The following is an advert for a Deputy Headteacher where the ability to converse through the medium of Welsh and English is essential.
Ydych chi’n berson brwdfrydig, egnïol sy’n awyddus i wneud gwahaniaeth go iawn ym mywydau plant? Hoffech chi ymuno ag ysgol hapus, ofalgar a llwyddiannus lle mae lles a chynnydd pob disgybl yn ganolog i bopeth a wnawn?
Mae Ysgol Gymunedol Penparc yn chwilio am Gynorthwyydd Addysgu Lefel 2 medrus i ymuno â’n tîm ymroddedig mor fuan â phosib, am gyfnod o flwyddyn i gychwyn. Gyda 128 o ddisgyblion ar y gofrestr, rydym yn gymuned glos sy’n rhoi pwyslais ar ofal, cydweithio a chreu cyfleoedd dysgu cyffrous i bawb.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi dysgu a datblygiad disgyblion ac yn cyd-weithio i gefnogi disgybl sydd ag amhariad golwg am un diwrnod yr wythnos.
Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol i’r swydd hon.
Disgwyliadau’r rôl:
- Cefnogi disgyblion, gan gynnwys rhai ag anghenion dysgu ychwanegol, mewn amgylchedd diogel a chynhwysol.
- Meithrin perthnasoedd cadarnhaol gyda disgyblion a’u hannog i gymryd rhan lawn mewn gweithgareddau dysgu.
- Hyrwyddo hunan-barch, annibyniaeth a chydweithio ymhlith disgyblion.
- Gweithio’n agos gydag athrawon i gynllunio a chyflwyno gweithgareddau dysgu ystyrlon.
- Bod yn rhan weithgar o dîm cefnogol ac ymroddedig.
Rydym yn chwilio am rywun sydd:
- Yn meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol yn y Gymraeg a’r Saesneg.
- Yn gallu adeiladu perthnasau cadarn dros ystod oedran a gallu.
- Yn gweithio’n hyblyg ac yn gadarnhaol fel rhan o dîm.
- Yn meddu ar gymhwyster CGC2 neu brofiad cyfatebol.
Byddai profiad o weithio gyda disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn fantais, ond nid yn hanfodol.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Am fwy o fanylion, mae croeso cynnes i chi gysylltu gyda’r Pennaeth Bethan Morgan-Jenkins drwy e-bost: [email protected]
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.