Amdanom ni:
Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled Abertawe a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr blaenllaw iawn yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.
Mae’r Coleg hefyd yn cynnig darpariaeth lles staff o’r radd flaenaf, sy’n adlewyrchu ein hymrwymiad i fuddsoddi yn ein staff gan sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi.
Y rôl:
Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn profiadol a brwdfrydig i addysgu fel aelod o dîm Saesneg Coleg Gwyr Abertawe. Mae’r rôl yn barhaol, ffracsiynol hon wedi’i lleoli ar gampws Gorseinon a bydd gofyn i ddeiliad y swydd ddarparu cwricwlwm Saesneg Safon Uwch CBAC. Mae Saesneg yn bwnc poblogaidd yng Ngholeg Gwyr Abertawe ac mae’r rôl hon yn gyfle i ymuno ag adran lewyrchus sy’n meddu ar ymagwedd gadarn a chefnogol at addysgu a dysgu.
-
Rhan amser (18.5 awr yr wythnos)
-
Parhaol
-
£13,193 - £25,965 y flwyddyn
-
Campws Gorseinon, Abertawe
Cyfrifoldebau Allweddol
-
Gweithio gyda'r tîm i gyflwyno cyrsiau Saesneg Safon Uwch gan sicrhau rhagoriaeth mewn addysgu, dysgu ac asesu ar gyfer UG ac A2.
-
Cynllunio, paratoi ac addysgu cyrsiau Saesneg Safon Uwch gan sicrhau bod cynlluniau gwaith ac asesiadau yn cydymffurfio â manyleb y bwrdd arholi.
-
Sicrhau bod strategaethau addysgu a dysgu a deunyddiau addysgu wedi'u cynllunio yn benodol ar gyfer diwallu anghenion amrywiol dysgwyr.
-
Gweithio gyda'r Arweinydd Cwricwlwm a'r Rheolwr Ardal Ddysgu i osod targedau a monitro perfformiad mewn perthynas â recriwtio, presenoldeb, cyfraddau cadw a chyrhaeddiad.
-
Cadw i fyny â datblygiadau'r cwricwlwm, gwybodaeth pwnc ac arloesiadau eraill mewn perthynas ag addysgu a dysgu.
Amdanoch chi
-
Yn meddu ar radd berthnasol a chymhwyster addysgu cydnabyddedig.
-
Yn meddu ar brofiad llwyddiannus o addysgu Saesneg Safon Uwch ac angerdd am y pwnc.
-
Sgiliau cyfathrebu da iawn ac ymrwymiad i ysbrydoli dysgwyr o bob gallu.
-
Sgiliau trefnu rhagorol a chwaraewr tîm.
-
Y gallu i weithio'n hyblyg i ddiwallu anghenion dysgwyr.
Buddion:
-
46 pro rata diwrnod o wyliau blynyddol gan gynnwys gwyliau banc. Hefyd, mae’r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig.
-
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chyfraniad cyflogwr o 21% ar gyfartaledd (2025).
-
Cynllun Pensiwn Athrawon a chyfraniad cyflogwr o 28.68% ar gyfartaledd (2025).
-
2 ddiwrnod lles i staff bob blwyddyn
-
Disgowntiau ar gostau cwrs os ydych yn astudio un o gyrsiau’r Coleg.
-
Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion: https://www.gcs.ac.uk/cy/recriwtio/buddion-a-lles
Angen cymorth gyda’ch cais? Cliciwch yma i weld ein canllawiau.
Gwybodaeth Bellach
- Os derbynnir llawer o geisiadau ar gyfer y rôl hon, efallai y byddwn newid y dyddiad cau. Felly, awgrymir ichi gyflwyno cais yn gynnar.
-
Cyflog Amser Llawn: £26,386 - £51,931 y flwyddyn (yn dibynnu ar gymwysterau a phrofiad).
Amrywiaeth a Chynhwysiant
Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion waeth beth fo’u hoedran, rhywedd, ethnigrwydd, anableddau, cyfeiriadedd rhwyiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gredoau. Rydym yn croesawu hefyd geisiadau gan unigolion mewn grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol o fewn ein sefydliad.
Yr Iaith Gymraeg
I wneud cais yn y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog pobl i gwblhau cais trwy gyfrwng y Gymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau dwyieithog, fel y gallwn ehangu ein gweithlu dwyieithog. Ni fydd ceisiadau Cymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Diogelu
Mae Coleg Gwyr Abertawe’n ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed. Rhaid i bob aelod o staff gydymffurfio â hyn. Bydd penodiadau’n amodol ar wiriadau cyn-gyflogaeth, gan gynnwys:
-
Gwiriad DBS manylach, gan gynnwys Rhestrau Gwaharddedig (£49.50)
-
Cofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru, lle bo angen (£15 - £45 yn dibynnu ar y rôl).