Gweithio i Gyngor Sir Ynys Môn
Mae Ynys Môn yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae’n ymwneud â gwella bywydau’r bobl sy’n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol â ninnau, sy’n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd â meddylfryd byd busnes, sy’n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu’r safonau uchaf posibl. Ein nod yw creu Ynys Môn sy’n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.
Mae ein llwyddiant yn dibynnu ar y bobl rydyn ni’n eu cyflogi, ac rydym wedi ymrwymo i werthfawrogi ein tîm. Rydym yn cynnig mwy na chyflog yn unig, felly edrychwch ar rai o’r buddion y gallwn eu cynnig i’n staff: Buddion o weithio i Gyngor Sir Ynys Môn
Pwrpas cyffredinol y swydd
Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn gosod dyletswydd ar Awdurdodau Lleol i ddarparu agwedd ataliol tuag at ddarparu gwasanaethau llesiant i drigolion. Er mwyn ein galluogi ni i wella ein hymateb i’r ddyletswydd hon; rydym yn sefydlu tîm newydd a fydd yn darparu teuluoedd â chefnogaeth ddwys a chyflym gyda’r nod o gryfhau gwydnwch, atal teuluoedd rhag chwalu a hyrwyddo newid fel bod yr amgylchedd teuluol yn un diogel.
Nod y Tîm Teuluoedd Gwydn fydd:
- Gweithio’n ddwys â theuluoedd er mwyn cadw eu plant allan o ofal.
- Gweithio’n ddwys â theuluoedd er mwyn ailuno plentyn â’i deulu o fewn 8 wythnos o’r adeg pryd y dechreuodd dderbyn gofal.
- Gweithio’n ddwys â theuluoedd sydd wedi’u hadnabod er mwyn eu hailuno gyda’u plant sydd mewn gofal ar hyn o bryd ac achos lle mae dychwelyd adref wedi cael ei nodi fel cynllun parhaol ar eu cyfer yn y tymor hir.
Bydd y Tîm yn cynnwys gweithwyr proffesiynol sydd â’r sgiliau a’r profiad o weithio’n uniongyrchol â phlant sy’n derbyn gofal a chefnogaeth, eu rhieni ac oedolion ag anghenion iechyd a gofal cymdeithasol cymhleth. Bydd y tîm yn gweithio’n rhagweithiol ac yn ddwys gyda theuluoedd er mwyn rheoli risg, ymateb yn ddigyffro i argyfwng a thrwy ffyrdd arloesol, cymorth ymarferol a sgiliau therapiwtig, cryfhau gwytnwch, gallu rhianta a lleihau risg o fewn teuluoedd, er mwyn sicrhau gwell canlyniadau ar gyfer plant a phobl ifanc.
Mwy o wybodaeth
Gwelwch y swydd disgrifiad am mwy o gwybodaeth a gofynion sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y swydd hon.
- Penodiad yn ddibynnol ar Gwiriad GDG (DBS) lefel uwch boddhaol
Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.
Atodir isod y disgrifiad swydd/manyleb person.
Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a’r fanyleb person i’ch cyfrifiadur neu ar gof bach gan y bydd y dogfennau yn diflannu unwaith y bydd y swydd yn cau.
Manylion cyswllt
Enw: Dawn Hutchinson
Rhif ffôn: 01248750057
Cyfeiriad e-bost: [email protected]
Job Reference: CORP100709