Amdanom ni:
Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.
Yng Ngholeg Gwyr Abertawe, rydym yn angerddol am fuddsoddi yn ein staff a gofalu am eu lles, er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth yn y gwaith a gartref.
Y Rôl:
Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn brwdfrydig a dawnus i ymuno â’n tîm arwain ar ein campws llwyddiannus ac arobryn, Llwyn y Bryn. Mae’r campws amrywiol yn cynnwys pedwar maes dysgu gan gynnwys Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL), Celfyddydau Gweledol, Addysg Sylfaenol i oedolion (ABE) a Pherfformiad Cerddoriaeth. Gan weithio ochr yn ochr â’r Rheolwr maes Dysgu (RhMD) i ddarparu arweiniad i’r meysydd dysgu, byddwch yn cynnig arweiniad clir i staff, gan eu grymuso, ysbrydoli, ysgogi a’u cefnogi i ddarparu addysg o’r radd flaenaf.
-
Llawn Amser (37 awr yr wythnos)
-
Parhaol
-
£52,333 - 54,044 y flwyddyn
-
Llwyn & Bryn & Campws Ffordd y Brenin
Cyfrifoldebau Allweddol
-
Byddwch yn cynorthwyo gyda chynllunio a rheoli'r Maes Dysgu gan gynnwys cwricwlwm, ansawdd, cyllidebu, staff a rheoli dysgwyr.
-
Bydd Rheolwr Cynorthwyol y Maes Dysgu yn helpu Rheolwr y Maes Dysgu i arwain staff gan sicrhau bod y safonau ansawdd uchaf yn cael eu cyflawni gyda ffocws clir ar ddysgu ac addysgu rhagorol, codi safonau ac ymateb i anghenion dysgwyr.
-
Byddwch yn cymryd rhan mewn rhaglen datblygu Arweinyddiaeth a Rheolaeth
Amdanoch chi:
-
Byddwch yn meddu ar radd neu gymhwyster cyfatebol mewn disgyblaeth gysylltiedig
-
Chymhwyster addysgu cydnabyddedig (TAR neu gymhwyster cyfatebol)
-
Gwybodaeth o faterion cyfredol sy'n wynebu Colegau AB
-
Deall methodolegau cyllido AB gan gynnwys AU, DSW, 14-16
-
Profiad o ddatblygu cwricwlwm i wella dilyniant a chyfleoedd cyflogadwyedd
Buddion:
-
37 diwrnod o wyliau blynyddol gan gynnwys gwyliau banc. Hefyd, mae’r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig
-
Cynllun Pensiwn Athrawon a chyfraniad cyflogwr o 23% ar gyfartaledd (2023)
-
Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion: https://www.gcs.ac.uk/cy/recruitment/benefits-and-wellbeing
Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo’u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu’n arbennig ceisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn ein sefydliad.
Os hoffech ymgymryd â’r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a’r angen i ehangu gweithlu dwyieithog.
Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff gydymffurfio â’r ymrwymiad hwn. Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â gwiriad DBS manylach a chofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.
Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).