Amdanom ni:
Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.
Yng Ngholeg Gwyr Abertawe, rydym yn angerddol am fuddsoddi yn ein staff a gofalu am eu lles, er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth yn y gwaith a gartref.
Y rôl:
Mae Coleg Gwyr Abertawe yn chwilio am athrawon neu ddarlithwyr hyblyg a phrofiadol i gyflenwi a darparu holl gymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru (Cyfathrebu, Cymhwyso Rhifedd, Llythrennedd Digidol a Chyflogadwyedd) hyd at Lefel 2 o leiaf
-
26 awr yr wythnos (0.7)
-
Parhaol
-
£18,470-£36,351 yr flwyddyn (£26,386 - £51,931 FTE) (yn dibynnu ar gymwysterau a phrofiad)
-
Cross Campus
Byddwch yn:
-
Athrawon, darlithwyr neu athrawon ysgol uwchradd wedi ymddeol cymwysedig a rhagorol, sy’n deall heriau amgylchedd addysgu
-
Gweithwyr proffesiynol sy’n gallu gweithio’n annibynnol ac mewn tîm i ddatblygu potensial dysgwyr, gan werthfawrogi eu bod yn dod o amrywiaeth eang o gefndiroedd
-
Pobl gyfeillgar a chlên gyda disgwyliadau uchel o bob dysgwr
-
Gweithwyr proffesiynol sydd â phrofiad perthnasol diweddar o fentrau a manylebau newydd. Ar gyfer Llythrennedd Digidol er enghraifft, sgiliau i addysgu’r canlynol: llythrennedd gwybodaeth, cydweithredu digidol, creadigrwydd a sgiliau dysgu a defnydd moesegol o adnoddau digidol, olion traed digidol, amddiffyn eich hun ar-lein a seiberfwlio
-
Ymarferydd â sgiliau trefnu a chyfathrebu cryf sydd â dealltwriaeth o bwysigrwydd anghenion unigol dysgwyr
-
Rhywun sydd â’r hyder a’r creadigrwydd i rannu syniadau ar gyfer ennyn diddordeb dysgwyr a dylunio adnoddau digidol difyr i wella’r ddarpariaeth ymhellach
-
Gallu gweithio’n dda dan bwysau
Buddion:
-
46 diwrnod o wyliau blynyddol / Cytundeb Cenedlaethol Hawl Gyliau Blynyddol (pro rata)
-
Cynllun Pensiwn Athrowon a chyfraniad cyflogwr o 28% ar gyfartaledd (2024)
-
2 ddiwrnod Iles i staff
-
Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion: https://www.gcs.ac.uk/cy/recruitment/benefits-and-wellbeing
Angen cymorth gyda’ch cais? Cliciwch yma i weld ein canllawiau.
Gwybodaeth Bellach
-
Os derbynnir llawer o geisiadau ar gyfer y rôl hon, efallai y byddwn newid y dyddiad cau. Felly, awgrymir ichi gyflwyno cais yn gynnar.
-
Cyflog Amser Llawn: £26,386 - £51,931 y flwyddyn (yn dibynnu ar gymwysterau a phrofiad.
Amrywiaeth a Chynhwysiant
Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion waeth beth fo’u hoedran, rhywedd, ethnigrwydd, anableddau, cyfeiriadedd rhwyiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gredoau. Rydym yn croesawu hefyd geisiadau gan unigolion mewn grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol o fewn ein sefydliad.
Yr Iaith Gymraeg
I wneud cais yn y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog pobl i gwblhau cais trwy gyfrwng y Gymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau dwyieithog, fel y gallwn ehangu ein gweithlu dwyieithog. Ni fydd ceisiadau Cymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Diogelu
Mae Coleg Gwyr Abertawe’n ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed. Rhaid i bob aelod o staff gydymffurfio â hyn. Bydd penodiadau’n amodol ar wiriadau cyn-gyflogaeth, gan gynnwys:
-
Gwiriad DBS manylach, gan gynnwys Rhestrau Gwaharddedig (£49.50)
-
Cofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru, lle bo angen (£15 - £45 yn dibynnu ar y rôl).