr.
Mwy o wybodaeth
Penodiad yn ddibynnol ar Gwiriad GDG (DBS) lefel safonol boddhaol.
Gwelwch y swydd disgrifiad am mwy o gwybodaeth a gofynion sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y swydd hon.
Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.
Atodir isod y disgrifiad swydd/manyleb person.
Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a’r fanyleb person i’ch cyfrifiadur neu ar gof bach gan y bydd y dogfennau yn diflannu unwaith y bydd y swydd yn cau.
Manylion cyswllt
Enw: Russel Williams
Rhif ffôn: 01248 750057
Cyfeiriad e-bost: [email protected]
Job Reference: CORP100858